gan Lowri Fflur » Gwe 03 Tach 2006 12:21 pm
1. Sut y’ch chi’n ymdopi dan bwysau? (h.y. yw ‘stress' – smart arses.)
Pam mae yna rywbeth mawr yn fy mhoeni dwi'n dda iawn, dwi'n gallu cael fy hun mewn i ffram positif o feddwl a bwyta'n iach a neud ymarfer corff ag ati achos bod fi'n gwybod bod rhaid i fi neud o. Os dwi'n gwybod bod y gwaethaf drosodd dwi'n crap, yn colli egni ac yn myd yn ddiog. Dwi'n treulio goromod o amser yn meddwl ac ail ystyried pethau, yn bwyta crap ac yr antur mwyaf dwi'n cael mewn diwrnod ydi mynd i'r llyfgell i nol llyfrau i gael bod yn fwy diog.
2. Ydych chi’n gwneud rhywbeth, e.e. cnoi ewinedd, pan fyddwch chi dan straen? Beth?
Pam dwi dan straen go iawn dwi methu aros yn llonydd. Dwi methu darllen llyfr a nai gerdded am filltiroedd i sdopi fy hun rhag hel meddylia.
3. Y’ch chi byth yn bwyta fel cysur? Beth? Os dwi dan straen na mae llyncu bwyd yn boenus achos bod fi'n teimlo bod gyna fi lwmp mawr yn fy ngwddw a mae'r bwyd yntroi yn fy stumog ond nai orfodi fy hun i neud achos bod rhaid bwyta. Os ti ddim yn bwyta pam ti dan straen ti'n gadale i'r straen ennill, end of story. Dwi'n bwyta allan o boredem, mwynhau bwyta yn y dechrau yna teimlo yn sal a meddwl dwi byth, byth yn gwneud hynny eto a wastad yn gwneud.
4. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n eich gwneud chi’n isel? Pa rhai?
Na.
5. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n codi eich calon? Pa rhai?
Bob diwrnod yn codi fy nghalon, pam ti'n deffro yn y bore mae hi'n ddiwrnod newydd a ti heb neud dim camgymeriadau. Dydd llun yn ddiwrnod da achos bod hi'n ddechrau wythnos a mae o'n gyfle newydd i neud wythnos anhygoel o waith. Nos Sadwrn yn ddiwrnod da i fi,dim gwaith ar ddyd Sul a cyfle i fwynhau. Dydd Sul yn gret, cyfle i ymlacio, darllen ac yfed ychydig.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"