Pump am y Penwythnos 6.10.2006

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Gwe 06 Hyd 2006 6:11 pm

1. Ydych chi'n credu mewn Duw neu mewn pwer uwch?
Nagw, fi'n cretu mewn byw. Pob hawl i bobol sydd yn grefyddol, a whare teg i' nhw. Ond sai' yn, a paid trial wneud i fi bod, oes gwelwch yn dda.

2. Ai syniadau yw da a drwg, neu bwerau go iawn?
Syniade. So'r byd yn gêm RPG.

3. A yw crefydd yn achosi mwy o ddrwg na da?
Cwesiwn annodd 'chan. Ma crefydd di wneud lot fawr o les i'r byd dros y canrhifoedd fel catw y gair ysgrifenyddig yn fyw. Ond hefyd mae di achosi cystal o drygioni 'fyd fel creu lot fawr o safbwyntiau cul, a nifer maith o rhyfeloedd. Ond se pobol dim yn ymla'dd dros eu grefydd, ymladdon nhw dros rhywbeth arall.

4. Beth yw'r peth cyntaf fyddech chi'n ei wneud petai chi'n Dduw?
Troi dŵr yn wîn. Wedi troi dŵr fy hun yn wîn. Repeat ad infinitum.

5. Pwy wnaeth sêr S4C?
Erm...sai'mpo. Siwperted? Dai Jones? :?
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Re: Pump am y Penwythnos 6.10.2006

Postiogan Selador » Gwe 06 Hyd 2006 8:13 pm

1. Ydych chi'n credu mewn Duw neu mewn pwer uwch?
Ydw, mae o ond yn rhesymol credu fod rhyw fath o fywyd yn bodoli sydd tu hwnt i ddealltwriaeth ein synhwyrau ni. Mi fysa'r pwer yma yn ymddangos i ni fel dani'n ymddangos i fywyd planhigion.

2. Ai syniadau yw da a drwg, neu bwerau go iawn?
Hmm, un anodd. Mi ellir dadlau mai arf esblygol ydio i sicrhau fod pobol yn medru cyd-fyw yn llwyddianus a ffynu oddi fewn cymdeithas. Ond ar y llaw arall tydi hyn ddim yn esbonio'r peth o gwbwl, oherwydd os mai bodoli er mwyn bodoli yda ni, pam fod pobol angen bod yn ymwybodol?

3. A yw crefydd yn achosi mwy o ddrwg na da?
Mae crefydd, yn ei ffurf bur a goleuedig, yn gwneud llawer o dda a bron dim niwed. Mae crefydd sydd yn cael ei gamddehongli neu ei ecsbloitio yn medru bod yn hynod niweidiol.
Ond wedi meddwl, ni all crefydd fod yn dda na drwg heb fodau dynol, felly mae crefydd fel syniad abstract yn gwbl ddiniwed.

4. Beth yw'r peth cyntaf fyddech chi'n ei wneud petai chi'n Dduw?
Dim byd.

5. Pwy wnaeth sêr S4C?
Rhyw Dduw pegan meddw.
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste

Re: Pump am y Penwythnos 6.10.2006

Postiogan anffodus » Gwe 06 Hyd 2006 9:27 pm

1. Ydych chi'n credu mewn Duw neu mewn pwer uwch?
Ydw

2. Ai syniadau yw da a drwg, neu bwerau go iawn?
Syniadau sydd yn amrywio'n fawr

3. A yw crefydd yn achosi mwy o ddrwg na da?
Ar yr wynab ella bod hi i weld fod crefydd yn achosi lot fwy o ddrwg nac o dda - rhyfeloedd ac ati, ond ma crefydd yn dod a daioni i galonna pobl sy' ddim yn bosib ei fesur dwi'n meddwl

4. Beth yw'r peth cyntaf fyddech chi'n ei wneud petai chi'n Dduw?
Groesa i'r bont honno pan ddo i ati.

5. Pwy wnaeth sêr S4C?
Y Diafol
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Re: Pump am y Penwythnos 6.10.2006

Postiogan Chwadan » Gwe 06 Hyd 2006 10:37 pm

Newydd sbotio rhai wythnos dwytha - doniol :D Ta waeth...

1. Ydych chi'n credu mewn Duw neu mewn pwer uwch?
Dim ond pan mai'n ddrwg arna'i. Ma hynna'n uffernol dydi :wps:

2. Ai syniadau yw da a drwg, neu bwerau go iawn?
Gwirioneddau cyffredinol. Dwnim os ydi hynna'n wir, nac os ydi hynna'n golygu eu bod yn syniadau neu'n bwerau.

3. A yw crefydd yn achosi mwy o ddrwg na da?
Pobl sy'n achosi drwg a da. Tasa gennan ni ddim crefydd, sa gennan ni ryw gymhelliad arall dros ymddwyn fel yr ydan ni.

4. Beth yw'r peth cyntaf fyddech chi'n ei wneud petai chi'n Dduw?
Chwerthin fel Craca Hyll am ryw awr neu ddwy, wedyn ista lawr efo panad, pad o bapur a beiro.

5. Pwy wnaeth sêr S4C?
Ein harglwydd dduw, natch. A Hywel Gwynfryn.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am y Penwythnos 6.10.2006

Postiogan krustysnaks » Gwe 06 Hyd 2006 11:43 pm

1. Ydych chi'n credu mewn Duw neu mewn pwer uwch?
Na, heb rithin o amheuaeth.

2. Ai syniadau yw da a drwg, neu bwerau go iawn?
Syniadau cwbl artiffisial, wedi eu creu drwy brosesau diwylliannol a chymdeithasol.

3. A yw crefydd yn achosi mwy o ddrwg na da?
Mae crefydd yn creu llawer mwy o ddrwg nac unrhyw syniadaeth arall gallai feddwl amdano - mae effaith crefydd ar ddynoliaeth i mi bron yn hollol ddinistriol.

4. Beth yw'r peth cyntaf fyddech chi'n ei wneud petai chi'n Dduw?
Lladd fy hun.

5. Pwy wnaeth sêr S4C?
Vaughan Hughes. Heb "Y Byd yn ei Le" gyda Vaughan Hughes, fe fyddai Newyddion 7 heb wên a winc Gari Owen - rydyn ni mewn dyled am byth i Vaughan am hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos 6.10.2006

Postiogan Macsen » Sad 07 Hyd 2006 12:07 am

1. Ydych chi'n credu mewn Duw neu mewn pwer uwch?
Rydw i'n agnostic; does gen i'm syniad os yw Duw yn bodoli ai peidio. Rydw i'n teimlo i ryw raddau fod pobol sy'n credu nad yw Duw yn bodoli neu yn credu ei fod o, yn honni mae nhw yw Duw mewn ffordd - yn hollwybodus, yn gwybod sut mae'r bydysawd yn operadu. Mi ddylai pobol sylwi mae creaduriaid meidrol a twp ydyn nhw mewn gwirionedd, heb unrhyw ddealltwriaeth dwfn o natur y bydysawd. Agnostic yw'r oll all unrhyw un ystyriol fod.

2. Ai syniadau yw da a drwg, neu bwerau go iawn?
Dychmygion diwyllianau gwahanol i ryw raddau. Mi all digwyddiadau drwg ddadlennu'r gorau mewn pobol, ac i'r gwrthwyneb.

3. A yw crefydd yn achosi mwy o ddrwg na da?
Does neb wedi byw yn ddigon hir i gyfri, hyd y gwn i. Mae'n amlwg bod 'da', a 'drwg', yn dod o ganlyniad i grefydd. Ond pwy sy'n cadw sgor?

4. Beth yw'r peth cyntaf fyddech chi'n ei wneud petai chi'n Dduw?
Taflu'r 'hot potato' i rywun gyda mwy o guts.

5. Pwy wnaeth sêr S4C?
Eu talent a'i cysegriad/dibyniaeth ar y cyfryngau Cymreig.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Pump am y Penwythnos 6.10.2006

Postiogan Selador » Sad 07 Hyd 2006 5:57 pm

Macsen a ddywedodd:1. Ydych chi'n credu mewn Duw neu mewn pwer uwch?
Rydw i'n agnostic; does gen i'm syniad os yw Duw yn bodoli ai peidio. Rydw i'n teimlo i ryw raddau fod pobol sy'n credu nad yw Duw yn bodoli neu yn credu ei fod o, yn honni mae nhw yw Duw mewn ffordd - yn hollwybodus, yn gwybod sut mae'r bydysawd yn operadu. Mi ddylai pobol sylwi mae creaduriaid meidrol a twp ydyn nhw mewn gwirionedd, heb unrhyw ddealltwriaeth dwfn o natur y bydysawd. Agnostic yw'r oll all unrhyw un ystyriol fod.


Rev. III.16 a ddywedodd:I know thy works, that thou are neither cold nor hot: I would thou wert cold or hot. So then because thou art lukewarm, and neither hot nor cold, I will spue thee out of my mouth
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste

Re: Pump am y Penwythnos 6.10.2006

Postiogan sian » Sad 07 Hyd 2006 9:48 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:1. Ydych chi'n credu mewn Duw neu mewn pwer uwch?

Ydw.

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:2. Ai syniadau yw da a drwg, neu bwerau go iawn?

Pwerau go iawn ond mae'r ffordd maen nhw'n amlygu eu hunain ym mywydau pobl yn dibynnu ar syniadau, arferion, cyfnod ac ati

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:3. A yw crefydd yn achosi mwy o ddrwg na da?

Anodd mesur. Mae'r ochr ddrwg i'w weld yn amlwg am ei fod ar raddfa fawr - rhyfeloedd ac ati - ond yn aml mae'r ochr dda yn fwy di-nod. Lot o Gristnogion a phobl o grefyddau eraill yn gwneud gwaith da, dyngarol ond mae'n anodd mesur faint maen nhw'n ei wneud am eu bod yn Gristnogion etc.

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:4. Beth yw'r peth cyntaf fyddech chi'n ei wneud petai chi'n Dduw?
Hypothetical.

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:5. Pwy wnaeth sêr S4C?

Hmmm.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Pump am y Penwythnos 6.10.2006

Postiogan Macsen » Sul 08 Hyd 2006 10:17 am

Selador a ddywedodd:I know thy works, that thou are neither cold nor hot: I would thou wert cold or hot. So then because thou art lukewarm, and neither hot nor cold, I will spue thee out of my mouth

Felly byddai'n well gan Dduw petai fi'n anffyddiwr rhonc na'n agnostic? Dwi'n ei chael hi'n ddoniol pan bo rywun yn ymateb i ymosodiad ar ddilysrwydd y Beibl drwy ddyfynu'r Beibl.

"Mae'r Beibl yn dweud y gwir oherwydd bod y Beibl yn dweud ei fod o'n dweud y gwir! Grrrr!" Ym, gret.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Pump am y Penwythnos 6.10.2006

Postiogan Cawslyd » Sul 08 Hyd 2006 1:29 pm

1. Ydych chi'n credu mewn Duw neu mewn pwer uwch?
Yndw, achos ellai'm credu mai ond be 'da ni'n allu'i weld sydd yn bodoli. Ma Duw yn atab hawdd i holl gwestiyna'r byd, ag eto'n rhoi lot o broblema'. Mae Duw yn beth gwahanol i bawb, i fi, mae o jyst yn rhyw lwybr ddylwn i anelu i lywio 'mywyd arno fo, i eraill, mae o'n bwer holl-rymus neith eich cosbi chi os ewch oddi ar ei lwybr.

2. Ai syniadau yw da a drwg, neu bwerau go iawn?
Syniada', achos, fel mae Duw pawb yn wahanol, ma da a drwg yn wahanol i bawb.

3. A yw crefydd yn achosi mwy o ddrwg na da?
Dwi'm yn meddwl mai crefydd fel y cryfyw sy'n achosi'r problemau yn y byd, ond natur gystadleuol dynoliaeth.

4. Beth yw'r peth cyntaf fyddech chi'n ei wneud petai chi'n Dduw?
Wel, dwi'm yn credu bod gan Dduw bwer i newid y byd i gyd, gan fod Duw yn wahanol i bawb.

5. Pwy wnaeth sêr S4C?
Y gwylwyr, debyg.
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron