Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Gwe 27 Hyd 2006 5:21 pm

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
Rhai weithe. Os dyw e rhi twym ne oer, lwc owt, cysgai ddim am orie.

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?
Fi'n torri lot o pethe i gweud y gwir. Pass parco fi am gwaith fi'n cretu, dodes i fe yn y ffenest yn gwbl anghywir. Felly cwmpodd e off, a o ni di ripo'r pass ei hun trial gal e off y stwff stici.

3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
O ni'n tynnu llunie drwy'r dydd yn gwaith pan ateb ffons, jiw sai'mpo. Y hwyl chi gallu gal drwy mynd a mwy na un lliw pen i gwaith. :D

4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
Llet'with y jiawl.

5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?
"Sori butt"
R'un peth a Ray, ma'r gair butt yn eitha handi.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Selador » Gwe 27 Hyd 2006 6:18 pm

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
Yndw, dwi'n enwog am fy mhower-naps.

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?
Jwg gneud coffi, dim fi nath.

3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
P=1/3 p <c>

4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
Y ddau. Dwi'n disgyn mewn streil hynod ogoneddus.

5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?
Gwrthod.
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste

Postiogan Geraint » Gwe 27 Hyd 2006 9:36 pm

Blyri el ma pobl galed ar y maes! Os tasw ni'n digartref, ffyc it byddai diod neu cyffuriau yn helpu chi delio efo pwy mor ofnadwy yw eich sefyllfa, allai ddim beio rhywun am neud hyn. Well gennai rhoi arian i rhywun ar y stryd sydd am brynu cyffuriau, smoc, bwz a sgafio bwyd, nac i elusen mawr i dalu am eu 'administration fees'. Ma nwh isho rhwbeth arian nawr, nid mewn chwe mis o rhyw gynllun cachu o'r llywodraeth. Wps contrafyrshal!
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Lowri Fflur » Gwe 27 Hyd 2006 9:51 pm

Dwi'n deall be ti'n feddwl Geraint. Weithiau dwi'n rhoid pres i bobl a dwi'n gwybod yn iawn bod nhw am wario fo ar drygs. Ond be ti fod i neud? Ti'n gwybod bod drygs ddim yn mynd i neud lles i nhw yn y hir dymor ond ti hefyd yn gwybod na dyna sydd yn mynd i nneud i nhw gysgu y noson honno. Mae o'n sefyllfa trist ofnadwy.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan bartiddu » Sad 28 Hyd 2006 12:53 am

neges dwl, wedi bod ar y pop
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan anffodus » Sad 28 Hyd 2006 8:28 pm

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
Mae'n dibynnu ar lot o betha. Dwi fel arfer yn mynd i gysgu'n reit hawdd ond weithia ddim. Dwi'n arfar rhoi CD i chwara a weithia ma hynny'n helpu ond fel arall dwi'n dechra canu efo'r CD.

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?
Dant. Nath na'm byd rhy ddramatig ddigwydd jyst bod gin i ddannadd ofnadwy o frau.

3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
Fy enw ar lyfr nodiada nes i gal yn smiths pnawn 'ma

4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
Dwi'n licio meddwl mod i'n eitha gosgeiddig (atgofion am hen wersi gymnasteg yn rysgol pan fues i bron iawn â thorri ngwddw wrth drio neud headspring)

5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?
Dwi fel arfar yn rhoi.
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron