1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud? (ee. dwi'n aml yn gwylio Wedi 7, a sgen i ddim syniad pam...)
Athletics.
2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen?
Mi fyddai unrhyw un sy'n dallt unrhyw beth am ffilms yn twtwtio fy nghasgliad siwr o fod. Ymysg y goreuon mae'n debyg mae Green Mile, Shawshank Redemption a Stigmata.*
3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?
Lle mae dechrau?! Legally Blonde 1&2, Mean Girls, Clueless, Two Weeks Notice, Maid in Manhatan, Sweet Home Alabama, 13 Going on 30... lot fawr o'r math yma.
4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?
O'n i'n licio un Heartbeat. Rhywbeth yn gyffrous am un News at 10 hefyd.
5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?
Do. Nesh i ennill Medal Lenyddiaeth Steddfod yr Urdd o'r blaen. Ymddangos yn ymhonnus iawn wrth gael fy holi gan Rhodri Owen ar ol y seremoni pan ofynodd i fi os oeddwn i am ddal ati i sgwennu, a finna'n ateb " O ydw. Mi fuasai'n biti taswn i ddim." Biti i bwy felly? Y genedl? Roeddwn i hefyd, am ryw reswm, yn gwisgo nefi blw o nghorun i'm sawdl...
* Off topic, ond dwi isio rhannu fy ngwybodaeth. O'n i'n edrych ar DVD y gyfres deledu Pride and Prejudice wythnos diwetha. Yn y "Making of..." mae'r cyfarwyddwr yn dweud rhywbeth a fyddai'n siom a thor-calon i lawer o ferched 23+. Chwistrell dwr oedd yn gyfrifol am y 'wet look' enwog