1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud? (ee. dwi'n aml yn gwylio Wedi 7, a sgen i ddim syniad pam...)
Loose Women. Ma'n Shiloh Pitt, ond dwi'n aml isio bwyd am 12.30
2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen?
Sgen i ddim ond tua pump achos dwi'n rhy ddiamynedd i sbio ar ffilms. Ddudai Trainspotting, dwnim pam chwaith.
3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?
Ym, Charlie and the Chocolate Factory? (Dwi ddim yn embarrassed go iawn, ond ma'r dewis yn gyfyng)
4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?
Grandstand. Ond mae Grandstand wedi marw bellach felly sgen i'm dewis ond mynd i gigs Genod Droog
5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?
Do, nes i ennill cystadleuaeth sgwennu Cip pan on i'n ddeg. Oedd gen i sbectols
mawr