Tudalen 3 o 3

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

PostioPostiwyd: Gwe 17 Tach 2006 2:11 pm
gan Rhodri Nwdls
1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.
Yn r'atig, stafell driongl efo to alla fod chydig yn uwch (ia hydnoed i fi!), cysurus iawn fodd bynnag. Dau obennydd bob tro. Cysgu ar fy mol.
2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?
Ddim yn bad, oedd hi wedi codi cyn fi ac oedd angen rhoi lifft iddi i'r coleg. Felly nesh i jest rhoi dillad mlaen, dreifio a dod nôl i gael brecwast a molchi.
3. Beth sy’n gwneud i chi disian?
Snortio sherbet dib dabs (o'n i'n arfar gneud hyn tu allan siop da-das amsar cinio ysgol fel rhyw fath o party trick)
4. Y’ch chi’n ogleisiol? (Ble?)
Ydw, bob man.
5. Dywedwch gelwydd, plîs.
Mae gen i wenci ddireidus yn tyfu allan o fy mhen elin.

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

PostioPostiwyd: Gwe 17 Tach 2006 2:16 pm
gan sian
Dwlwen a ddywedodd:1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.

Gwely king size gawson ni ar ôl ffrind (oedd yn ymfudo - dim wedi marw) mewn stafell heb gyrtens na lampshade - achos bo ni byth wedi ddo i ben â chael rhai.
Dwlwen a ddywedodd:2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?
Eitha hawdd - dw i'n treio codi chydig bach yn gynt ar ddydd Gwener i glywed Gwilym Owen yn adolygu'r wasg Gymraeg - ond golles i e.
Dwlwen a ddywedodd:3. Beth sy’n gwneud i chi disian?
Capel.
Dwlwen a ddywedodd:4. Y’ch chi’n ogleisiol? (Ble?)
Dw i ddim yn siwr a yw hyn yn hollol gywir - sori :wps: . Dw i'n meddwl mai "Oes goglish/oglais arnoch chi?" yw e yn Gymraeg - ystyr "Y'ch chi'n ogleisiol?" yw "Are yw titillating?" :lol: Yr ateb yw - sneb wedi 'nghoglis i ers blynyddodd :crio:
Dwlwen a ddywedodd:5. Dywedwch gelwydd, plîs.

Sori - fi mas o bractis :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 17 Tach 2006 2:17 pm
gan Cymro13
1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.

Gwely Dwbwl ffram metal o IKEA a bedsheets coch a glas

2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?

Ddim mor wael a bore ddoe - Bach yn scary - nes i ddeffro i Gari Owen ar Radio Cymru yn bod yn Bostman i rywun :ofn:

3. Beth sy’n gwneud i chi disian?

Annwyd, Golau Llachar

4. Y’ch chi’n ogleisiol? (Ble?)

ydw dan y mreichiau

5. Dywedwch gelwydd, plîs.

Dwi byth yn dweud bethe dwl ar Maes E

PostioPostiwyd: Gwe 17 Tach 2006 2:19 pm
gan Mici
1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.

Ystafell oer iawn, chydig o ddamp ar waliau. gwely digon cyfyrddus

2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?

Hawddi pawdd, newydd neud awr yn ol, un fantais o beidio cael job, allan neithiwr, bwcis munud. Happi days(Diom yn mynd i para nadi!!)

3. Beth sy’n gwneud i chi disian?

Pupur?

4. Y’ch chi’n ogleisiol? (Ble?)

W y misus, rhaid chi ffendio allan bydd

5. Dywedwch gelwydd, plîs.

Dwi yn 23 oed, wel mi on i neithiwr beth bynnag :wps:

PostioPostiwyd: Gwe 17 Tach 2006 3:01 pm
gan khmer hun
Sgwrs mai 'os goglish arno ti?' sy'n gywir... ond debyg fysen i erbyn hyn yn gweud 'ti'n ticlish?' er fysen ni byth di gweud e pan o'n i'n fach. Trist sylweddoli hyn ar ddydd Gwener.

Goglish. Enw da ar band.

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

PostioPostiwyd: Gwe 17 Tach 2006 6:45 pm
gan Hogyn o Rachub
1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.
Gwely dwbl sy'n rhoi cefn drwg imi'n gyson

2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?
Dim yn ddrwg achos fe es i i'r gwely yn fuan a deffro cyn y larwm

3. Beth sy’n gwneud i chi disian (sneeze)?
Yn ddiweddar dw i 'di datblygu arferiad o disian pan yn archebu peint

4. Y’ch chi’n ogleisiol (ticklish)? (Ble?)
Uffernol, a ma'n gas gennai o

5. Dywedwch gelwydd, plîs.
Celwydd yw hyn

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

PostioPostiwyd: Sad 18 Tach 2006 11:31 am
gan anffodus
1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.
Mewn gwely sengl efo'r sbrings yn stwffio allan o'r matras mewn llofft fler efo cds a llyfra o gwmpas y lle'n bob man a dwy gitar yn pwyso'n erbyn y silff lyfra

2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?
Fysa hi di bod yn hawdd taswn i isio codi ond do'n i ddim

3. Beth sy’n gwneud i chi disian (sneeze)?
Dim lot

4. Y’ch chi’n ogleisiol (ticklish)? (Ble?)
Ydw. dan 'y ngheseilia ac o dan fy nhraed

5. Dywedwch gelwydd, plîs.
Sori, sgin i'm amsar i ddeud celwydd - ma 'na rywun wrth y drws ffrynt

Re: Pump am y Penwythnos - 17/11/06

PostioPostiwyd: Sad 18 Tach 2006 2:44 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.
gwely sengl a matras doji mewn homar o sdafell fawr

2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?
o feddwl mai newydd godi dwi (tua 2 ma) uffernol o anodd - dwi wedi bod yn flinedig yn ddweddar

3. Beth sy’n gwneud i chi disian (sneeze)?
pupur.... fedrai'm meddwl am ddim

4. Y’ch chi’n ogleisiol (ticklish)? (Ble?)
bob man a weithia sna mond angen mygwth i... :rholio:

5. Dywedwch gelwydd, plîs.
dwi di gweithio moooooooooooooor galed yn ystod fy wythnos ddarllen! a dwi di codi ers 9!

PostioPostiwyd: Sad 18 Tach 2006 3:36 pm
gan Socsan
1. Disgrifiwch y lle ‘dych chi’n cysgu.
Gwely dwbwl newydd, sgwishi braf. Dillad gwely du a cream, sawl gobennydd. Sdafell fawr, eitha taclus ar y cyfan. O gwmpas y lle mae llyfrau, CDs a DVDs, gitar, colur, jewelry, a phapurau randym. Hmmm, ella dio ddim mor daclus a hynna deud y gwir...

2. Oedd hi’n hawdd neu’n anodd codi heddiw?
Hawdd codi, anodd deffro. Oes, mae na wahaniaeth.

3. Beth sy’n gwneud i chi disian (sneeze)?
Paill, ambell i gath, llwch...ddim mor ddrwg ag on i chwaith.

4. Y’ch chi’n ogleisiol (ticklish)? (Ble?)
Mae hyd yn oed *meddwl* am rywun yn cosi fy nhraed yn ddigon i wneud i mi dorri allan mewn chwys oer. Ond dwi'n cweit lecio cael fy nghosi mewn mannu eraill a dweud y gwir: gwddw, ochrau, cefn fy mhengliniau... :D

5. Dywedwch gelwydd, plîs.

Dwi'n gwbod yn union be dwisho gneud ar or graddio leni, mae cwrs pedair mynedd yn hen ddigon o amser i mi benderfynu siwr.