Pump am y Penwythnos - 24/11/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos - 24/11/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 24 Tach 2006 12:03 pm

1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?
2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)
3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?
4. Oedd gyda chi gân sbesial?
5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 24/11/06

Postiogan Gwen » Gwe 24 Tach 2006 12:23 pm

1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?

Rhoddwr dwi'n meddwl. Dwi'n licio prynu presanta pen-blwydd / Dolig i bobol beth bynnag... Fel arall, dwn im. Dwi fawr o hipi.

2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)

Chydig dros bum mlynadd.

3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?

Fy ngwr. Trist, ond gwir. Rhyw dair blynedd efo cariad ysgol oedd y record fel arall, ac mae hynny dal i'w weld yn lot hirach am fod na lot mwy o ddyddia mewn blwyddyn bryd hynny.

4. Oedd gyda chi gân sbesial?

Reit - dan ni'n ol i fi a 'ngwr rwan, tydan? Nagoes, achos mae ein chwaeth ni mewn miwsig yn reit wahanol. Dwi'n tueddu i briodoli caneuon i betha lot, lot, mwy obsgiwyr na hynna hefyd. Gaethon ni ddim dawns gynta chwaith - ro'n i wrthi'n cuddiad efo Manon ar y pryd!

5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?

Fedra i'm canu, a does dim modd fy mherswadio i. Ond os ydach chi wir isho perfformans, na i roi fy nwrn yn fy ngheg. Neu brofi nad oes gen i asgwrn yn fy nhrwyn. Hmm... Dwi'm di gneud hyn erstalwm. Rhaid mod i'n dechra callio. :?
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Griff-Waunfach » Gwe 24 Tach 2006 12:35 pm

1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?
Am gwestiwn! Diawl ma gwell gen i derbyn peint na'i orfod prynu!

2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)
21 mlynedd.
3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?
Teledu
4. Oedd gyda chi gân sbesial?
Be rhyngddof fi a'r teledu?... umm theme tune Thames Television
5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?
Show me the way to San Jose
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos - 24/11/06

Postiogan joni » Gwe 24 Tach 2006 12:39 pm

1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?
Rhoddwr wy'n credu.
2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)
27 mlynedd
3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?
fy hunan
4. Oedd gyda chi gân sbesial?
Cigarettes and Alcohol
5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?
New York, New York.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Fatbob » Gwe 24 Tach 2006 12:49 pm

1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?
Rhoddwr, er dwi'n ddigon hapus yn derbyn anrhegion.

2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)

Chwe Mlynedd, pum mis, a deuddeg diwrnod.

3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?
Gyda nghariad.

4. Oedd gyda chi gân sbesial?
Llwythi - does dim un cân arbennig ond ma na lwythi, fel arfer rhai ry ni'n canu yn y car y nhw, ac yn aml ma nhw'n bell o fod yn cŵl - 99 Red Balloons/Luftballons (y gwreiddiol yn Almaeneg), Stand by Me gan Ben E King, The Land of Make Believe gan Bucks Fizz (dwi ffili cweit credu mod i mor onest a hyn) a hefyd Hello It's Me gan John Cale a Lou Reed(pan wnaethon ni wahanu am beth amser).

5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?

Yn y Gymraeg, Bibopalwla'r Delyn Aur, yn Saesneg, dwi'm yn siwr, rhwybeth gan Buddy Holly efalle neu Chelsea Hotel neu Hallelujah gan Leonard Cohen(ond ma Hallelujah'n rhy depressing i Karaoke'n tydi?).
How many times do I have to tell you? You don't put a bra in a dryer! It warps!
Rhithffurf defnyddiwr
Fatbob
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 478
Ymunwyd: Maw 21 Hyd 2003 1:38 pm
Lleoliad: Yn y peiriant golchi.

Re: Pump am y Penwythnos - 24/11/06

Postiogan nicdafis » Gwe 24 Tach 2006 12:59 pm

1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?

Y ddau, gobeithio. (Ond yr ail, yn anffodus.)

2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)

8 mlynedd, 8 mis, 23 dydd. Hyd yn hyn.

3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?

Fy mhartner, Philippa.

4. Oedd gyda chi gân sbesial?

Nag oes, ddim yn rhannu chwaeth mewn cerddoriaeth. Yr unig peth byddai'r ddau ohonon ni wrth ein boddau gyda fe byddai rhywbeth fel Mozart. Mae hi'n eitha lico Van der Graaf erbyn hyn, chwarae teg.

5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?

<a href="http://satyriasis.org.uk/SW/songs/jackie.shtml">Jackie, fersiwn Scott Walker</a>.

Hmm, newydd ffeindio geiriau i <a href="http://www.sigitas.com/artist_d/divine_comedy_the_lyrics/jackie_lyrics.html">fersiwn The Divine Comedy</a> - ydy e'n wir yn newid llinell:

Scott a ddywedodd:And I would become all-knowing, my beard so very long and flowing


i

Neil a ddywedodd:And I would become all-knowing, My bits are very long and flowing...


:D

Oes copi 'da rhywun?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Gwe 24 Tach 2006 1:00 pm

1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?
Cymerwr. Fi, gan amla, sy'n derbyn presanta y rhoddwr Gwen :D Dwinna'n rhoi hefyd wrth reswm, ond gan nad oes gen i lawer o bres dydyn nhw byth yn bethau da iawn.

2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)
Dwi'n mynd am y "teip rong" felly dydi'r record ddim yn arbennig o hir. Ar ôl i ni orffen mi fydda'i bob tro yn treulio tua dwy flynedd yn 'potshan' efo'r person yna (arferiad ers pan o'n i'n fform tw), yn methu symud ymlaen ond ddim yn comitio chwaith. Yn aml roedd pethau yn lot gwell efo cyn-gariadon yn y cyfnod potshan nag oedd o pan oeddan ni'n gariadon sirys (ella mai gen i mae'r broblem...!). Ar ôl tua 2 flynedd dwi'n ffeindio rhywun arall "anaddas" i fwydro mhen i. Mae o'n gyffrous iawn :lol:

3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?
"Pobl anaddas" medden nhw. Cesys medda fi.

4. Oedd gyda chi gân sbesial?
Ym. Na. Heb briodoli cân i berson (am resymau sopi) ers pan o'n i'n 13 "Love Is All Around" oedd honno (cynnyrch fy nghenhedlaeth ydw i)

5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?
Fedra'i'm canu. Yr unig dro dwi di canu carioci ydi yn Inn On The Pier Aberystwyth; ac mi gyflawnais y drosedd eithaf
- "I Will Survive" :wps:
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Re: Pump am y Penwythnos - 24/11/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 24 Tach 2006 1:14 pm

1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?
Y ddau, i raddau, wrth gwrs, ond yn fwy o rhoddwr weden i.

2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)
Tair blynedd...

3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?
Cariad Coleg...

4. Oedd gyda chi gân sbesial?
Sawl un, megis 'God Only Knows' gan y Beach Boys, a llwyth o stwff Ryan Adams, ond y gorau ohonynt oedd un wreiddiol, oedd yn ymdrin â thema'r botwm bogel. Ond gan fod e braidd yn weird sôn am hen berthynas (pwy sy'n sgwennu'r cwestiynne 'ma?! :rolio: ) ychwanegaf mai'r caneuon 'sbesial' cyfredol yw 'Face Like Summer' gan Gorkies a 'Such Great Heights' gan Iron & Wine.

5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?
Rwbeth cheesy o'r chwedegau... "Baaa-by, now that I've found you", neu unrhywbeth gan Dusty Springfield.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan garynysmon » Gwe 24 Tach 2006 1:21 pm

1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?
Cymerwr.

2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)
Ym, bron i ddwy flynedd bellach.

3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?
C.M Roberts o ardal Rhuthun.

4. Oedd gyda chi gân sbesial?
Rwbath cheesy fel Snooker Loopy mashwr!

5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?
Disco 2000 gan Pulp ydi'r unig gan i mi rioed ganu mewn karaoke. Ond fysa gwell i mi ganu Johnny Cash, Man in Black neu rwbath gan nad oes angen llais gwych.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Pump am y Penwythnos - 24/11/06

Postiogan Manon » Gwe 24 Tach 2006 1:32 pm

Gwen a ddywedodd:
4. Oedd gyda chi gân sbesial?

Reit - dan ni'n ol i fi a 'ngwr rwan, tydan? Nagoes, achos mae ein chwaeth ni mewn miwsig yn reit wahanol. Dwi'n tueddu i briodoli caneuon i betha lot, lot, mwy obsgiwyr na hynna hefyd. Gaethon ni ddim dawns gynta chwaith - ro'n i wrthi'n cuddiad efo Manon ar y pryd!



:lol: Mae o'n eitha' doniol meddwl y byddi wastad yn cysylltu dy ddawns gynta' efo fi. Hwre! :lol:
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai