1. Beth ddaeth drwy’r post heddiw?
Dim. Mae hi'n ddydd Sul.
2. At bwy sgwennoch chi lythyr ddiwetha'?
Y Prifardd Gwynfor ab Ifor, Sling, i'w longyfarch am ei lwyddiant.
3. Y’ch chi erioed wedi cael pen-pal?
Eleonora De Angelis, Roma, Yr Eidal. Hogan ffeind yn gyrru tapiau a ffotos ac yn sgwennu ar bapur neis oedd yn ogleuo o fefus.
Roedd hitha hefyd yn ffan o New Kids on the Block ond Jordan oedd hi'n licio, dim Danny. Ddaru ni gadw mewn cysylltiad am tua pum mlynedd cyn inni ddechrau cael cariadon a colli'r plot.
Hmm. . . ella na'i gwglo'i henw hi wedyn. . . .
4. Beth oedd y pecyn ola’ i chi yrru drwy’r post?
Cyfrinach.
5. Beth oedd y pecyn ola’ i chi dderbyn trwy’r post?
Cd anfarwol y Room of Katinas ( http://www.myspace.com/roomofkatinas )