Pump am y Penwythnos - 17/11/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos - 17/11/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 17 Tach 2006 10:07 am

1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.
2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?
3. Beth sy’n gwneud i chi disian?
4. Y’ch chi’n ogleisiol? (Ble?)
5. Dywedwch gelwydd, plîs.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 17 Tach 2006 10:22 am

1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.
Gwely dwbl efo'r matres waetha erioed, ond ma'r stafell ei hun reit neis.

2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?
Wel ddeffres i am saith yn teimlo'n ffresh i gyd ond penderfynu ei bod yn rhy gynnar i godi a felly pendwpmian am chydig. Erbyn oedd hi'n amser codi ron i'n teimlo'n crap. Dwi'n siwr fod yna wers yna'n ryle.

3. Beth sy’n gwneud i chi disian (sneeze)?
Bob peth a dim byd. dwi'n tsihan drw'r amser ond sgen i'm syniad pam.

4. Y’ch chi’n ogleisiol (ticklish)? (Ble?)
Ydw, yn y llefydd arferol. Wt ti di bod yn gwrando gormod ar Radio Cymru (Wales) ta be Dwlwen?

5. Dywedwch gelwydd, plîs.
Dwi'n caru Ray Diota
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

Postiogan nicdafis » Gwe 17 Tach 2006 10:29 am

1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.

Gwely dwbl bach, cynfasau, blanced trydan a menyw dwym.

2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?

Yn haws nag mae wedi bod, gan fy mod i wedi bod yn teimlo yn arw, ac yn llawer well heddi, diolch am ofyn.

3. Beth sy’n gwneud i chi disian (sneeze)?

Y pethau arferol, siwr o fod: pupur, llwch, bod ag annwyd.

4. Y’ch chi’n ogleisiol (ticklish)? (Ble?)

Ddim yn enwedig, sa i'n credu.

5. Dywedwch gelwydd, plîs.

Sori, dw i byth yn dweud celwyddau.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 17 Tach 2006 10:30 am

Mr Gasyth a ddywedodd:Wt ti di bod yn gwrando gormod ar Radio Cymru (Wales) ta be Dwlwen?

Trial 'neud pethe'n haws arno fi'n hun trwy rhagweld cwestiynnau twp... ond fethes i honna, do :rolio: :winc:
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

Postiogan Jeni Wine » Gwe 17 Tach 2006 10:34 am

1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.
Streips. Fflyffi. Llwyd. Cynnas.

2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?
Anodd. Pen gwin ar ol neithiwr.

3. Beth sy’n gwneud i chi disian (sneeze)?
Y gath. Llwch. Annwyd.

4. Y’ch chi’n ogleisiol (ticklish)? (Ble?)
Yndw. Gwadna fy nhraed, o dan fy ngheseiliau, rownd fy nghanol, fy nghefn, fy nghoesa. Pob man i ddeud y gwir.

5. Dywedwch gelwydd, plîs.
Dwi'n meddwl (think) fod rhoi'r gair Saesneg ar ol geiriau (words) Cymraeg yn syniad (idea) gwych (brilliant).

sori, Dwlwen. Do'n i methu madda! :wps:
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

Postiogan Wierdo » Gwe 17 Tach 2006 10:36 am

1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.
Gwely sengl reit fawr (shwr fodo hanner ffor rhwng sengl a dwbwl...ond falla mai gwlau bach sydd wedi bod genai o'r blaen) gyda cyfyr blodau cwl. Y gwely mwya cyfforddus yn y ty!

2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?
Na. Dwin hyngofyr felly ddeffrish i am 9 yn hollol hollol effro

3. Beth sy’n gwneud i chi disian (sneeze)?
Lot fawr iawn. Dwin tishan bob bore fel arfer. Os fysa rhaid i fi ddewis un peth...sbrees (sent/deoderant a.y.y.b)

4. Y’ch chi’n ogleisiol (ticklish)? (Ble?)
Nadw ddim mwy. Mi onin anhygoel o ticlish ond fe "diclodd" fy nghariad ormod arnai a dwi ddim im mwy. Weithiau ar fy nhraed ac o dan fy mhen ol.

5. Dywedwch gelwydd, plîs.
Ma Dr who yn ofnadwy (mae o'n teimlo mor...fudr sgwennu huna lawr...)
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

Postiogan Manon » Gwe 17 Tach 2006 10:40 am

1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.
Lliw'r mor yn yr ha'... Ogla' lafant... Fy ngwr yn chwyrnu a fy mabi yn dal yn dynn yn ei fam.

2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?
Gweddol hawdd. Mae rywun yn dod i arfar efo cael bysadd bach fyny trwyn neu'n tynnu clustia am han' di chwech y bora :winc:

3. Beth sy’n gwneud i chi disian (sneeze)?
Y stafell sbr yn ty ni... 'Dio byth yn cal ei iwcho ac ma'r llwch yn ddiawledig.

4. Y’ch chi’n ogleisiol (ticklish)? (Ble?)
Yndw, ym mhob man yn arbennig ar fy ngwddw.

5. Dywedwch gelwydd, plîs.
'Dwi am orffan pennod saith heddiw :rolio:
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

Postiogan joni » Gwe 17 Tach 2006 10:42 am

1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.
Erm...yn y gwely. Gwely dwbl cyfforddus...gwag. :crio: . Heblaw fod hi di bod yn noson fowr a wi prin yn gallu neud hi heibio'r 'landing'.
2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?
Hawdd iawn heddi am ryw rheswm. Ma fe fel arfer yn waith caled.
3. Beth sy’n gwneud i chi disian (sneeze)?
Ma gole haul llachar wastad yn neud fi disian. Ond fi'n lico tisian.
4. Y’ch chi’n ogleisiol (ticklish)? (Ble?)
Yn y midriff - neu be bynnag chi'n galw'r darn ar yr ochr o dan y ribs..."fy ochr", ma siwr.
5. Dywedwch gelwydd, plîs.
Sdim chance bo fi'n cael peint heno.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

Postiogan krustysnaks » Gwe 17 Tach 2006 10:50 am

1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.
Gwely sengl yng nghornel fy stafell, o dan faner Brasil a phoster North by Northwest.

2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?
Dwi newydd godi. Dydi 1030 ddim yn ddrwg o gwbl i fi ond roeddwn i wedi bwriadu codi tua awr yn ôl. Felly olreit.

3. Beth sy’n gwneud i chi disian (sneeze)?
Dim byd arbennig, jyst y chwa hyfryd yna. Does na ddim llawer o bethau mwy annoying na chael yr ysfa i disian ac yna methu cael y peth allan.

4. Y’ch chi’n ogleisiol (ticklish)? (Ble?)
Ydw. Bobman. Peidiwch.

5. Dywedwch gelwydd, plîs.
Ddwedes i gelwydd yn yr atebion yma.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

Postiogan Chwadan » Gwe 17 Tach 2006 10:51 am

1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.
Mm, gwely tri-chwarter gingham snygli cynnes tedis (:wps:) golau-cynnes iym iym.

2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?
Anodd. Ond roedd meddwl am fynd i'r llyfrgell yn insentif gwych i godi.

3. Beth sy’n gwneud i chi disian (sneeze)?
Trwyn oer.

4. Y’ch chi’n ogleisiol (ticklish)? (Ble?)
Ydw - fy mhengliniau. Coblyn o beth.

5. Dywedwch gelwydd, plîs.
Nid oes gennyf bengliniau gogleisiol, felly waeth i neb drio gneud i mi ddisgwyn i'r llawr yn sgrechian drwy afael yn fy mhenglin, achos chaiff o ddim effaith.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron