Pump am y Penwythnos - 24/11/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos - 24/11/06

Postiogan Manon » Gwe 24 Tach 2006 1:42 pm

1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?
Rhoddwr. 'Dwi'n meddwl bod rhoi petha' (yn enwedig petha' 'dwi 'di pobi fy hun) yn gwneud popeth yn iawn. Total feeder :winc:

2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)
Gadewch i ni weld... Pasg 2002 so dros bedair mlynedd! And counting...

3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?
Fy annwyl wr.

4. Oedd gyda chi gân sbesial?
Be My Baby gan y Ronettes. Er, ma' Easy Silence gan y Dixie Chicks wastad yn atgoffa fi o pa mor hyfryd ydi o 8)

5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?
Not Ready To make Nice gan y Dixie chicks neu Loving You Is Easy Cause You're Beautiful achos 'sa'r noda' uchal MOR ffyni :lol:
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos - 24/11/06

Postiogan Ray Diota » Gwe 24 Tach 2006 1:46 pm

1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?
ahem.

cymerwr

ahem.

dwi'n gallu bo'n neis withe... ond y 'default setting' yw cymryd mantes gyment a phosib dwi'n meddwl... damo fi.

2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)

4 blynedd

3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?

cariad coleg... ffyni shwt ma cariadon coleg yn gallu para am gyfnod mor hir a golygu nesa peth i ddim yn diwedd ondywe?

4 ffacin blynedd!? ma 'na briodase'n para llai na 'na...!

4. Oedd gyda chi gân sbesial?

'Dychmygwch y Ffani Gallen i 'di Cal' gan Aled Jones

5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?

Sexbomb, Tom Jones.

Wy 'di ennill gwobrau, bobol. O do. 8)
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pump am y Penwythnos - 24/11/06

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 24 Tach 2006 1:52 pm

1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?
Dwi'n casau prynu presantau. Nid achos mod i ddim isho'i rhoi nhw, ond achos mod i'n casau siopa'n gyffredinol. Dydi hynny ddim yn golygu nad ydw i'n rhoi presantau, gyda llaw...!
O ran pethau sydd ddim yn 'bresantau', dwi'n meddwl mai rhoddwr ydw i (o ran pethau fel gneud bwyd, rhoi liffts, llnau gegin, helpu i ffeindio gwybodaeth ayyb)

2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)
17 mis-ish. A dodd hi ddim yn un wych. Mi 'dwi'n licio meddwl y bydd yr un bresennol yn para'n hirrach na hynny (dim ond 3 mis, a bydd hynny'n wir)

3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?
y Bachgen (erbyn hyn, y Dyn (nid yr un person))

4. Oedd gyda chi gân sbesial?
Naaaagodd

5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?
Na. Wna i ddim carioci. Ma' gin i ofn na fyswn i'n aros i glywed neb arall yn gneud chwaith. Wedi mynd yn sych a diflas yn fy henaint! (Gas gen i garioci)
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Sleepflower » Gwe 24 Tach 2006 2:03 pm

1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?

Newydd prynu Big Issue. Rhoddwr a chymerwr felly.

2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas
hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)


11 mlynedd. Wnes i ddechrau pan oeddwn i'n 13.


3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?

Fy llaw.

4. Oedd gyda chi gân sbesial?

Unrhyw beth oedd yn cuddio'r swn.

5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?

Oh, oo-o-oh, come on, ooh, yeah
Well I tried to tell you so (yes, I did)
But I guess you didn't know, as I said the story goes
Baby, now I got the flow
'Cos I knew it from the start
Baby, when you broke my heart
That I had to come again, and show you that I'm real

(You lied to me) all those times I said that I love you
(You lied to me) yes, I tried, yes, I tried
(You lied to me) even though you know I'd die for you
(You lied to me) yes, I cried, yes, I cried

(Return of the Mack) it is
(Return of the Mack) come on
(Return of the Mack) oh my God
(You know that I'll be back) here I am
(Return of the Mack) once again
(Return of the Mack) pump up the world
(Return of the Mack) watch my flow
(You know that I'll be back) here I go
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Socsan » Gwe 24 Tach 2006 2:03 pm

1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?
Fel pawb, dipyn o'r ddau. Dwi'n fwy o roddwr mewn rhai pethau, ond yn fwy o gymerwr pan ma hi'n dod i betha erill. Wnim sud i ateb y cwestiwn ma wir... :wps:

2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)
4 mlynedd

3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?
Fy nghyn-gariad

4. Oedd gyda chi gân sbesial?
Ha ha, wel ma na sawl can y gwnaethom ni briodoli, ond dim byd sopi. Caneuon gwirion fel "Boom-tsh-ratatata" Morcambe and Wise :lol:


5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?

Dibynnu pa mor feddw ydwi. Os mai dim ond tipsi ydw i, swn in canu rwbath fel 'Torn' Natalie Imbruglia. Os yn feddw iawn, rwbath fel 'One way or another' Blondie, neu rhywbeth cheesy Motown...
Sbrangeg
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Re: Pump am y Penwythnos - 24/11/06

Postiogan Chwadan » Gwe 24 Tach 2006 2:10 pm

1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?
Dibynnu ar yr achlysur, tydi.

2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)
Tair blynedd.

3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?
Cyn-gariad.

4. Oedd gyda chi gân sbesial?
Cân!? Oedd gennan ni compilêshyn sî-dî! :rolio:

5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?
Dim. Casau karaoke. Be di'r pwynt?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am y Penwythnos - 24/11/06

Postiogan Wierdo » Gwe 24 Tach 2006 2:12 pm

1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?
Fel rheol dwi chydig o'r ddau. Dwi wrth fy modd yn rhoi presanta dolig a dwi ddigon bodlon menthyg/rhoi pres i bobl, prynu petha fel bara i'r ty a sdwff. Ond ar y llaw arall dwi'n cymryd lot yn ol fyd...sylw...alcahol...a.y.y.b

2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)
yyym...2 flynadd, 4 mis, 10 dwrnod a tua 14 awr...ish...

3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?
Gyda ;nghariad presennol

4. Oedd gyda chi gân sbesial?
yyym, na ddim felly. Mi natho ni afael llaw am y tro cynta i Bryn fon ond dwnim pa gan (gwarth :winc: )... ym..."took the words right out of my mouth" gin meatloaf...am reswm dwi ddim am ddatgelu!

5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?
Ym...o ran bo fin gwbod y geiria a sut ma'r gan yn mynd yn barod; Mmbop gin Hanson. Ond o ran be dwisho canu...Chelsea Hotel No. 2 gin Lenoard Cohen, Fairytale of new york gin y Pogues...dwnim. Mi ganai rwbath!
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Re: Pump am y Penwythnos - 24/11/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 24 Tach 2006 2:12 pm

Chwadan a ddywedodd:5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?
Dim. Casau karaoke. Be di'r pwynt?

Dwyn cywilydd ar dy hun yn gyhoeddus, wrth gwrs. A dyna pam dwy erioed 'di 'neud e :winc:
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 24/11/06

Postiogan Chwadan » Gwe 24 Tach 2006 2:13 pm

Dwlwen a ddywedodd:
Chwadan a ddywedodd:5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?
Dim. Casau karaoke. Be di'r pwynt?

Dwyn cywilydd ar dy hun yn gyhoeddus, wrth gwrs. A dyna pam dwy erioed 'di 'neud e :winc:

Ditto. Dwi'n cwl, hyd yn oed yn fy nghwrw :ofn: :?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am y Penwythnos - 24/11/06

Postiogan Jeni Wine » Gwe 24 Tach 2006 2:36 pm

1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?
Rhoddwr. Dwi wrth fy modd yn rhoi - ac yn credu mewn carma :winc:

2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)
3 mlynedd a 2 fis union

3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?
Mihangel Macintosh

4. Oedd gyda chi gân sbesial?
"Jenifa Taught Me" - De La Soul

5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?
Swn i byth yn, ond tasa rhywun yn dal gwn i mhen i, mi faswn i'n canu "Do Right Woman, Do Right Man" Aretha Franklin. Blaw na ddim Aretha Franklin fasa'n canu, ond fi.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron