Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 27 Hyd 2006 10:44 am

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
Nadw, ddim yng Nghaerdydd. Tro o baranoia odd hi nithwr, ond dyw 'nny ddim yn digwydd yn aml. Fel arfer fyddai'n hel meddylie twp - meddwl mod i'n taro ar ryw syniad hynod - yna cysgu, a sylweddoli mai jyst meddylie twp o'n nhw. Wedi dweud 'nny - 'nes i aros mewn bunk bed mewn stafell gyda 10 person arall am dair wthnos yn ddiweddar, a chael dim trafferth o gwbl wrth gysgu :?

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?
Rhywbeth yn berchen i tafod_bach oedd i fod yn rhan o becyn penblwydd Krustysnax... Fe geith e fe unwaith i fi ffixo fe :wps:

3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
Cyfeiriad Dad ar amlen.

4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
Gosgeiddig yn gorfforol, ond yn seicolegol-lletchwith :lol:

5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?
Ymddiheuro fod gen i ddim. Os brynai Big Issue, nai adael i'r gwerthwr gadw'r newid, ond prin fyddai'n rhoi heblaw hynny.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Ray Diota » Gwe 27 Hyd 2006 11:06 am

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
aye. naill ai'n ffacd neu'n knackered - so dim problem... 5 munud bach o 5 live os ddim...
2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?
Fy mys, dwi'n meddwl... ma fe 'di bod wedi chwyddo ers pythefnoos ta beth... ffacin brifo 'fyd.
3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
dwdlo'r gair 'TATS'.
4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
fi'n meddwl bo fi'n eitha gosgeiddig, gweud y gwir...
5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?
sorry, butt, got nothin'... wastad yn defnyddio 'butt' pan dwi'n siarad efo rhywun o ddosbarth cymdeithasol is na fi... (hynny yw, unrhywun sydd ddim yn siarad cymraeg a ddim yn dod o Geredigion):lol:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan garynysmon » Gwe 27 Hyd 2006 11:12 am

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
Dwi'm yn syrthio i gysgu yn y gwaith na dim felly, ond dwi'n gysgwr trwm iawn fel arfer.

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?
Wnesh i falu pob un ornament oedd gan Mam pan yn blentyn. Yn ddiweddar? DVD Player.

3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
Nodyn ar post-it yn y gwaith.

4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith? Lletwith (Trwsgwl yn Iaith Ynys Mon 8) )

5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?
Byth yn rhoi. Wnath na ddynas druan ofyn i mi am bres ar ol i mi fod yn gwylio Bangor yn colli yn ffeinal Cwpan Cymru, a oedd yn digwydd bod yr run diwrnod a wnath Spurs daflu ffwrdd tymor o chwara'n wych drwy adael Arsenal ddod drwy'r drws cefn a gorffen yn 4ydd. Fel allwch fentro roeddwn yn y tymer gwaethaf posibl. Gyda gwyneb fel melltan dywedais wrth Ffwcio ffwrdd a mynd i brynu mwy o Heroin. O oddwn i'n flin!
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Geraint » Gwe 27 Hyd 2006 11:23 am

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
Fel arfer, os dwi ddim eisiau bwyd, ac os mae fy mlhedren yn wag. Dwi'n casau y golau stryd sydd ymhob tref, a dwi'n gorchuddio fy llygaid efo blanced neu fy mraich, fel cath.

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?

Torres i cysylltiad ffon y ty, yna ei drwsio

3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
2390 - eileen

4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
osg ..?(edrych yn y geriadur.... ) da yn dringo a jwmpio dros pethau fel mwnci.... lletwith yn iawn yn y gegin

5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?

Fel arfer yn anwybyddu (ar ol byw yn Lerpwl, lle roedd rhaid anwybyddu yn llwyr neu byddai nhw yn dilyn chi rownd yn haslo chi), ond weithiau yn rhoi arian, os gennai shrapnel yn fy mhoced - enwedig os man nhw'n edrych yn ryff neu angen fix
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Manon » Gwe 27 Hyd 2006 11:32 am

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
Ers i fi gael babi, 'dwi'n gallu cysgu unryw bryd ac yn rhywle... Cyn hynny, roeddwn i'n ca'l cyfnoda' o insomnia oedd yn gyrru fi'n boncyrs, yn poeni am betha' nad oedd gen i ddim rheolaeth drostyn nhw.


2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?
Nath 'na hen lyfr o'n i'n ei ddarllen dorri'n ddarna' yn 'y nwylo fi noson o' blaen.

3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
Cerdyn penblwydd i fy ngwr- Lot o hen lol romantic! Ac arwyddo am soffa gornal ledr newydd... Yr un mwya welish i 'rioed, hannar pris ac mae o'n cyrraedd 'mhen pythefnos!

4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
Lletchwith ofnadwy. 'Dwi'n breuddwydio am fod yn osgeiddig un dwrnod.

5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?
Ma' arna i ofn bo' fi byth yn rhoi. Na'i roi mewn bocs ar gowntar mewn siop elusen yn lle.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan bartiddu » Gwe 27 Hyd 2006 11:48 am

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
Rhowch CD Telyn 'mlaen a dwi mas fel... Zzzzzz

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?
Ewinedd

3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
Eistedded y bardd mewn hedd yr Eisteddfod (drwy ddefnyddio'r wyddor Coelbren)

4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
lletchwith! :crio:

5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch
ymateb?

Mae pobol yn gofyn am arian ar y stryd? :o
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan dave drych » Gwe 27 Hyd 2006 12:28 pm

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
Yndw, fel arfer yn reit sydyn - ofewn chwarter awr yn hawdd. Yr unig amser dwi'n cael trafferth cysgu os ydwi'n mynd i'r gwely gan wbod fy mod i'n gorfod deffro a codi'n gynnar y bore wedyn. Mae'r pressure i orfod cysgu yn cadw fi'n ddeffro!

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?
Dwi'm fel arfer yn torri pethau. Y peth dwytha i falu oedd sbectol haul oedd gennai yn fy mag (ar fy nghefn, nid handbag!) neu'r bylb yn llofft fi. Nes i dorri fy ngwallt ar y penwythnos, ond dwi'm yn meddwl bod hynne'n cyfri nachdi?

3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
Fy enw, cyfeiriad e-bost prifysgol a 'Dissertation Work' ar darn o bapur yn yml stwff oeddwn i angen yn y lab. Ddim isho i neb eu llecho i ffwrdd.

4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
Osgeiddig.

5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?
Dwi'n tapio fy mhocedi a deud wrth y boi "Sorry mate, got no change like". Pan dwi'n neud hyn, fel arfer mae'r tapio ar fy mhocedi yn neud swn sy'n neud hi'n amlwg bod dwi efo pres! Wedyn dwi'n teimlo fel twat a felly'n cerdded yn sydyn. Nai brynu Bigishiw weithiau. Y rhai dwi'n casau yw'r smackheads ar Stryd y Dyffryn yn Ninbych sy'n deud "Aright mate, have you got 2 pence spare?". Pam ffwc bod rywun isho 2 pence?! Aim higher!
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Gwe 27 Hyd 2006 12:30 pm

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
Fel ddywedodd fy ffrind wrtha'i, "Ti'n byw ar sgwâr mwyaf swnllyd y ddinas fwya swnllyd yn Ewrop". Ag ystyried hynny, a'r ffaith fod seirens, cyrn ceir, pobl feddw a thraffig yn gyffredinol yn gwneud gymaint o swn rownd y cloc (a mod i'n byw drws nesa i glwb cerddoriaeth "danddaearol" o'r enw The Underworld...) fel bod fy fflat yn dirgrynu, dwi'n meddwl mod i'n gwneud y gorau o'r sefyllfa ac yn cael cwsg gweddol Tin-droi a gwylio rybish yn hwyr yn y nos sy'n fy nghadw i'n ddeffro yn hytrach na methu cysgu per se.

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?
Rhwng cwsg ag effro bore ma mi wnes i ddisgyn ar ben y bwrdd smwddio.

3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
Rhyw nodiadau amwys iawn i fi fy hun:
Llythyr. Dweud yn fras.
Lein ar gyfer dydd Sul.
Hitlist.

4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
Dwi weithia yn licio meddwl mod i'n osgeiddig, ond tra dwi'n gwneud petha fel disgyn ar ben byrddau smwddio fyddai'i byth.

5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch
ymateb?

Dwi fwy o Offeiriad na Samariad
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Sili » Gwe 27 Hyd 2006 1:07 pm

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
Nagydw, dim ond wedi noson allan. Dwi'm yn rhy cin ar y tywyllwch felly mae'r ofn fel arfer yn fy nghadw i'n effro am sbel... :wps:

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?
Syrinj llawn adrenaline a lignocaine ddoe. Cyn hynny, fy stand biano wrth i mhiano a'n organ ddisgyn ar fy nhroed a'n landio yn A&E am brynhawn.

3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
Dwnim am bapur, ond mi fues i'n tynnu llunia cylchoedd ar fraich Huw Psych ddoe er mwyn rhoi targed i mi wthio'r syrinjus di-rifedi (568 ohonyn nhw i fod yn fanwl gywir) heb daro gwythien.

4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
Hollol lletchwith. Does gennai fawr o falans ac felly wedi ngorchuddio mewn cleisiau fel arfer.

5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?
"Ymddiheuraf, dwi'm yn eich deall chi syr" neu "I've only got my card, no change mate". Dwi'n reit galon galad at brydia.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan krustysnaks » Gwe 27 Hyd 2006 1:29 pm

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
Ydw. Nes i bron syrthio i gysgu tra'n cael fy ngwallt wedi torri, jyst nawr.

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?
Nid fy torrodd y gwallt, felly fy ewinedd tua wythnos yn ôl. Anaml iawn dwi'n malu pethau - dwi'n gallu gwneud i bâr o drowsus i bara am flynyddoedd.

3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
Cyfeirnodau (classmarks?) ar gyfer llyfrau yn y llyfrgell.

4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
Dwi'n eitha gosgeiddig. Dwi'n sicr ddim yn lletchwith ond dwi ddim yn symud fel dawnsiwr ballet.

5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?
Dwi bron iawn byth yn rhoi arian i dramps ar y stryd. Pan fyddai'n gweld blwch casglu Shelter neu gasgliad gan elusen i'r digartref, yna fe fyddai'n rhoi rhywbeth bob tro. Ar egwyddor, dwi'n gwrthod rhoi unrhyw arian i dramps (na phrynu Big Issue oddi wrth) pobl sy'n smocio. Luxury ydi smocio.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron