Pump am y Penwythnos - 17/11/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

Postiogan Daffyd » Gwe 17 Tach 2006 10:51 am

1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.
Gwely sydd ddim really digon da i cael ei alw yn wely, efo matras, wel, shit. Ond ma'ng ngwely i adra yn immense.

2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?
Anodd iawn. O ni dal yn eitha meddw ar ol mynd ing ngwely tua 4:30, ac fe geshi fy neffro gan fy ffon yn mynd off am 9:30.

3. Beth sy’n gwneud i chi disian (sneeze)?
Anwyd, sbeisys, suspision.

4. Y’ch chi’n ogleisiol (ticklish)? (Ble?)
Hee hee. Ma meddwl am can fy nhiclo yn neud fi chwerthin. Ond dwi'n casau o. Mynd yn flin a violent os ma rhywyn yn trio ticlo fo.

5. Dywedwch gelwydd, plîs.
Dwi byth yn deud clwydda.
We don't live in Ameri-can't, Steve. We live in Ameri-can. Oh no wait....
Rhithffurf defnyddiwr
Daffyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1423
Ymunwyd: Llun 05 Gor 2004 10:37 pm
Lleoliad: Caerdydd/Mynytho

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 17 Tach 2006 11:13 am

1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.
Gwely squidgy gwyn.

2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?
Hawdd-ish. Odd hi'n heulog braf pan godes i. Piso bwrw nawr.

3. Beth sy’n gwneud i chi disian (sneeze)?
Anwyd, a phlycio aeliau.

4. Y’ch chi’n ogleisiol (ticklish)? (Ble?)
Ddim rili. Falle mbach rownd 'y ngwast.

5. Dywedwch gelwydd, plîs.
Jeni Wine a ddywedodd:Dwi'n meddwl (think) fod rhoi'r gair Saesneg ar ol geiriau (words) Cymraeg yn syniad (idea) gwych (brilliant).

Sarcasm yw un o'r ffyrdd gorau o fynegi barn, diolch.

:winc:

Dynnai'r geiriau Saesneg o 'na gan mai 'ond ieithgwn sy' 'ma heddi, oce?!
Ond c'mon, go iawn - pwy sy'n defnyddio'r gair 'gogleisiol' (ych-y-pych-am-air-hyll, a ma'r treigliad yn hyllach fyth... yn fy marn i) a ma' amwysedd 'tisian'/ 'teisen' jyst yn minefield... /cyfiawnhau
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

Postiogan Sili » Gwe 17 Tach 2006 11:50 am

1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.
Gwely sengl reit fawr efo ser drosto mewn stafell gwyn efo lle tan a llun canfas o dri ceffyl marw uwch ei ben. CD's ym mhobman a tri allweddell yn pwyso yn erbyn y walia. Mai'n braf yma :)

2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?
Wel, nesi ddisgyn i gysgu yn ol wedi deffro unwaith, ond wedyn gesi neges ffon gan fy nghariad nath lwyddo neffro i yn diwadd.

3. Beth sy’n gwneud i chi disian?
Bob dim. Pan dwi'n codi, byta, rhoi mascara (ac o'r herwydd yn ymdebygu i banda erbyn gorffen), plygu lawr, chwilio am betha, trio cysgu, gwisgo amdanai, trio deud rwbath pwysig wrth rhywun... a bod yn onest dwi di gneud 3 gwaith wrth sgwennu hyn i lawr :wps:

4. Y’ch chi’n ogleisiol? (Ble?)
Ydw. Yn ofnadwy. Y ffordd gora i fy anablu ydi drwy nghosi ar fy mol a ngwegil.

5. Dywedwch gelwydd, plîs.
Dwi ddim yn tisian rwan hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

Postiogan docito » Gwe 17 Tach 2006 12:17 pm

1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.
Gwely dwbwl sy braidd yn hen mewn stafell digon o faint

2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?
ma codi wastad yn annodd

3. Beth sy’n gwneud i chi disian?
Paill

4. Y’ch chi’n ogleisiol? (Ble?)
na dim llawer, heb law am fy nhethau :D :D

5. Dywedwch gelwydd, plîs.
Dim ond unwaith nes i fyth gysgu gyda aelod o fy nheulu. Nes i fwynhau cryn dipyn ond dwi'n amau os na i fe eto
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 17 Tach 2006 12:18 pm

1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.
Gwely dwbl braf gythreulig (un drud ar sêl pan brynnish i'r ty)

2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?
Anodd - Anos wrth i'r dyddiau basio - mae'n dywyll

3. Beth sy’n gwneud i chi disian?
Sent pawb arall! (A llwch. A chathod. A phlycio aeliau (diolch Dwlwen))

4. Y’ch chi’n ogleisiol? (Ble?)
Bob man, os 'dio'n cael ei 'neud yn iawn...

5. Dywedwch gelwydd, plîs.
Mae'n drueni mawr gen i ei bod yn ddydd Gwener eto...
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Gwe 17 Tach 2006 12:38 pm

1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.
Gwely dwbl, yn y cornel, ar bwys y rad. Pedwar clystog plu - sai'n diodde foam, 'man jiawl i.

2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?
Hawdd, achos heddi fi'n cymrid 'duvet day' o gwaith. Rhwbeth rhyfedd - ti jesd gorfod ffono lan awr cyn chi fod i dechre, a gweud bod ti'n cymrid y dwornod bant wrth dy amser flecsi. Joio! :D

3. Beth sy’n gwneud i chi disian?
Sai'mo. Fi'n joio twshan.

4. Y’ch chi’n ogleisiol? (Ble?)
dwlwen a ddywedodd:Ond c'mon, go iawn - pwy sy'n defnyddio'r gair 'gogleisiol

Oedd wir angen y cyfieithiad arno i, o ni'n meddwl o ti'n ofyn se'n i fel Gog!
Ond ai, ticlish y jiawl ar fy nhraed. A hefyd pan ma rhywun yn gwasgu uwchben fy mhen-liniau. :drwg:

5. Dywedwch gelwydd, plîs.
Lee Byrne yw cefnwr gore y byd.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

Postiogan joni » Gwe 17 Tach 2006 12:39 pm

docito a ddywedodd:5. Dywedwch gelwydd, plîs.
Dim ond unwaith nes i fyth gysgu gyda aelod o fy nheulu. Nes i fwynhau cryn dipyn ond dwi'n amau os na i fe eto

Un da. Rhaid dyfalu pa rhan o'r ddatganiad yw'r celwydd. Hmm..?
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

Postiogan Ray Diota » Gwe 17 Tach 2006 1:50 pm

1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.
Gwely dwbwl mawr neis gyda phedwar sleeping bag arno fe nes bo fi'n gallu bod yn arsed i roi'r duvet brynes i nithwr (o primark :( ) mlan...
2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?
Wastad yn gont. Sai'n deall y peth... sdim ots faint o gwsg ga'i, bydde tam' bach mwy'n itha neis... arbennig o wael heddi gweud gwir - moment o wir ddiflasdod yn y gawod yn meddwl am fynd i'r gwaith... :x :(
3. Beth sy’n gwneud i chi disian?
Clefyd y Gwair a fy stafell wely newydd - odd y mochyn d'wetha ddim di clywed am hwfyr...
4. Y’ch chi’n ogleisiol? (Ble?)
odw. sgrechen fel merch pan dwtshith rhywun fi ar f'ochrau neu, yn ddigon od, ar fy mhengliniau...
5. Dywedwch gelwydd, plîs.
Sai 'di cal tyg ers mis...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

Postiogan Ray Diota » Gwe 17 Tach 2006 1:51 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
5. Dywedwch gelwydd, plîs.
Dwi'n caru Ray Diota


Dybl blyff yw hwn.

Ffacin mochyn.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

Postiogan Iesu Nicky Grist » Gwe 17 Tach 2006 2:06 pm

Dwlwen a ddywedodd:pwy sy'n defnyddio'r gair 'gogleisiol'


COGLISH :!:
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron