Pump am y Penwythnos 13/10/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan fela mae » Gwe 13 Hyd 2006 5:09 pm

1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud?

Pobol y Cwm

2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen?

dvds cmon midffild

3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?

Bend it like Beckham
4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?

Royal familly

5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?

Llefaru ar ben fy hun ar dechrau canu dechrau canmol pan on in chweched :wps:
Rhaglen diolch o galon yn diolch i Bj a anti mair ( athrawes ddrama, athrawes adrodd ) :wps:
Extra ar emyn roc a rol wedi gwisgo fyny fel oen bach.. pob profiad wedi bod yn rai hunllefus
wyt ti'n fy herio i y Meri Jen ??
Rhithffurf defnyddiwr
fela mae
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 504
Ymunwyd: Sul 26 Hyd 2003 3:06 pm
Lleoliad: Penrhyn-Coch, Bangor

Postiogan Cacamwri » Gwe 13 Hyd 2006 7:04 pm

1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud?

Ready Steady Cook, a To Buy or Not to Buy ar BBC1 am naw bob bore. Fi gan amla yn codi pryd hynny, a na be sy mlaen :wps:
Ond diolch byth, mae gen i ddigon o ddisgyblaeth i glatsho bant efo fy ngwaith am ddeg!

2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen?
Friends

3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?
Caddyshack - rhyw ffilm o flynyddoedd yn ol. Odd e yn bargen bocs Woolworths tua wyth mlynedd yn ol!

4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?
Bandit, deffo.

5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?
Odw glei - cwcan da Ena ar Heno pan o'n i tua wyth; Hacio sawl gwaith pan oedden nhw'n gwneud yr eitem 'Pisd Off'; Wedi 3 a Wedi 7 ac Y Byd Ar Bedwar yn siarad am fwlimia/anorecsia, Slot 23 (lle cafodd Jon Bon Jela neu ei fam gael gynj drostyn nhw, os dwi'n cofio'n iawn?!?); a lot o bethe eraill fedra i ddim cofio amdanyn nhw ar hyn o bryd.
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Re: Pump am y Penwythnos 13/10/06

Postiogan krustysnaks » Gwe 13 Hyd 2006 7:25 pm

1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud?
Dwi'n eitha da am beidio gwylio rhaglenni nad ydw i am eu gwylio. Fe fydd gen i dair neu pedair rhaglen i'w gwylio ar y Sky+ fel arfer. Ond os oes rhaid dewis rhywbeth, yna dewis Deal or No Deal.

2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen?
Set 4 disg Back to the Future.

3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?
Love Story, falle? Roedd angen y DVD arnon ni ar gyfer y gymdeithas ffilmiau. Dwi'n eitha balch o'r rhan fwyaf o'r DVDs sydd gen i, i ddweud y gwir.

4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?
Fersiwn gwreiddiol Pobl y Cwm, gyda dim ond gitar. Endaf Emlyn. Nuff said. (a Teulu'r Mans)

5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?
Do, ambell i waith. Fy hoff "ymddangosiad" oedd gwneud ffwl o Betty Williams ar Pawb a'i Farn.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos 13/10/06

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Gwe 13 Hyd 2006 10:01 pm

1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud?
Pobol y Cwm ar dydd sul. Ma e di f'yta lan orie o fy mywyd dros y blynydde. A Doctors pan o ni di-waith. Odd e rhi haws i cwmpo mewn i'r trap o watsho Ddoctoried syth ar ol i Neighbs cwpla.

2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen?
Sai'mo rili. Ma gen i gyd o'r Lord of the Rings Expanded 4 disc Editions...a'r peth trist yw fi di watsho nhw gyd. A fi'n eitha falch o berchen rhawn fwya o comedis Chris Morris ar ddisc 'fyd.

3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?
'Rude Boy', ffilm y Clash. Oce ma darnau dda iawn o nhw'n chware'n fyw, ond ma'r ffilm ei hun yn twmpyn o gach llwyr. :wps:
Ar y llaw arall, dwi'n eitha browd o perchen Under Siege :D

4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?
Y Mighty Boosh. Neu'r un Seinfeld, ma'r slap-bass yn afiach.

5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?
Sawl gwaith yn y cefndir fi'n cretu, ond yr unig cyfweliad dwi 'rioed di gael oedd yn 1993 ar Heno, o'n ni'n 8. Ennillodd fy ffrind cystadleuaeth i cwrdd a 'Yr Immortal' Hulk Hogan yn Llunden cyn Wrestlemania IX, ac es i 'da fe. Ges i fy nghyfweld gan Slaymaker. Yr unig beth o ni gallu gweud odd 'Odw, fi'n escited!' a ateb 'Ie' i pob blydi cwestiwn, o ni mor ofnus o'r camerau. Ma fy anti wastod yn dod a'r fideo mas pob nadolig. :drwg:
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Re: Pump am y Penwythnos 13/10/06

Postiogan huwcyn1982 » Sad 14 Hyd 2006 12:16 am

1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud?
Doctors, Diagnosis Murder, ail-ddarllediadau o Jeremy Kyle ar ITV2, a lot rhy aml yn cael fy hipnoteiddio mewn i wylio oriau o Sky News neu News 24, a meddwl "o dyma'r un adroddiad mlaen eto." Mae gweld yr un adroddiad 4 gwaith nawr yn record dwi ddim am dorri. Ahem.

2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen?
Family Guy season 4

3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?
Very Annie Mary

4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?
Cagney & Lacey, Frasier

5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?
Dim ond am resymau cachlyd. O a bandit unwaith! wahey
Rhithffurf defnyddiwr
huwcyn1982
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 607
Ymunwyd: Sul 25 Gor 2004 11:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos 13/10/06

Postiogan anffodus » Sad 14 Hyd 2006 10:31 am

1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud?
World's most amazing videos 2 - mae o wastad on pan dwi'n bôrd.

2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen?
Inspector Morse - the dead of jericho. clasur o bennod a'r peth gora ydi 'na am ddim yn y Daily Mail ne wbath felly ges i hi.

3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?
Dwi'm yn siwr. Dwi'n eitha balch ohonyn nhw i gyd.

4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?
That '70's Show

5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?
Trefor Only, Sesiwn Fawr Dolgella a llwythi o weithia yn Tân y Ddraig.
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Postiogan Sleepflower » Llun 16 Hyd 2006 8:06 am

docito a ddywedodd:
Sleepflower a ddywedodd:
3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?

Ffilmiau Hayao Miyazaki. Mae nhw'n cartwns i gyd, sy'n bach yn sad.



Sori Sleepflower, ond ma'n rhaid ma hon yw'r ateb mwya' pretentious yn hanes Maes-e




O ddifri nawr, wyt ti'n fodlon esbonio pam wyt ti'n meddwl hyn? :?
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron