1. Beth ddaeth drwy’r post heddiw?
Post heb gyrraedd eto. Yn Rhiwlas, os mai'r postmon secsi sy' wrthi, mi ddaw o tua 11.15, ond os ma' postmon ffot-fetish sy' wrthi, duw a wyr pryd gyrhaeddith o.
2. At bwy sgwennoch chi lythyr ddiwetha'?
Fy ngwr, sy'n gweithio yn bell i ffwr' am dipyn.
3. Y’ch chi erioed wedi cael pen-pal?
Do, llwythi. Peter o Sweden sy'n sefyll allan... o'n i'n horibl a nesh i byth atab ar ol iddo fo ddanfon llun. Wedyn pan o'n i'n 11 ryw foi weird o'r Almaen oedd yn arwyddo'i lythyra' efo "The night clasps you sweetly..."
4. Beth oedd y pecyn ola’ i chi yrru drwy’r post?
CD o'n i 'di gwerthu ar e-bay.
5. Beth oedd y pecyn ola’ i chi dderbyn trwy’r post?
Nath fy chwaer anfon llofnod Martin Geraint i fi a'r bychan... mae o ar y wal rwan