Pump am y Penwythnos - 3/11/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos - 3/11/06

Postiogan krustysnaks » Gwe 03 Tach 2006 12:34 pm

1. Sut y’ch chi’n ymdopi dan bwysau? (h.y. yw ‘stress' – smart arses.)
Dwi'n trio neud yn siwr mod i'n delio gyda beth bynnag cyn i'r sefyllfa droi yn un stressful. Pan nad yw hyn yn bosibl, dwi'n tueddu i gynhesu a colli ychydig o tact.

2. Ydych chi’n gwneud rhywbeth, e.e. cnoi ewinedd, pan fyddwch chi dan straen? Beth?
Dwi'n eitha da am fewnoli straen ond dwi'n partial i ychydig o chwarae gyda fy ewinedd gyda fy mysedd e.e gwneud siapiau allan o'r darn gwyn ar y top.

3. Y’ch chi byth yn bwyta fel cysur? Beth?
Dwi ddim yn troi at fwyd er mwyn cael cysur. Os rhywbeth, bar o siocled neu pei cyw iâr a madarch a bag o tships o'r siop tships.

4. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n eich gwneud chi’n isel? Pa rhai?
Dwi'n eitha sal ar hyn o bryd - mae hyn yn fy ngwneud i'n eitha isel. Dwi'n berson eitha cyson, i ddweud y gwir, dwi ddim yn berson emosiynau ^v^v , dwi'n mwy o --__-- (os bydd lawr o gwbl).

5. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n codi eich calon? Pa rhai?
Dwi'n hoff *iawn* o ddiwrnod Dolig. Mae cael rhywun yn dweud wrthai bod fy ngwaith i o safon eitha da yn helpu hefyd, felly'r diwrnod pan dwi'n cael traethodau yn ôl, fel arfer.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Cymro13 » Gwe 03 Tach 2006 1:08 pm

1. Sut y’ch chi’n ymdopi dan bwysau? (h.y. yw ‘stress' – smart arses.)
:ing:

Cofio unwaith nes i trasho stafell fyw fy nhy(Diolch byth taw dim ond fi oedd yn byw yna ar y pryd)

2. Ydych chi’n gwneud rhywbeth, e.e. cnoi ewinedd, pan fyddwch chi dan straen? Beth?

Rhegi lot

3. Y’ch chi byth yn bwyta fel cysur? Beth?

Dim bwyta jyst cael ffag i coolio lawr

4. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n eich gwneud chi’n isel? Pa rhai?

Dydd Llun - Dydd Mercher

5. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n codi eich calon? Pa rhai?

Dydd Gwener - am resymau amlwg
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Pump am y Penwythnos - 3/11/06

Postiogan tafod_bach » Gwe 03 Tach 2006 1:36 pm

1. Sut y’ch chi’n ymdopi dan bwysau? (h.y. yw ‘stress' – smart arses.)
self medication: calpol. cacs. wisgi. yym. cuddio. crio. watcho videos steven king. aaaa.

2. Ydych chi’n gwneud rhywbeth, e.e. cnoi ewinedd, pan fyddwch chi dan straen? Beth?
cnoi ewinedd, twyrlio a cnoi gwallt. rwbio bol. bod yn sic. halio

3. Y’ch chi byth yn bwyta fel cysur? Beth?
byddai'n coginio rhyw fath o bryd 'al forno' mawr cawslyd 'i'w rannu' a byta fe i gyd ar y slei. a hufen ia.

4. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n eich gwneud chi’n isel? Pa rhai?
dydd mawrth 23ain. yn ddi ffael.

5. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n codi eich calon? Pa rhai?
dydd san swithin (os yw hi'n braf), san steffan a sant teilo.
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Re: Pump am y Penwythnos - 3/11/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 03 Tach 2006 2:46 pm

1. Sut y’ch chi’n ymdopi dan bwysau? (h.y. yw ‘stress' – smart arses.)
Pan wy’n disgwyl bod dan bwysau, a’n gorfod ymdopi, e.e. yn gwaith, wy’n fine… Ar y llaw arall, os fydda i’n darganfod ‘yn hun mewn sefyllfa stressful allai’m ‘i rheoli – wy’n olwg ddigon pathetic.
Golles i’r tren ola’ nôl o Lundain cwpwl o wthnose nôl – gynigon nhw hala fi i Fryste, neu tocyn £100 bore wedyn… ‘nes i actiwli jyst llefen at y boi tocynne wedyn cerdded off... wedyn ffindo ffrind i aros ‘da nhw a bwcio’r megabus - pob dim yn iawn yn y pendraw.


2. Ydych chi’n gwneud rhywbeth, e.e. cnoi ewinedd, pan fyddwch chi dan straen? Beth?
Wy'n cnoi gwinedd trwy'r amser... chwarae gyda 'ngwallt, clau pethau, yfed coffi.

3. Y’ch chi byth yn bwyta fel cysur? Beth?
Ydw. Lot o joclet a coffi ...wel unrhyw fwydydd sbo.

4. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n eich gwneud chi’n isel? Pa rhai?
Dwy ddim yn hoffi Dydd Mercher. Dwn i ddim yn union pam.

5. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n codi eich calon? Pa rhai?
Dydd Iau nesa :D www, a dydd Mawrth nesa' fyd!
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 3/11/06

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 03 Tach 2006 3:36 pm

1. Sut y’ch chi’n ymdopi dan bwysau? (h.y. yw ‘stress' – smart arses.)
Weeeeeel ma'n dibynnu. Fel arfer dw i'n cael rhyw banic tawel i mi fy hun, argyhoeddi fy hun bod y byd ar ben cyn mynd yn awtomatig i leihau'r pwysau.

2. Ydych chi’n gwneud rhywbeth, e.e. cnoi ewinedd, pan fyddwch chi dan straen? Beth?
Bod yn flin efo pawb arall

3. Y’ch chi byth yn bwyta fel cysur? Beth?
Na, jyst bwyta gormod eniwe.

4. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n eich gwneud chi’n isel? Pa rhai?
Dydd Iau. Ddim yn ganol wythnos, bron a bod yn benwythnos ond ddim cweit. Diwrnod annifyr.

5. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n codi eich calon? Pa rhai?
Dydd Gwener, wrth gwrs! Oes rhaid ymhelaethu?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos - 3/11/06

Postiogan Ray Diota » Gwe 03 Tach 2006 3:58 pm

Dwlwen a ddywedodd:.
Golles i’r tren ola’ nôl o Lundain cwpwl o wthnose nôl – gynigon nhw hala fi i Fryste, neu tocyn £100 bore wedyn… ‘nes i actiwli jyst llefen at y boi tocynne wedyn cerdded off... wedyn ffindo ffrind i aros ‘da nhw a bwcio’r megabus - pob dim yn iawn yn y pendraw.


bee there, done that, slept on the streets of bristol... nos: :x :ofn: :crio: bore: :? :o :? :)
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Gwe 03 Tach 2006 4:10 pm

1. Sut y’ch chi’n ymdopi dan bwysau? (h.y. yw ‘stress' – smart arses.)
Yn eitha da dwi'n meddwl. Trafod yn adeiladol efo pobl eraill yn help. Mae 'na bob amser rywun all dy helpu di i weld synnwyr pan ti'n bihafio'n afresymol. Yr hyn sy'n ddiddorol ydi nad y bobl ti agosa atyn nhw ydi'r bobl hyn yn aml iawn, ond rhyw ffrind eitha pell, neu ffrind-i-ffrind neu gydnabod.

2. Ydych chi’n gwneud rhywbeth, e.e. cnoi ewinedd, pan fyddwch chi dan straen? Beth?
O'n i'n sdresd ddechrau'r wythnos ac mi gefais wybod fod fy llygaid i wedi mynd yn fawr fel soseri. Hefyd mi wna'i gnoi beiro.

3. Y’ch chi byth yn bwyta fel cysur? Beth?
Nid i sdres. Does na'm amser i sdopio i fwyta ynghanol rhialtwch y prysurdeb. Ond y diwrnod wedyn mi wna'i dretio fy hun yn ormodol - yr wythnos yma pron coctel gwerth £10, salad afocado efo dresing drudfawr a rhyw bwdin siocled - i gyd o M&S oedd hi (lwcus mod i ar ddeiet (marchnata da ar ran y cwmni oedd yn gyfrifol am i mi brynu'r pwdin nid gwendid ar fy rhan i) neu mi fuasai wedi bod yn ddigon o Chinese i fwydo'r pum mil eto).

4. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n eich gwneud chi’n isel? Pa rhai?
Bore dydd Iau - mae'n agos at ddiwedd yr wythnos, ond eto'n boenus o bell i ffwrdd.

5. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n codi eich calon? Pa rhai?
Dydd Sul - yfed powlen anferth o goffi. Mynd nol i'n fflat ac edrych ar ffilm dda (gan fy mod i braidd yn dwp, mi fydda'i yn graddio pa mor 'dda' ydi ffilm yn ôl pa mor lliwgar ydi hi. I fi felly mae Miss Congeniality yn well ffilm na Schindler's List :wps: ).
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Re: Pump am y Penwythnos - 3/11/06

Postiogan anffodus » Sad 04 Tach 2006 5:46 pm

1. Sut y’ch chi’n ymdopi dan bwysau? (h.y. yw ‘stress' – smart arses.)
Drwy drio ymlacio a gneud dim

2. Ydych chi’n gwneud rhywbeth, e.e. cnoi ewinedd, pan fyddwch chi dan straen? Beth?
na, dwi'm yn meddwl

3. Y’ch chi byth yn bwyta fel cysur? Beth?
Na

4. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n eich gwneud chi’n isel? Pa rhai?
Dydd Sul - Bron iawn yn ddiwedd y penwsos, Dydd Llun - dechra wsos arall o wallgofrwydd, Dydd Mawrth - y penwsos yn bell i ffwrdd.

5. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n codi eich calon? Pa rhai?
Dydd gwener - oriau i ffwrdd o allu dathlu mod i 'di goroesi wsos arall.
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron