Tudalen 3 o 4

PostioPostiwyd: Gwe 13 Hyd 2006 1:48 pm
gan Socsan
1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud?
Jeremy Kyle (a ma GAS gin i'r boi)

2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen?
"Stage Beauty", ffilm o'r un genre a Shakespeare in Love, ond gwell yn fy marn i.

3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?

Ma gin bob un cyfres o Sex and the Sity a Friends ar DVD... O ia, a fy housemates (benywaidd, sydd mond yn lecio siopa a daytime telly) i gyd yn chwerthin am fy mhen am fod yn berchen ar Monty Python box set. :(

4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?
Neighbours - yr hen un, vintage is best.

5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?
Hm. On in extra ar Emyn Rol a Rol pan on i tua 18 hefo fy ngyn-gariad, ac odd rhaid i ni sefyll yn y cefndir o un siot a snogio. Roedd rhaid gwneud sawl 'take' wrth gwrs, ac wedyn naethon nhw ofyn i ni ddwad yn ol i neud sin arall mewn gig a gneud 'run peth. Wnim os mai jyst RILI da am snogio oddan ni, ta jyst methu ffendio neb arall digon gwirion i neud oddan nhw... :wps:

Re: Pump am y Penwythnos 13/10/06

PostioPostiwyd: Gwe 13 Hyd 2006 2:42 pm
gan Rhodri Nwdls
1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud?
Sky At Night - ma mlaen jest ar yr amser na pan dwi'n fflicio drwodd. Joio Patrick yn mynd trwy'i betha. Ma fatha bod o jest abowt yn hongian mlaen i fywyd, ond dal r'un mor frwd am y crab nubula ar ochr ddwyreiniol Orion

2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen?
Box set Polanski cynnar - Knife In The Water / Repulsion / Cul De Sac
Bfiliant o ffilmia.

3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?
...wmbo, dwi'n lecio nhw gyd. Ella chydig yn embarrassed o Breakfast at Tiffany's...naaa! Ma gen i ambell b-movie faswn i ddim yn rhoi yn bresant doilig i ngelyn gwaetha. Ma Roadkill yn erchyll. Rape revenge yn outback Australia. Ddim hyd yn oed yn wael-ffyni. Jest boring. Ma Galyon ar y llaw arall yn sbiffing.

4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?
Syr Wynff a Plwmsan neu Now a Ned - gorod bod.

5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?
Rhaglen ddogfen ar S4C ar asthma ac allergies pan o'n i'n tua 10. Dad a Mam yn trio neud bach o cash allan o bad situation! ;-) "Let's milk this cash cow for all it's got!"

Dim byd arall lot. Taro Naw yn rwdlan am ffilms. Ma gennai great face for radio braidd de...

PostioPostiwyd: Gwe 13 Hyd 2006 3:22 pm
gan docito
Sleepflower a ddywedodd:
3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?

Ffilmiau Hayao Miyazaki. Mae nhw'n cartwns i gyd, sy'n bach yn sad.



Sori Sleepflower, ond ma'n rhaid ma hon yw'r ateb mwya' pretentious yn hanes Maes-e

eniwe:

1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud?

South bank show - wastad yn gweld e.... wps!!!! :wps:

2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen?

Y singing detective bocs set wedi ei harwyddo gan Potter

3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?

Oh god!!!! Y 'trois color' trilogy :wps: Pobl yn meddwl bo fi'n ffrancwr :wps: :wps:

4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?

Late Review

5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?

Protestiau iaith, rhyfel, amgylcheddol a nifer o faterion cyfoes pwysig /llwyfannau eisteddfodau/sioe gelf (amryw o weithiau)/maniffesto/dragons eye/rhaglenni simon sharman fel arbennigwr ac un neu ddau rhaglen ar gerddoriaeth clasurol y bedwaredd ganrif ar bymtheg i enwi rhai

Re: Pump am y Penwythnos 13/10/06

PostioPostiwyd: Gwe 13 Hyd 2006 3:23 pm
gan Hogyn o Rachub
1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud?

Sebonau opera, achos mae pawb arall yn fy nhy yn eu hoffi

2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen?

