Pump am y Penwythnos - 3/11/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos - 3/11/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 03 Tach 2006 11:44 am

1. Sut y’ch chi’n ymdopi dan bwysau? (h.y. yw ‘stress' – smart arses.)
2. Ydych chi’n gwneud rhywbeth, e.e. cnoi ewinedd, pan fyddwch chi dan straen? Beth?
3. Y’ch chi byth yn bwyta fel cysur? Beth?
4. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n eich gwneud chi’n isel? Pa rhai?
5. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n codi eich calon? Pa rhai?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 3/11/06

Postiogan joni » Gwe 03 Tach 2006 11:48 am

1. Sut y’ch chi’n ymdopi dan bwysau? (h.y. yw ‘stress' – smart arses.)
Sai byth yn stressed yn aml iawn. Ond sai'n ymdopi'n rhy dda yn yr adegau na pan bo fi yn. Falle bod angen fod yn stressed mwy aml.
2. Ydych chi’n gwneud rhywbeth, e.e. cnoi ewinedd, pan fyddwch chi dan straen? Beth?
Chewing gum. Yfed.
3. Y’ch chi byth yn bwyta fel cysur? Beth?
Na.
4. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n eich gwneud chi’n isel? Pa rhai?
Dim o gwbl
5. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n codi eich calon? Pa rhai?
Rhan fwyaf o ddyddie!
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos - 3/11/06

Postiogan Chwadan » Gwe 03 Tach 2006 11:51 am

1. Sut y’ch chi’n ymdopi dan bwysau? (h.y. yw ‘stress' – smart arses.)
Drwy fod yn or-drefnus ac effishynt iawn. A drwy gael talcen sbotlyd :x

2. Ydych chi’n gwneud rhywbeth, e.e. cnoi ewinedd, pan fyddwch chi dan straen? Beth?
Pigo'r sbotiau ar fy nhalcen mashwr :?

3. Y’ch chi byth yn bwyta fel cysur? Beth?
Siocled. Fel arfer ma'n waeth rhwng misoedd Chwefror ac Ebrill am ryw reswm.

4. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n eich gwneud chi’n isel? Pa rhai?
Naaa, tydi'r penwythnos o hyd yn dod rownd yn sydyn.

5. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n codi eich calon? Pa rhai?
Dydd Gwener - cymaint o obeithion am y penwythnos...A 'mhenblwydd (dydd Mawrth nesa - cofiwch bawb :D).
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am y Penwythnos - 3/11/06

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 03 Tach 2006 11:56 am

1. Sut y’ch chi’n ymdopi dan bwysau? (h.y. yw ‘stress' – smart arses.)

Trwy fod yn ddiog.

2. Ydych chi’n gwneud rhywbeth, e.e. cnoi ewinedd, pan fyddwch chi dan straen? Beth?

Fi wastad yn cnoi fy ewinedd. Ond os bydda' i dan bwysau, yn bryderus, neu wedi blino, rhywbeth fel'na, fi'n cael twitsh bach yn fy llygad. Mae'n 'oribl.

3. Y’ch chi byth yn bwyta fel cysur? Beth?

Cnau. Mmmmm.

4. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n eich gwneud chi’n isel? Pa rhai?

Ar ôl cyrraedd nôl o wyliau, a sylweddoli bod rhaid mynd nôl i'r hen drefn.

5. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n codi eich calon? Pa rhai?

Diwrnodau fel fory. :D
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos - 3/11/06

Postiogan Siffrwd Helyg » Gwe 03 Tach 2006 11:57 am

1. Sut y’ch chi’n ymdopi dan bwysau? (h.y. yw ‘stress' – smart arses.)
Dwi'n panicio ac yn llefen am y pethe lleia, ac yna ma' popeth yn mynd yn ffradach a dwi methu gwneud dim byd :crio:

2. Ydych chi’n gwneud rhywbeth, e.e. cnoi ewinedd, pan fyddwch chi dan straen? Beth?
Cnoi gwynedd on i'n arfer gwneud, ond dwi heb wneud ers 2 fis nawr, woohoo. Pan dwi'n stresd a'n trio gwneud lot o waith yn gyflym, ma'n nghoes dde i'n dechre neud pethe rhyfedd... hmmm...

3. Y’ch chi byth yn bwyta fel cysur? Beth?
Siocled. Twirl.

4. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n eich gwneud chi’n isel? Pa rhai?
Dydd Mawrth. Fi sy'n rhoi'r bins mas yn y bore...a wedyn ma rhaid llunio'r Ebost Wythnosol (peidiwch gofyn...) trwy dydd Mawrth yn gwaith - stressss.

5. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n codi eich calon? Pa rhai?
Dydd Gwener. Dydd Gwener cyn penwythnos ryng-gol. Heddiw :D !!
Rhithffurf defnyddiwr
Siffrwd Helyg
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 830
Ymunwyd: Sul 08 Meh 2003 10:38 pm
Lleoliad: Caerfyrddin/Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos - 3/11/06

Postiogan Sili » Gwe 03 Tach 2006 12:10 pm

1. Sut y’ch chi’n ymdopi dan bwysau? (h.y. yw ‘stress' – smart arses.)
Gweithio. Os na fyswn i dan bwysa'n reit aml (drwy adael petha munud dwytha/cael gormodedd o waith a ballu) fyddwn i byth yn cyflawni dim.

2. Ydych chi’n gwneud rhywbeth, e.e. cnoi ewinedd, pan fyddwch chi dan straen? Beth?
Mi fyddwn i'n arfer clicio bysedd, ond dwi di medru stopio erbyn hyn. Fel arfer, dwi'n mynd i chwarae'r piano'n ffyrnig am awr a gwae unrhyw un fydd yn fy styrbio...

3. Y’ch chi byth yn bwyta fel cysur? Beth?
Nagydw. Paneidiau di-ri di'r unig wall cymeriad yn fama.

4. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n eich gwneud chi’n isel? Pa rhai?
Dim felly, ond dydd Llun di'r diwrnod gwaethaf i mi ar y funud gan mai hwnna di'r diwrnod dwi fwyaf tebygol o gael darlithoedd solat drwy'r dydd.

5. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n codi eich calon? Pa rhai?
Diwrnod 'di diwrnod de, waeth pryd yn ystod yr wythnos. Ond ma gennai rhyw hoffter cyfrinachol tuag at dydd Iau, dwnim pam.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan garynysmon » Gwe 03 Tach 2006 12:10 pm

1. Sut y’ch chi’n ymdopi dan bwysau? (h.y. yw ‘stress' – smart arses.)
Gwylltio efo pawb a phopeth sy'n digwydd bod wrth f'ymyl. Sgenai'm ffiws hir iawn.

2. Ydych chi’n gwneud rhywbeth, e.e. cnoi ewinedd, pan fyddwch chi dan straen? Beth?
Cnoi gwynadd, a gwylltio eto.

3. Y’ch chi byth yn bwyta fel cysur? Beth?
Allai'm meddwl am ddim a deud gwir.

4. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n eich gwneud chi’n isel? Pa rhai?
Dydd Sul.

5. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n codi eich calon? Pa rhai?
P'nawn D. Gwener
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Dwi'n gaeth i gaws » Gwe 03 Tach 2006 12:16 pm

1. Sut y’ch chi’n ymdopi dan bwysau? (h.y. yw ‘stress' – smart arses.)Ma'n dibynnu lle ydw i ag efo pwy - pan ma pobl erill yn mynd yn sdresd o nghwmpas i dwi'n gallu aros reit chilled out - pan dwi'n sdresd a pawb arall yn chilled out dwi'n fflipio.

2. Ydych chi’n gwneud rhywbeth, e.e. cnoi ewinedd, pan fyddwch chi dan straen? Beth? Potsian fo ngwallt, pwyso ar un goes a rhoi nwylo ar fy nghluniau (hy hips).

3. Y’ch chi byth yn bwyta fel cysur? Beth? Weithia, siocled, caws, yn fwy penodol alcohol... Snam byd gwell fel cysur na Losgows Mam ddo.

4. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n eich gwneud chi’n isel? Pa rhai? Oes, dydd Mawrth, dim yn digwydd.

5. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n codi eich calon? Pa rhai? Dydd Sul, Gwener, Sadwrn, Iau.......
blew
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n gaeth i gaws
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 782
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 6:38 pm
Lleoliad: yn y dwr

Re: Pump am y Penwythnos - 3/11/06

Postiogan Jeni Wine » Gwe 03 Tach 2006 12:17 pm

1. Sut y’ch chi’n ymdopi dan bwysau? (h.y. yw ‘stress' – smart arses.)
Dwi ddim yn dda iawn dan bwysau a dwi'n dueddol o drio gwneud i bawb ddiodda efo fi, sy'n fy ngwneud i'n llai anhapus byth. Dwi hefyd yn cael strops a chrio a gweiddi bob yn ail. Felly nid yn unig dwi o dan bwysa, ond dwi hefyd yn psycho bitch from hell.

2. Ydych chi’n gwneud rhywbeth, e.e. cnoi ewinedd, pan fyddwch chi dan straen? Beth?
Cnoi ngwinadd yn racs jibiders.
Dwi hefyd yn cael ylsyrs yn fy ngeg pan dwi o dan bwysa. :crio:

3. Y’ch chi byth yn bwyta fel cysur? Beth?
tolc o fara brown a chaws
mynydd o datws stwnsh

4. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n eich gwneud chi’n isel? Pa rhai?
Dyddia pan dwi'n codi cyn y wawr - cyrraedd y gwaith - gweithio o flaen fy sgrin drwy'r dydd - a gadael ar ol iddi fachlud.

5. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n codi eich calon? Pa rhai?
Dyddiau Gwener.
Sicis.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Re: Pump am y Penwythnos - 3/11/06

Postiogan Lowri Fflur » Gwe 03 Tach 2006 12:21 pm

1. Sut y’ch chi’n ymdopi dan bwysau? (h.y. yw ‘stress' – smart arses.)
Pam mae yna rywbeth mawr yn fy mhoeni dwi'n dda iawn, dwi'n gallu cael fy hun mewn i ffram positif o feddwl a bwyta'n iach a neud ymarfer corff ag ati achos bod fi'n gwybod bod rhaid i fi neud o. Os dwi'n gwybod bod y gwaethaf drosodd dwi'n crap, yn colli egni ac yn myd yn ddiog. Dwi'n treulio goromod o amser yn meddwl ac ail ystyried pethau, yn bwyta crap ac yr antur mwyaf dwi'n cael mewn diwrnod ydi mynd i'r llyfgell i nol llyfrau i gael bod yn fwy diog.

2. Ydych chi’n gwneud rhywbeth, e.e. cnoi ewinedd, pan fyddwch chi dan straen? Beth?
Pam dwi dan straen go iawn dwi methu aros yn llonydd. Dwi methu darllen llyfr a nai gerdded am filltiroedd i sdopi fy hun rhag hel meddylia.
3. Y’ch chi byth yn bwyta fel cysur? Beth? Os dwi dan straen na mae llyncu bwyd yn boenus achos bod fi'n teimlo bod gyna fi lwmp mawr yn fy ngwddw a mae'r bwyd yntroi yn fy stumog ond nai orfodi fy hun i neud achos bod rhaid bwyta. Os ti ddim yn bwyta pam ti dan straen ti'n gadale i'r straen ennill, end of story. Dwi'n bwyta allan o boredem, mwynhau bwyta yn y dechrau yna teimlo yn sal a meddwl dwi byth, byth yn gwneud hynny eto a wastad yn gwneud.
4. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n eich gwneud chi’n isel? Pa rhai?
Na.
5. Oes ‘na ddyddiau penodol sy’n codi eich calon? Pa rhai?
Bob diwrnod yn codi fy nghalon, pam ti'n deffro yn y bore mae hi'n ddiwrnod newydd a ti heb neud dim camgymeriadau. Dydd llun yn ddiwrnod da achos bod hi'n ddechrau wythnos a mae o'n gyfle newydd i neud wythnos anhygoel o waith. Nos Sadwrn yn ddiwrnod da i fi,dim gwaith ar ddyd Sul a cyfle i fwynhau. Dydd Sul yn gret, cyfle i ymlacio, darllen ac yfed ychydig.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai