Sili a ddywedodd:
3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?
Ramirez, fy nghariad presennol.
Hehe, nais iws of ddy wyrd presennol.
[quote="Sili"]1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?
Rhoddwr dwi'n meddwl. Dydi fy sgiliau derbyn ddim yn dda, rwyf yn ei chael yn anodd cuddio fy ngwynab siomedig. Ond fy mai i ydi hynny am gael safonnau mor shit hot.
2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)
Tua blwyddyn dwi'n meddwl.
3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?
cyn-gariad.
4. Oedd gyda chi gân sbesial?
Erm, oedd masiwr, dwim yn cofio.
5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?
Tasa gen i ful bach a hwnnw'n cau mynd,
Faswn i'n ei guro fo? Wel, na fyswn ddim!
Ei roi o yn y stabal efo llwyth o india corn,
Y mul bach gora fu rioed mewn trol.
Ji yp Nedi
Ji yp Nedi
Y mul bach gora fu rioed mewn trol.
(Ma'r gan yma'n jiniys, mae o'n peidio odli yn y llefydd iawn i gyd a mae o'n son am ful)