Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Gwe 27 Hyd 2006 2:35 pm

1. na, ddim o gwbl dyddia yma. yn enwedig pan ma rhywun yn mynnu cael gola mawr i ddarllan tan berfeddion. :drwg: ... a pan ma rhaid codi bob awr i bi pi.
2. fas gafodd 'y nghariad gan 'i fam. oni ddim yn boblogaidd!
3. orange. taliad.
4. lletchwith iawn, yn enwedig wrth i'r babi 'ma yn 'y mol i dyfu... wedi colli pob synnwyr balans!
5. fel arfar nai basio heb ddeud dim byd, a theimlo'n euog am oes wedyn. ond weithia, pan dwi newydd gael 'y nhalu, a dwi'n teimlo bod pum punt yn mynd mewn eiliad i fi, ac yn werthfawr iawn i rywun arall, nai roi. ... yn aml iawn yn yr un sbot - tu allan i debenhams yn bangor!
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Chwadan » Gwe 27 Hyd 2006 2:39 pm

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
Ydw - blaw am ar nos Sul achos mod i di cael gormod o lai-un.

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?
Fy sythwyr gwallt. Blydi cyrls :rolio:

3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
"Scopus - citations"

4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
Gosgeiddig debyg, er mod i'n cerdded mewn i gorneli byrddau a malu bodia 'nhraed bob hyn a hyn.

5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?
Deud sori. Ond wsnos dwytha nath na bunt ddisgyn allan o fy mhwrs, rolio...a stopio rhwng coesa rhyw ddyn bach oedd yn begera. Oedd rhaid fi adal i honna fynd :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Ray Diota » Gwe 27 Hyd 2006 2:45 pm

Chwadan a ddywedodd:3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
"Scopus - citations"


Ray Diota a ddywedodd:3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
dwdlo'r gair 'TATS'.


ni'n berffaith i'n gilydd, cariad 8)

:lol:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Chwadan » Gwe 27 Hyd 2006 2:51 pm

Ray Diota a ddywedodd:ni'n berffaith i'n gilydd, cariad 8)

:lol:

Gawn ni wenoglun *swoon* plis Nic :?:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 27 Hyd 2006 3:30 pm

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
Ooooo ydw. Do'n i ddim yn arfer pan o'n i'n fengach...ond ma'r petha dwi'n neud dyddia yma yn fy mlino i fwy ma'n debyg...zzzz

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?
Papur lapio - wrth lapio presanta penblwydd

3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
Enw'r dyn ar amlen ei gerdyn penblwydd

4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
Licio meddwl mod i'n osgeiddig, ond braidd yn rhy lawdrwm i haeddu'r teitl yna dwi'n meddwl :rolio:

5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?
Ma' gen i ofn mai prin iawn dwi'n rhoi. A dwi'n llai tebygol o roi os oes 'na ffags ac alcohol i'w gweld. Mi ddoth 'na un ata i yng Nghaergrawnt a gofyn am "£5 for a bed and breakfast please love?". Panad, ella, ond B&B pan o'n i fy hun yn aros yn y lle rhata bosib (un o'r neuaddau myfyrwyr) heb frecwast...?! :ofn:
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 27 Hyd 2006 3:44 pm

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
Un o felltithion fy mywyd ydi'r ffaith nad ydw i'n cysgu'n hawdd yn y lleiaf. Yn aml iawn mi gymrith dros awr (os dw i'n lwcus) imi ddisgyn i gysgu a mae hynny'n fy ngwneud yn hynod flinedig.

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?
Bylb

3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
Cerdd ofnadwy. Heddiw yn 'rysgol.

4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
Lletchwith

5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?
Ceisio'u anwybyddu. Wir.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Mihangel Macintosh » Gwe 27 Hyd 2006 3:47 pm

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
Ddim rili. Ma da fi dueddiadau insomniac. Ond wedyn dwi methu deffro yn y bore unwaith dwi yn cysgu.

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?
wedi torri tipyn o wydrau yn fy amser... nath Huw Evans falu un o speakers y PA yn y lansiad Plant Duw wythnos diwethaf - a dwi di cael bil o £260 am y gwaith trwsio!

3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
Limerig (gwael) neithiwr yn noson 5a6.

4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
Yn rheddfol o letchwith

5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?
Nai rhoi os oes gen i, neu rhoi sigarets iddyn nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Jeni Wine » Gwe 27 Hyd 2006 3:50 pm

Geraint a ddywedodd:4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
osg ..?(edrych yn y geriadur.... ) da yn dringo a jwmpio dros pethau fel mwnci.... lletwith yn iawn yn y gegin


He-chem...
Ga i jyst deud mai "gosgeiddig" ydi'r ansoddair, sy wedi cael ei dreiglo yn feddal i "osgeiddig" ar ol y cysylltair "yn".

ffanciw.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Jeni Wine » Gwe 27 Hyd 2006 3:51 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
Ddim rili. Ma da fi dueddiadau insomniac. Ond wedyn dwi methu deffro yn y bore unwaith dwi yn cysgu.


ffokin rait.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Ari Brenin Cymru » Gwe 27 Hyd 2006 4:54 pm

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
Weithia. Dwi reit hoff o gysgu.


2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?
Dim syniad.


3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
Gwaith mathemateg ar "Ffwythiannau Trignometrig Gwrthdro".


4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
Gosgeiddig dwin credu.

5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?

"Fuck off mate, get a job."
Ari Brenin Cymru
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1037
Ymunwyd: Mer 20 Gor 2005 8:32 pm
Lleoliad: Porthmadog/Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron