Tudalen 3 o 4

Re: Pump am y Penwythnos - 24/11/06

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 2:36 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?
Fel y dywedodd Chwadan, mae'n dibynnu ar yr achlysur. Fi'n hoff o roi, serch hynny

2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)
Ddim yn hir. Cwpwl o fisoedd ar y mwya'.

3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?
Cariad coleg.

4. Oedd gyda chi gân sbesial?
Albwm. Joni Mitchell 'Blue' o'dd wastad mlaen pan, ahem, ie, chmo.

5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?
Territorial Pissings.

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 3:31 pm
gan Y Fampir Hip Hop
1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?
Gymrid stwff fi yn.

2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)
I cyfri e gyd, ma e di bod bythdi 4 mlynedd, cymhleth t'wel. Ond bythdi mlynedd yw e tro 'ma.

3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?
Fy nghariad.

4. Oedd gyda chi gân sbesial?
Fel lot o'r atebion i cwestiwn ma, ma ganddo'r ddwy o ni dant hollol wahanol yn cerddoriaeth. Nago's yw'r ateb.

5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?
'Thats Life' gan r'Hen Llyged Glas.

Re: Pump am y Penwythnos - 24/11/06

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 3:34 pm
gan Daffyd
1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?
Rhoddwr, er naim cwyno os dwi'n cymryd chwaith.

2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi?
Fydd hi'n 8 mis fory ers i mi fod gyda fy nghariad. So, 8 mis.

3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?
Fy nghariad presennol.

4. Oedd gyda chi gân sbesial?
Spit it Out - Brendan Benson.

5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?
In your World - Muse

Re: Pump am y Penwythnos - 24/11/06

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 4:46 pm
gan Sili
1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?
Rhoddwr, bob tro. Ma na deimlad gwych wrth roi anrheg neu'r fath i rhywun, a wastad rhyw bwysa annifyr wrth dderbyn anrheg fod angen i chi wirioni'n lan neu deud "diolch" ddega o weithia, hydnoed os dachi'm yn hoff ohono. Gas gennai agor presanta o flaen pobl.

2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)
Erm... blwyddyn a hanner -ish.

3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?
Ramirez, fy nghariad presennol.

4. Oedd gyda chi gân sbesial?
Dim felly, jest lot o ganeuon neu ambell i albwm sy'n atgoffa fi o wahanol adega bach gwirion yn ystod y berthynas. Rhyw rwtsh sentimental fela welwch chi :winc:

5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?
Ruby's Arms - Tom Waits. Gai neud deuawd efo Gwahanglwyf a Sioni Size plis?

Re: Pump am y Penwythnos - 24/11/06

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 4:54 pm
gan Daffyd
Sili a ddywedodd:Gai neud deuawd efo Gwahanglwyf a Sioni Size plis?

Nid triwad fysa hynnu wedyn?

:?

Re: Pump am y Penwythnos - 24/11/06

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 5:03 pm
gan Sili
Daffyd a ddywedodd:
Sili a ddywedodd:Gai neud deuawd efo Gwahanglwyf a Sioni Size plis?

Nid triwad fysa hynnu wedyn?

:?


Ohoho ia, a chlamp o driawd llwyddiannus fysa fo 'fyd :D

Re: Pump am y Penwythnos - 24/11/06

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 7:24 pm
gan Dan Dean
Daffyd a ddywedodd:
Sili a ddywedodd:Gai neud deuawd efo Gwahanglwyf a Sioni Size plis?

Nid triwad fysa hynnu wedyn?

:?

Nah dim triwad. Ond fysa hi'n triawd fydd bosib yn achosi trawiad i bwy bynnag sydd yn sbio. :lol:

(Joc Sili - siwr sa chi yn hollol wych, gwell na'r dun ei hun...)

Re: Pump am y Penwythnos - 24/11/06

PostioPostiwyd: Gwe 24 Tach 2006 11:04 pm
gan krustysnaks
1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?
Dwi'n mwynhau rhoi pan dwi'n cael amser i feddwl am y peth. Mae na dri anrheg 21 oed i dri o'n ffrindiau gorauyn aros i gael eu prynu dros y mis-ish diwethaf - rhy brysur i gael amser i siopa.

2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)
Tua tair wythnos - PATHETIG, gwn.

3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?
Ahh, tric cwestiwn! Clyfar iawn. Neb dy'ch chi'n nabod.

4. Oedd gyda chi gân sbesial?
Na ond roedd Amelia gan Joni Mitchell yn ddefnyddiol pan ddaeth pethau i ben.

5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?
Careless Whisper gan George Michael.

Re: Pump am y Penwythnos - 24/11/06

PostioPostiwyd: Sad 25 Tach 2006 2:50 pm
gan Lowri Fflur
1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr? Ar y funud dwi'n gymerwr. Yn Iwerddon. Dim pres. Methu cael cyflog nes bod fi'n agor cyfrif banc. Methu agor cyfri banc nes bod fi'n cael cyfeiriad parhawol, ond hynny'n digwydd mewn wythnos neu ddau diolch byth. Y bobl dwi'n byw a gweithio efo'n lyfli, rhannu bwyd, ffags a alcohol efo fi fel bod nhw'n rhad ac am ddim. Pam dwi'n cael chydig o bres am droi mewn i roddwr a cael parti mawr efo pawb.

2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…) Rhanfwyaf o fy mywyd.
3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna? Fy nyddiadur. Rhanfwyaf ohona fo'n llwyth o gachu. Dod a gwen i fy ngwynab edrych ar y pethau oedd yn poeni fi ac yn gwneud fi'n hapus yn wahanol cyfnodau fy mywyd. Darllen fy nyddiadur hefyd yn gwneud i fi sylweddoli bod fi ddim yn berson rhy ddrwg, efo gwendidau a cryfderau ac yn trio delio efo bod yn berson efo teimladau fel pawb arall.
4. Oedd gyda chi gân sbesial? Na.
5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu? It's my life

Re: Pump am y Penwythnos - 24/11/06

PostioPostiwyd: Sul 26 Tach 2006 4:01 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
1. Y’ch chi’n rhoddwr neu’n gymerwr?
Dwi'n roddwr - wir yr, dwi'm yn hoff o dderbyn lot o betha chos dwi'n teimlo'n ddyledus wedyn! Ma cal sypreisys bach yma ac acw yn neis ddo!

2. Beth yw hyd (mewn munudau/ wythnosau/ degawdau) y berthynas hiraf i chi fod ynddi? (croeso i chi ddehongli ‘perthynas’ fel ‘ych chi mo’yn…)
Dwi'm yn cofio'n iawn tua 5 mis ella!

3. …gyda phwy/ beth yw/oedd y berthynas yna?
Boi odd yn byw mhell i ffwrdd!

4. Oedd gyda chi gân sbesial?
Dodd o'm yn gwbo ond Tasa Ti Yma gan Gwyneth Glyn - odd o'n byw'n bell i ffwrdd.

5. Karaoke’r maes, beth ‘ych chi’n mynd i ganu?
Ymmmmmmmmmmm, gan mai ar y maes mae o dwi am ganu Wyt Ti Yna gan Lleuwen Steffan!