Pump am y Penwythnos 20/10/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Manon » Gwe 20 Hyd 2006 11:18 am

1. Beth ddaeth drwy’r post heddiw?
Post heb gyrraedd eto. Yn Rhiwlas, os mai'r postmon secsi sy' wrthi, mi ddaw o tua 11.15, ond os ma' postmon ffot-fetish sy' wrthi, duw a wyr pryd gyrhaeddith o.

2. At bwy sgwennoch chi lythyr ddiwetha'?
Fy ngwr, sy'n gweithio yn bell i ffwr' am dipyn.

3. Y’ch chi erioed wedi cael pen-pal?
Do, llwythi. Peter o Sweden sy'n sefyll allan... o'n i'n horibl a nesh i byth atab ar ol iddo fo ddanfon llun. Wedyn pan o'n i'n 11 ryw foi weird o'r Almaen oedd yn arwyddo'i lythyra' efo "The night clasps you sweetly..." :ofn:

4. Beth oedd y pecyn ola’ i chi yrru drwy’r post?
CD o'n i 'di gwerthu ar e-bay.

5. Beth oedd y pecyn ola’ i chi dderbyn trwy’r post?
Nath fy chwaer anfon llofnod Martin Geraint i fi a'r bychan... mae o ar y wal rwan 8)
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos 20/10/06

Postiogan mam y mwnci » Gwe 20 Hyd 2006 11:28 am

1. Beth ddaeth drwy’r post heddiw?
Ymbo ? Post yn dod cyn i fi fynd i'r gwaith

2. At bwy sgwennoch chi lythyr ddiwetha'?
Heblaw am gwaith... llythyrau diolch dolig dwethaf:
Annwyl Anti .... , diolch o galon am y siec am £1.13 etc

3. Y’ch chi erioed wedi cael pen-pal?
Do ar ynys Mon o bobman ac un yn Corris!(God dwi mor exotic!) :wps:

4. Beth oedd y pecyn ola’ i chi yrru drwy’r post?
Sgert pel rwyd nes i brynnu off y we ! Dwi am sticio at y shorts dwi'n meddwl :ofn:


5. Beth oedd y pecyn ola’ i chi dderbyn trwy’r post?
Tabledi Hoodia! Fyddai fel styllen erbyn dolig!!! :winc:
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Re: Pump am y Penwythnos 20/10/06

Postiogan nicdafis » Gwe 20 Hyd 2006 11:36 am

1. Beth ddaeth drwy’r post heddiw?

Gwaith papur o'r Brifysgol a DVD <a href="http://www.imdb.com/title/tt0303461/">Firefly</a>.

Shiny.

2. At bwy sgwennoch chi lythyr ddiwetha'?

Dave Datblygu.

3. Y’ch chi erioed wedi cael pen-pal?

Reader, I married her.

4. Beth oedd y pecyn ola’ i chi yrru drwy’r post?

Crysiau-T maes-e i bwy bynnag oedd yn ddigon lwcus i gael yr un ola.

5. Beth oedd y pecyn ola’ i chi dderbyn trwy’r post?

Ar wahan i DVDs Amazon, sy'n dod yn eitha cyson, dw i'n credu taw llyfr Robert Anton Wilson, <a href="http://www.rawilson.com/trigger1.html">Cosmic Trigger</a> oedd e.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Pump am y Penwythnos 20/10/06

Postiogan Jeni Wine » Gwe 20 Hyd 2006 11:51 am

1. Beth ddaeth drwy’r post heddiw?
Dwnim. Post heb gyrraedd erbyn i mi adael ty. Ddoe, mi ddaeth na CD gan Brigyn, CD rwbath arall, 2 statement banc - i gyd i Mihangel. Nesh i agor y pecynnau oedd yn dal y CDs. Achos bo fi'n fusneslyd. Heh. Can newydd Brigyn yn uffernol o dda.

2. At bwy sgwennoch chi lythyr ddiwetha'?
At John Gedru rhyw ddau fis yn ol ar bapur sgwennu lliwgar. Ma rhaid i mi wneud o'n amlach. Dwi wrth fy modd yn derbyn llythyra drw'r post a'r unig ffordd i gal rhai ydi anfon rhai yn y lle cynta!

3. Y’ch chi erioed wedi cael pen-pal?
Do. Hogan o rwla yn Ontario nesh i gyfarfod ar wylia yn St Lucia pan o'n i'n 7. Roedd hi'n hyn na fi a mi oedd ganddi hi ben llawn plethi bach bach - o'n i isio bod yn hi.

4. Beth oedd y pecyn ola’ i chi yrru drwy’r post?
Cardia banc fy ffrind mewn jiffi bag i Belfast (lle mae hi'n gweithio). Roedd hi wedi colli ei bag y penwythnos cynt (yn feddw) ac mi ddois o hyd iddo fo yn y gwrych rhwng Dinas Dinlle a Llandwrog, lle ddaru hi ddisgyn i gysgu wrth inni gerdded adre.

5. Beth oedd y pecyn ola’ i chi dderbyn trwy’r post?
Peiriant coffi espresso Gaggia i mam ar ei phen-blwydd.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Re: Pump am y Penwythnos 20/10/06

Postiogan Sili » Gwe 20 Hyd 2006 11:57 am

1. Beth ddaeth drwy’r post heddiw?
Llythyr ynglyn a grant un o fy nghyd-lletewyr.

2. At bwy sgwennoch chi lythyr ddiwetha'?
I'r brifysgol mis Medi ddwytha mashwr. Dwi'm yn sgwennu llythyrra'n aml iawn.

3. Y’ch chi erioed wedi cael pen-pal?
Do yn ysgol gynradd. Rhyw eneth o Ffrainc. Ond mi ddaeth y berthynas i ben wedi i mi sylwi fod pawb arall oedd yn cymryd rhan yn derbyn presantau bach gan eu ffrind nhw a minnau'n derbyn dim ond llythyr :wps:

4. Beth oedd y pecyn ola’ i chi yrru drwy’r post?
Pecyn ar gyfer derbyn loan dwi'n meddwl.

5. Beth oedd y pecyn ola’ i chi dderbyn trwy’r post?
Yn bersonnol, y ffidl newydd. Ond mi gesi 'two-tier' stand ar gyfer yr allweddellau wedi ei yrru i Pen Llyn i mi wythnos yma a wedyn ei gartio i'r ddinas fawr gan fy nghariad.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos 20/10/06

Postiogan Daffyd » Gwe 20 Hyd 2006 12:00 pm

1. Beth ddaeth drwy’r post heddiw?
Dim byd dwi'm yn meddwl.

2. At bwy sgwennoch chi lythyr ddiwetha'?
God knows. Dwi'm yn sgwennu lot o lythyra. I'm an e-mail man.

3. Y’ch chi erioed wedi cael pen-pal?
Do. O ni'n arfar sgwennu at hogyn o Leeds, ac y llythyr dwytha geshi ganddo, oedd y llythyr yn dweud fod o wedi marw mewn damwain bus. Neshi rioed cal un ar ol huna dwi'm yn meddwl.

4. Beth oedd y pecyn ola’ i chi yrru drwy’r post?
Dwi'm yn meddwl bo fi rioed wedi gyrru pecyn drwy'r post, digon rhyfadd.

5. Beth oedd y pecyn ola’ i chi dderbyn trwy’r post?
Llyfrau o Amazon. Ddim yn exciting iawn, na?
We don't live in Ameri-can't, Steve. We live in Ameri-can. Oh no wait....
Rhithffurf defnyddiwr
Daffyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1423
Ymunwyd: Llun 05 Gor 2004 10:37 pm
Lleoliad: Caerdydd/Mynytho

Re: Pump am y Penwythnos 20/10/06

Postiogan Jakous » Gwe 20 Hyd 2006 2:11 pm

1. Beth ddaeth drwy’r post heddiw?
Llyhtyrau o'r banc, junk, llythyr gan ffrind o Ganada, junk, DVD's o Amazon a mwy o junk.

2. At bwy sgwennoch chi lythyr ddiwetha'?
Dwi ddim wirioneddol yn cofio. Bosib taw rhyw 'forms' at y banc. Bosib taw hywbeth diflas cyffyleb oddo.

3. Y’ch chi erioed wedi cael pen-pal?
Fel plentyn, neshi neud ffrindiau efo hogia o 'Ogledd lloegr yn rhywle. Neshi sgwennu atynt yn gyson, wedyn un noson, geshi alwad meddw ganddynt and that was it.

4. Beth oedd y pecyn ola’ i chi yrru drwy’r post?
'Returned clothes'.

5. Beth oedd y pecyn ola’ i chi dderbyn trwy’r post?
DVD's o Amazon heddiw. Chydig o glasuron Jean Luc Godard. Oh yes.
"If senses fail, then thoughts prevail."
Rhithffurf defnyddiwr
Jakous
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 315
Ymunwyd: Maw 20 Medi 2005 9:26 pm
Lleoliad: Y Byd

Re: Pump am y Penwythnos 20/10/06

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 20 Hyd 2006 2:32 pm

1. Beth ddaeth drwy’r post heddiw?
Tocyn i gael mynediad dau am bris un i sinemau Vue bob tro nes ddiwedd 2007

2. At bwy sgwennoch chi lythyr ddiwetha'?
Cyllid y Wlad, ond newydd sgwennu ebost i ddiolch am wybodaeth am Wlad yr Iâ (cyn mynd yno wsnos nesa)

3. Y’ch chi erioed wedi cael pen-pal?
Do, sawl un. Mi o'n i'n sgwennu i un yng Nghefn Coed y Cymmer am sbel ar ôl iddi aros efo ni adag steddfod Glynllifon. Ac un arall yn y Coed Duon ar ôl i ni fod yno efo'r ysgol adeg yr Wyl Erddi yng Nglyn Ebwy. Dwi'n siwr fod 'na fwy hefyd, ond alla i'm cofio pwy oeddan nhw.

4. Beth oedd y pecyn ola’ i chi yrru drwy’r post?
Dwi'm yn cofio - mae wedi bod yn sbel.

5. Beth oedd y pecyn ola’ i chi dderbyn trwy’r post?
Camera digidol newydd - ciwt iawn 8)
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos 20/10/06

Postiogan krustysnaks » Sad 21 Hyd 2006 12:34 am

1. Beth ddaeth drwy’r post heddiw?
Dim byd o gwbl. Daeth fy hoff grys t drwy'r post ddoe Delwedd
Dwi'n disgwyl parsel oddi wrth tafod_bach yfory.

2. At bwy sgwennoch chi lythyr ddiwetha'?
Nes i ysgrifennu llythyr at Mam dros fry-up dydd Sul diwethaf. Fe ffoniodd hi cwpwl o oriau wedyn felly mae'n dal ar fy mwrdd 'coffi' yn aros i fynd i'r bin. Roedd y llythyr diwethaf i fi anfon at Mam hefyd.

3. Y’ch chi erioed wedi cael pen-pal?
Naddo. Nes i anfon llythyr at y Blairs yn gofyn tasen i'n gallu bod yn ben-pal gydag un o'u plant nhw, rhyw dro :?

4. Beth oedd y pecyn ola’ i chi yrru drwy’r post?
Dwi ddim yn meddwl i fi anfon 'pecyn' go iawn erioed. Dwi wedi anfon ambell gryno ddisg mewn pecyn jiffi, os yw hynny'n cyfri. Dwi'n bwriadu anfon un yn fuan i ffrind o Arizona gyda Holy Bible gan y Manics ynddo.

5. Beth oedd y pecyn ola’ i chi dderbyn trwy’r post?
Y crys t uchod, ddoe. Cyn hynny, Os Chi'n Lladd Cindy o Sebon.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos 20/10/06

Postiogan Hogyn o Rachub » Sad 21 Hyd 2006 8:12 am

1. Beth ddaeth drwy’r post heddiw?
Dim byd imi. Fel bob ffycin tro. Ar fy myw caf innau fyth ddim drwy'r post.

2. At bwy sgwennoch chi lythyr ddiwetha'?
Os mae e-bost yn cyfri i Dyfed o Walchmai ydoedd, mae'n siwr. Er, o ran llythr, mae hi dros ddegawd yn ol dw i'n siwr.

3. Y’ch chi erioed wedi cael pen-pal?
Do wir - un o Vermont, un o Roeg ac un o Fwlgaria.

4. Beth oedd y pecyn ola’ i chi yrru drwy’r post?
Dw i'm yn meddwl fy mod i erioed wedi gyrru pecyn.

5. Beth oedd y pecyn ola’ i chi dderbyn trwy’r post?
Lamp Radio Dylan a Meinir (sydd ddim yn pigo fyny Radio Cymru, yn digwydd bod)
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai

cron