Fy Lord of the Rings Trology Special Extended DVDs. Ia, go wir.

3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?

Yyyyyyyyyyyyyyyyyyyyyyyyym. Wnim.

4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?

Un Pobol y Cwm. Hi hi.

5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?

Do, ambell i bryd. Ar Hacio, ac yn gweiddi pethau dros I Dot

Re: Pump am y Penwythnos 13/10/06

PostioPostiwyd: Gwe 13 Hyd 2006 3:36 pm
gan Chwadan
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Sebonau opera

Hi hi! Opera soaps! :D

Re: Pump am y Penwythnos 13/10/06

PostioPostiwyd: Gwe 13 Hyd 2006 3:38 pm
gan Hogyn o Rachub
Chwadan a ddywedodd:
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Sebonau opera

Hi hi! Opera soaps! :D


Soap Operas?

Ti'n conffiwsio fi!

PostioPostiwyd: Gwe 13 Hyd 2006 3:39 pm
gan Sleepflower
docito a ddywedodd:
Sleepflower a ddywedodd:
3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?

Ffilmiau Hayao Miyazaki. Mae nhw'n cartwns i gyd, sy'n bach yn sad.



Sori Sleepflower, ond ma'n rhaid ma hon yw'r ateb mwya' pretentious yn hanes Maes-e





O bosib, cyn im i weld hwn:


docito a ddywedodd:

4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?

Late Review




:lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol:

Re: Pump am y Penwythnos 13/10/06

PostioPostiwyd: Gwe 13 Hyd 2006 3:42 pm
gan Chwadan
Hogyn o Rachub a ddywedodd:
Chwadan a ddywedodd:
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Sebonau opera

Hi hi! Opera soaps! :D


Soap Operas?

Ti'n conffiwsio fi!

Sori, mai'n ddydd Gwener :wps: Operau sebon di'r gair dwi di glywed, lly nath sebonau opera neu i fi feddwl am betha ogla-neis yn canu. O diar.

Re: Pump am y Penwythnos 13/10/06

PostioPostiwyd: Gwe 13 Hyd 2006 4:11 pm
gan Hogyn o Rachub
Chwadan a ddywedodd:
Hogyn o Rachub a ddywedodd:
Chwadan a ddywedodd:
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Sebonau opera

Hi hi! Opera soaps! :D


Soap Operas?

Ti'n conffiwsio fi!

Sori, mai'n ddydd Gwener :wps: Operau sebon di'r gair dwi di glywed, lly nath sebonau opera neu i fi feddwl am betha ogla-neis yn canu. O diar.


Oooo ia. Chdi sy'n iawn 'fyd :wps:


Dydd Gwener...

Re: Pump am y Penwythnos 13/10/06

PostioPostiwyd: Gwe 13 Hyd 2006 4:55 pm
gan Sili
1. Pa rhaglen(ni) teledu ydych chi’n gwylio amlaf heb fwriadu gwneud?
Neighbours. Unai amser cinio cyn darlithoedd neu wedi i mi gyrraedd n'ol. Does dim dianc.

2. Pa DdVD y’ch chi fwya’ balch o’i berchen?
Braindead a Bad Taste 8)

3. Pa DdVD y’ch chi fwya embarrassed o’i berchen?
Dumbo :wps: a dwi wastad yn crio yndda fo ddim otsh lle dwi na phwy sydd efo fi...

4. Oes gennych chi hoff ‘theme tune’?
Lord Flashheart tweaked the Adder's beard.
From now he always shall be single.
To fall in love with boys is weird,
Especially boys without a dingle.

Black Adder, Black Adder. His taste is rather odd.
Black Adder, Black Adder, the randy little sod.

Lord Flashheart, Lord Flashheart, I wish you were the star.
Lord Flashheart, Lord Flashheart, you're sexier by far.

:lol:

5. Ydych chi wedi bod ar y teledu? Pryd a phaham?
Do yn chwara'r delyn ar amryw o raglenni a'r newyddion BBC, ITV ag S4C, Uned 5 efo r'hen fand a Bandit a ballu (wastad yn sefyll yn y cefndir yn ffidlan efo nghamera).