1. Sut y’ch chi’n ymdopi dan bwysau? (h.y. yw ‘stress' – smart arses.)
Dwi'n trio neud yn siwr mod i'n delio gyda beth bynnag cyn i'r sefyllfa droi yn un stressful. Pan nad yw hyn yn bosibl, dwi'n tueddu i gynhesu a colli ychydig o tact.
2. Ydych chi’n gwneud rhywbeth, e.e. cnoi ewinedd, pan fyddwch chi dan straen? Beth?
Dwi'n eitha da am fewnoli straen ond dwi'n partial i ychydig o chwarae gyda fy ewinedd gyda fy mysedd e.e gwneud siapiau allan o'r darn gwyn ar y top.
3. Y’ch chi byth yn bwyta fel cysur? Beth?
Dwi ddim yn troi at fwyd er mwyn cael cysur. Os rhywbeth, bar o siocled neu pei cyw iâr a madarch a bag o tships o'r siop tships.
4. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n eich gwneud chi’n isel? Pa rhai?
Dwi'n eitha sal ar hyn o bryd - mae hyn yn fy ngwneud i'n eitha isel. Dwi'n berson eitha cyson, i ddweud y gwir, dwi ddim yn berson emosiynau ^v^v , dwi'n mwy o --__-- (os bydd lawr o gwbl).
5. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n codi eich calon? Pa rhai?
Dwi'n hoff *iawn* o ddiwrnod Dolig. Mae cael rhywun yn dweud wrthai bod fy ngwaith i o safon eitha da yn helpu hefyd, felly'r diwrnod pan dwi'n cael traethodau yn ôl, fel arfer.