Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 27 Hyd 2006 9:22 am

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?
3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Daffyd » Gwe 27 Hyd 2006 9:28 am

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
Dwi ddim yn tueddu i fynd i gwely heblaw am os ydwi wirioneddol wedi blino, ac felly yndw mi ydwi yn disgyn i gysgu yn hawdd. Os ydwi yn trio mynd i gysgu os dwi heb flino, yna sgenaim chance. Nathna larwm tan fynd off 4 y bora neithiwr, ac hefyd nathna griw mawr o bobl fynd mewn i'r gegin (sydd drws nesa i fy stafell) a rhoi radio mlaen yn ychal a gweiddi dros lle. Neshi ddisgyn i gysgu erbyn diwadd.

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?
Cyllall. O ni yn torri caws a natho snapio yn ei hannar. I was rather impressed and dissapointed ar yr un pryd.

3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
Nodiadau yn fy narlith dydd Merchar. Connotations o gymeriad rhywyn mewn advert Levi's.

4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
Bad vocabulary moment. Be ma'r geiria ma'n feddwl?

5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?
Nathna rhywyn ofyn am pres bys yn Gaerdydd. Roishi bunt idda fo. Nai byth roid i buskers chwaith. Basdad teit dwi yn y bon dwin meddwl.
We don't live in Ameri-can't, Steve. We live in Ameri-can. Oh no wait....
Rhithffurf defnyddiwr
Daffyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1423
Ymunwyd: Llun 05 Gor 2004 10:37 pm
Lleoliad: Caerdydd/Mynytho

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 27 Hyd 2006 9:30 am

Daffyd a ddywedodd:4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
Bad vocabulary moment. Be ma'r geiria ma'n feddwl?

Yo. Daffyd, are you graceful, or are you clumsy?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Mwddrwg » Gwe 27 Hyd 2006 9:32 am

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
dim ond pan yn feddw iawn

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?
gwynt (odd rhaid i rywun ddweud o...) :rolio:
fel arall - gwydr(au) gwin - oddeutu un pob pythefnos ar hyn o bryd

3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
fy llofnod a rhif y basdad bleep

4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
lletchwith - gen i'r cleisiau'n brawf

5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?
dibynnu ar y person, fy mood a'r sefyllfa
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 27 Hyd 2006 9:38 am

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?

Fel arfer. Fydda' i wastad yn rhoi cerddoriaeth mlaen wrth fynd i gysgu, ond prin y bydda' i'n cyrraedd diwedd yr un ohonyn nhw.

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?

Torri dim. Bydde hynny'n awgrymu nad ydw i'n osgeiddig...

Oce, ges i gwt ar fy mys pyddwrnod wrth dorri winwns neu rywbeth.

3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?

Bin dillad. Mae angen un newydd arna' i. Cyffro, eh?

4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?

Wastad yn osgieddig. Watsda. Btyh yn neud camgymeiradau.

5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?

"Yes I do, I have plenty. Thanks for looking out for me."
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan joni » Gwe 27 Hyd 2006 9:45 am

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
Dim really. Ma fel arfer yn cymryd dipyn o amser. Wrth gwrs, os oes cwpl o beints tu mewn i dyn yna ma'n dipyn haws mynd i gysgu.
2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?
Fy ngwinedd.
3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
"0881885770". 'Dyw'r sbort byth yn stopio fan hyn bois bach.
4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
Braidd yn lletwhith. Ond dim mewn ffordd buffoon-aidd. Sai'n cerdded mewn i sdwff o hyd er enghraifft. Jyst braidd yn anhaclus.
5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?
"Nag oes, ma'n ddrwg gen i". Dwi dueddol o gael ymateb gwell o ddweud hynna na jyst cerdded heibio'n dawel yn gafael ar yr holl newid yn fy mhoced i'w stopio rhag janglo.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Cymro13 » Gwe 27 Hyd 2006 10:01 am

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?

Ydw - Yn enwedig yn y nos :winc:

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?

Methu cofio - sai di torri dim byd er ages

3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?

Seinio am barsel ddaeth i gwaith tua 5 munud yn ol

4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?

Lletchith mwy na thebyg

5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?

"Ger a job you lazzy sod" :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Lowri Fflur » Gwe 27 Hyd 2006 10:16 am

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd? Na ddim o gwbl. Ffeindio hi'n anodd iawn i fynd i gysu yn arbennig pam dwi'n poeni am rywbeth a heb neud llawer. Wethiau pam dwi'n cael diwrnod ofnadwy o brysur, dwi 'di blino gymaint nes bod fi ddim yn gallu meddwl, hynny'n gret deffro yn y bore yn teimlo yn hollol ffresh.
2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri? Cwpan bore 'ma.
3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur? Stori fer am hogun bach o'r enw Llion sydd yn denig oi'n byd ni i fod yn dylwyth teg yn byw mewn castell wedi neud allan o ddaned y nwaelod yr ardd.
4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith? Lletchwith yn bendant. Mae o'n agwedd o bersenoliaeth fy hyn sydd yn mynd dan fy nghroen. Dwi mor anrhefnus nes bod fi'n colli fy sgidiau, fy nghot, a fy ffon yn fy nhy fy hun.
5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb? Dwi wastad yn cydnabod y person, hyd yn oed os mae o i ddweud "No sorry". Mae o'n dibynu ar y mood a os gyna fi bres. Os dwi'n rhoi pres, fel arfer dwi'n rhoi punt. Dwi'n rhoid pres i busgers achos dwi'n meddwl bod o'n gret gweld nhw ar y stryd.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Jeni Wine » Gwe 27 Hyd 2006 10:19 am

1. Ydych chi’n syrthio i gysgu’n hawdd?
Yndw. Wastad yn cysgu o fewn pum munud i mi roi fy mhen i lawr (os nad llai).

Dwi'n teimlo'n euog am y peth pan mae pobol yn gwaith yn son am fethu cysgu achos fod rhyw broblem sydd a wnelo fo a gwaith yn mynd rownd a rownd yn eu penna nhw. Breuddwydio am ffyrdd i ddatrys y broblem fydda i. Sy ddim yn lot o help achos dwi ddim yn cofio'r ateb erbyn y bore.

Mae fy ffrind gora yn gwneud ei holl feddwl creadigol yn y gwely gyda'r nos, sy'n ei gadw'n effro. Weithia, swn i'n lecio swn i felly.

Ond y rhan fwya o'r amser, dwi'n falch mod i'n gallu cysgu mor hawdd. Mae o'n fendith. :D

2. Beth oedd y peth diwetha’ i chi dorri?
Llwy bwdin. Ro'n i'n bod yn rhy anymyneddgar efo'r hufen ia fanila Greens and Black.

3. Beth oedd y peth diwetha’ i chi sgwennu ar bapur?
Nodiada yn gwaith bore ma. Cyn hynny, trio helpu Mihangel efo'i dasgau Beirdd v Rapwyr yn y Trallwng heno. Do'n i'm yn lot o help. :(

4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
Lletchwith a gosgeiddig, diolch!

5. Pan mae rhywun yn gofyn am arian ar y stryd, beth yw’ch ymateb?
Fel arfer, dwi'n deud sori, cario mlaen i gerdded, cyn cochi am fy mod yn casau gwrthod arian i bobol. Ond os di rhywun yn gofyn am arian ar gyfer rhywbeth yn arbennig, fel pres bys, neu pres am banad, fyddai fel arfer yn rhoi fy llaw yn fy mhocad. Dim syniad pam dwi'n gwneud hyn, chwaith.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Re: Pump am y Penwythnos - 27/10/06

Postiogan Daffyd » Gwe 27 Hyd 2006 10:20 am

Dwlwen a ddywedodd:
Daffyd a ddywedodd:4. Ydych chi’n osgeiddig yntau’n lletchwith?
Bad vocabulary moment. Be ma'r geiria ma'n feddwl?

Yo. Daffyd, are you graceful, or are you clumsy?

Wpadeis.

I ddefnyddio fy new found word - lletchwith. Like a one legged goose.
We don't live in Ameri-can't, Steve. We live in Ameri-can. Oh no wait....
Rhithffurf defnyddiwr
Daffyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1423
Ymunwyd: Llun 05 Gor 2004 10:37 pm
Lleoliad: Caerdydd/Mynytho

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron