Pump am y Penwythnos 13/10/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Gwe 13 Hyd 2006 11:17 am

1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud? (ee. dwi'n aml yn gwylio Wedi 7, a sgen i ddim syniad pam...)
Athletics.

2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen?
Mi fyddai unrhyw un sy'n dallt unrhyw beth am ffilms yn twtwtio fy nghasgliad siwr o fod. Ymysg y goreuon mae'n debyg mae Green Mile, Shawshank Redemption a Stigmata.*

3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?
Lle mae dechrau?! Legally Blonde 1&2, Mean Girls, Clueless, Two Weeks Notice, Maid in Manhatan, Sweet Home Alabama, 13 Going on 30... lot fawr o'r math yma.

4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?
O'n i'n licio un Heartbeat. Rhywbeth yn gyffrous am un News at 10 hefyd.

5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?
Do. Nesh i ennill Medal Lenyddiaeth Steddfod yr Urdd o'r blaen. Ymddangos yn ymhonnus iawn wrth gael fy holi gan Rhodri Owen ar ol y seremoni pan ofynodd i fi os oeddwn i am ddal ati i sgwennu, a finna'n ateb " O ydw. Mi fuasai'n biti taswn i ddim." Biti i bwy felly? Y genedl? :rolio: Roeddwn i hefyd, am ryw reswm, yn gwisgo nefi blw o nghorun i'm sawdl...

* Off topic, ond dwi isio rhannu fy ngwybodaeth. O'n i'n edrych ar DVD y gyfres deledu Pride and Prejudice wythnos diwetha. Yn y "Making of..." mae'r cyfarwyddwr yn dweud rhywbeth a fyddai'n siom a thor-calon i lawer o ferched 23+. Chwistrell dwr oedd yn gyfrifol am y 'wet look' enwog
Delwedd
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur

Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Re: Pump am y Penwythnos 13/10/06

Postiogan mam y mwnci » Gwe 13 Hyd 2006 11:50 am

1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud?
Hollyoaks omnibus a fear factor
2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen?

It's a Wonderfull life :crio: Dirty dancing a sound of music

3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?
gweler uchod - dwi ddim yn embarassed !

4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?
Teulu'r mans a citys of Gold (children of the sun etc!)

5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?[/quote]
Do am resymau diflas iawn ond hefyd mi oeddwn i'n extra yn gorfod canu erdant mewn drama deledu ac yn fy ngwylio oedd Diana Rigg ac Elane Page - o'n i'n meddwl mod i'n dda nes i mam bwyntio allan na point y darn oedd bod fi'n shit a cymeriad Diana Rigg isho gadael :wps:
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian

Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Postiogan Cymro13 » Gwe 13 Hyd 2006 11:51 am

1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud?
Ar y Lein - Rhaglen Bethan Gwanas- Ma fe wastad yn dueddol i fod ymlan pan fi'n gwylio Teledu

2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen?

Loads - Life on Mars series 1 box set
Revenge of the Sith
Back to the Future Trilogy

3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?

Loads

4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?

Th A TEAM

5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?

Steddfod - es i ar raglen heno pan on i'n fach gyda cor a nath Angharad Mair rhoi cyfweliad i fi on i tua 10 oed
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur

Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Pump am y Penwythnos 13/10/06

Postiogan Daffyd » Gwe 13 Hyd 2006 11:55 am

1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud?
Wedi 7, fel chdi Dwlwen, a finna chwaith ddim wirioneddol yn gwbod pam. A hefyd, Rownd a Rownd.

2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen?
Fy mox set Godfather masiwr. Ffocing gwych.

3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?
Dwnim, achos dwi byth yn teuddu i brynnu DVD's os tydwi'm yn siwr o'i licio. Mae gan fy mrawd Dodgeball sydd yn embarrassing iawn.

4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?
Bandit masiwr. Atgoffa fi o nosweithiau Iau glawiog yn y Gaea' am riw reswm.

5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?
Dwi di bod ar Bandit a riw raglenni felna, a dwi hefyd di bod ar Emyn Roc a Rol. Ma hyn i gyd wedi bod ers 2004 achos fy mod i mewn band o'r enw BOB. Da ni yn rybbish, felly dwnim pam fod ni ar y teledu.
We don't live in Ameri-can't, Steve. We live in Ameri-can. Oh no wait....
Rhithffurf defnyddiwr
Daffyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur

Negeseuon: 1423
Ymunwyd: Llun 05 Gor 2004 10:37 pm
Lleoliad: Caerdydd/Mynytho

Re: Pump am y Penwythnos 13/10/06

Postiogan nicdafis » Gwe 13 Hyd 2006 11:57 am

1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud?

Balamory, bob tro dw i'n ymweld â fy mam ac mae hi'n gofalu am y nai bach.

2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen?

Van der Graaf Generator, Llundain 6 Mai 2005 - fideo bootleg wedi'i wneud gan ffan gan gasglu cyfraniadau gan y sawl un oedd wedi recordio tipyn bach o'r gig. Fel ffilm newydd y Beastie Boys, ond heb yr arian tu ôl iddo fe.

3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?

Emmanuelle 2 - sy'n edrych yn ddi-niwed iawn yn nyddiau "18 Holes - Anal Madness", ond sy'n dod â phob math o gofion melys yn ôl.

4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?

Roobarb.

5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?

Bandit, dwy flynedd yn ôl. Chi'n edrych ar y rheswm.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan garynysmon » Gwe 13 Hyd 2006 12:08 pm

1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud? (ee. dwi'n aml yn gwylio Wedi 7, a sgen i ddim syniad pam...)
Taith yr Iaith, Rownd a Rownd, Pobol y Cwm

2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen?
Allai'm meddwl am ddim llawer.Ym....Cymru 2 v Eidal 1 o 2002 o bosib?

3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?
Mean Machine. Mae o'n crap.

4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?
The Big Match ar ITV ers stalwm.

5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?
Anaml iawn. Wedi bod ar y newyddion yn son am newid graddau myfyrwyr unwaith, ac yn y glob noson gem cymru a'r eidal.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur

Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan tafod_bach » Gwe 13 Hyd 2006 12:37 pm

1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud? (ee. dwi'n aml yn gwylio Wedi 7, a sgen i ddim syniad pam...)
friends. mae e arno cyn y simpsons, yndi, a mae hon yn gyfres mwy 'diweddar' na dwi erioed wedi gweld. mae'n SCARY.

2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen? hwn!
Delwedd
anrheg amesin gan fy nghyn-lodjer

3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?
anna nicole smith exposed. mae'n riiiiili ddiflas.

4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?
unrhywbeth gan chaz n dave.

5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?
do, amryw o weithiau. yn dynwared vaughan hughes ar ffair sadwrn, er enghraifft. hefyd o'n i arfer mynd ar h"@"cio eitha lot i drafod issues poeth y dydd.
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian

Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Re: Pump am y Penwythnos 13/10/06

Postiogan Geraint » Gwe 13 Hyd 2006 12:48 pm

1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud? (ee. dwi'n aml yn gwylio Wedi 7, a sgen i ddim syniad pam...)
To Buy or Not to Buy, cyn mynd i gwaith

2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen?
Led Zeppelin

3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?
Dwi'm yn meddwl mod i efo un arall. Dwi byth yn prynu ffilms ar DVD.

4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?
Buck Rogers

5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?[/quote]
RISG. Byth eto.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr

Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Re: Pump am y Penwythnos 13/10/06

Postiogan Barbarella » Gwe 13 Hyd 2006 1:25 pm

1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud?
Rhaglenni stiwpid sy'n cywilyddio aelodau'r cyhoedd oherwydd eu safonau glendid / deiet / doniau DIY / coginio / gallu i reoli ci / gallu i reoli eu plant / dillad / ymddangosiad cyffredinol / y ffaith bod nhw'n fyw. Ar ôl hanner awr o sarhad a chyngor hollol ffug, mae'r bobl hyn wedyn yn datgan eu bodlonrwydd llwyr, a bod eu bywydau nawr yn berffaith. :rolio:

2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen?
Todo sobre mi madre. Hoff ffilm, dal yn neud i fi grio bob tro.

3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?
Casgliad o gopïau dodji rip-off o miwsicals clasurol.

4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?
Doctor Who. Nid yn unig am mod i'n hoffi'r rhaglen, ond am fod y gerddoriaeth yn wych ynddo'i hun, ac yn hollol chwyldroadol ar y pryd. Un o'r darnau cerddoriaeth electronig gyntaf erioed -- ond wedi ei wneud heb synth, dim ond lwps o dâp a lefelau tôn gwahanol. Stori yn fama. Delia Derbyshire yn santes.

5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?
Do. Sawl tro. Am neidio ar ben pobl fel arfer.
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr

Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Re: Pump am y Penwythnos 13/10/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 13 Hyd 2006 1:35 pm

1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud?
Fel wedes i gynne, ma Wedi 7 yn lwyddo troi 'unan 'mlaen bob nos jest... A'n ogystal a 'nny wy'n gorfod diodde Friends fetish tafod_bach :P

2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen?
Gen i 5 DVD, a wy'n falch o bob un o'n nhw... Anodd dewis rhwng Secretary a Spirited away :? Hang on, nagyw ddim - Secretary.

3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?
Dim DVDs embarrassing gen i... Ond ma 'da fi'r gampwaith yma ar VHS. Gwych.

4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?
Dog Tanian.

5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?
Y gore o bell ffordd oedd y stint ateb galwade ffôn yn ystod apêl Heno c.1998. "Os ddeith Angharad Mair miwn a ma'r camera'n rowlio, jyst edrychwch yn fishi."
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr

Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron