Pump am y Penwythnos 1.12.2006

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos 1.12.2006

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 01 Rhag 2006 1:27 pm

1. Ydych chi'n cofio beth gawsoch chi'n anrheg Dolig dwetha?
Yr un gore oedd llestr casserole Le Creuset mawr.

2. Beth yw'r prif beth ydych chi'n edrych 'mlaen ato mis 'ma?
Dreigiau v Gleision ar y seithfed ar hugain.

3. Pwy fyddai eich tri gwestai delfrydol i'w cael draw i ginio Dolig?
Bill Hicks, Rush Limbaugh a Iesu Grist.

4. Beth sydd bwysicaf adeg Dolig - yr elfen grefyddol neu bawb yn dod ynghyd?
Dod â phawb ynghyd er mwyn meddwi.

5. Beth fyddai'r anrheg gorau posib, dim ots am realiti?
Fy nhîm rygbi fy hun, a la Homer a'r Denver Broncos.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Cymro13 » Gwe 01 Rhag 2006 1:36 pm

1. Ydych chi'n cofio beth gawsoch chi'n anrheg Dolig dwetha?
iPod


2. Beth yw'r prif beth ydych chi'n edrych 'mlaen ato mis 'ma?

Partion


3. Pwy fyddai eich tri gwestai delfrydol i'w cael draw i ginio Dolig?

Dewi Pws, Michael Moore a James Dean Bradfield

4. Beth sydd bwysicaf adeg Dolig - yr elfen grefyddol neu bawb yn dod ynghyd?

bach o'r ddau

5. Beth fyddai'r anrheg gorau posib, dim ots am realiti?

Peiriant Amser
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Pump am y Penwythnos 1.12.2006

Postiogan CORRACH » Gwe 01 Rhag 2006 1:55 pm

1. Ydych chi'n cofio beth gawsoch chi'n anrheg Dolig dwetha?
Ddim yn cofio, sori santa! ond wir, dwi'r person symla lleia ffysd am y peth. Neith oren fi'n hapus. bag o greps ella.

2. Beth yw'r prif beth ydych chi'n edrych 'mlaen ato mis 'ma?
Gyda lwc, gwyl san steffan yn yfed yn Aberdaron - hen addewid.

3. Pwy fyddai eich tri gwestai delfrydol i'w cael draw i ginio Dolig?
Iolo Morganwg, Sion Corn a'r boi off yr advert Halifax - falla gaf i ei wenwyno efo Opium Iolo!

4. Beth sydd bwysicaf adeg Dolig - yr elfen grefyddol neu bawb yn dod ynghyd?
Bach o'r ddau sbo, gweld y teulu/hen ffrindia 'nolddat.

5. Beth fyddai'r anrheg gorau posib, dim ots am realiti?

Cangarw. NEU Can Carw.
Rhithffurf defnyddiwr
CORRACH
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 894
Ymunwyd: Sul 14 Maw 2004 6:53 pm
Lleoliad: Llyn Cwm Llwch

Re: Pump am y Penwythnos 1.12.2006

Postiogan dave drych » Gwe 01 Rhag 2006 1:57 pm

1. Ydych chi'n cofio beth gawsoch chi'n anrheg Dolig dwetha?

Yndw. Ges i record player gen Mam a Dad/Siôn Corn i ychwanegu at Hi-Fi fi. Ond does sgenai'm Hi-Fi fi'n hun - dwi'n gorfod rhannu o efo brawd fi gan ein bod ni'n rhannu lloft dôl adre. So mae o yn byw adre a dwi i ffwrdd yn coleg so fo sydd efo'r Hi-Fi. Felly doedd y presant ddim llawer o iws. Ond mi nai iwshio fo yn y dyfodol.

2. Beth yw'r prif beth ydych chi'n edrych 'mlaen ato mis 'ma?

Rhagfyr 15 - fyddai'n gorfod rhoi Dissertation fi i fewn i gael ei marcio (Wel, provisional marking - dio'm yn cyfri go-iawn ond dal yn stress). Ar ôl hynne, mynd allan i Denbigh Town diwrnod r'ôl Dolig (Dydd San Steffan ia??) i wylio Roll the Barell ben bore, pobl y Denbigh & Fflint Hunt yn mynd trwy Dre a wedyn MEDDWI.

3. Pwy fyddai eich tri gwestai delfrydol i'w cael draw i ginio Dolig?

Sori ond dwi'n casau cwestiynau fel'ne. Dwi'm yn ffan o entertainio A buta bwyd.

4. Beth sydd bwysicaf adeg Dolig - yr elfen grefyddol neu bawb yn dod ynghyd?

Pawb dod ynghyd yn hwyl. Ond heb yr elfen crefyddol fyse ne'm Dolig, so mae o yn eitha pwysig hefyd.

5. Beth fyddai'r anrheg gorau posib, dim ots am realiti?

I fi'n hun: Roll twrci poeth a stuffing efo ychydig bach o sôs coch ynndo, wedi ei baratoi gan yr un Irish o Girls Aloud a hi'n dod a fo i fi fel breakfast in bed ar diwrnod Nadolig.

I bawb arall: Heddwch
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Re: Pump am y Penwythnos 1.12.2006

Postiogan Dwlwen » Gwe 01 Rhag 2006 2:03 pm

Ray Diota a ddywedodd:whare teg i ti.

Delwedd
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos 1.12.2006

Postiogan joni » Gwe 01 Rhag 2006 2:09 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:5. Beth fyddai'r anrheg gorau posib, dim ots am realiti?
Fy nhîm rygbi fy hun, a la Homer a'r Denver Broncos.

Ond gan fod Homer moyn y Dallas Cowboys go iawn, yw hyn yn golygu fydd rhaid i ti gael y Scarlets?
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos 1.12.2006

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 01 Rhag 2006 2:27 pm

joni a ddywedodd:Ond gan fod Homer moyn y Dallas Cowboys go iawn, yw hyn yn golygu fydd rhaid i ti gael y Scarlets?


:ofn: Nes i ddim meddwl am hynna'n drylwyr, naddo?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos 1.12.2006

Postiogan Ramirez » Gwe 01 Rhag 2006 2:36 pm

1. Ydych chi'n cofio beth gawsoch chi'n anrheg Dolig dwetha?

Ew, dwnim be gesi llynadd. Hannar coron dwi'n ama, i helpu efo'r overdraft fondigrybwyll. A Football Manager 2006.

2. Beth yw'r prif beth ydych chi'n edrych 'mlaen ato mis 'ma?

Tri dwrnod o el rhonc a rocarol syth rol Dolig.

3. Pwy fyddai eich tri gwestai delfrydol i'w cael draw i ginio Dolig?

Mrs. Twrci, Miss Gwydd a Mr. Cimwch


4. Beth sydd bwysicaf adeg Dolig - yr elfen grefyddol neu bawb yn dod ynghyd?

Pawb yn dod ynghyd a meddwi

5. Beth fyddai'r anrheg gorau posib, dim ots am realiti?

Delwedd
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Pump am y Penwythnos 1.12.2006

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 01 Rhag 2006 2:48 pm

Ramirez a ddywedodd:3. Pwy fyddai eich tri gwestai delfrydol i'w cael draw i ginio Dolig?

Mrs. Twrci, Miss Gwydd a Mr. Cimwch


"Cimwch, wedes ti?"

Delwedd
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Socsan » Gwe 01 Rhag 2006 2:49 pm

1. Ydych chi'n cofio beth gawsoch chi'n anrheg Dolig dwetha?
Pres gin y parents, a llond trol o CDs compilation caneuon Sbaeneg wedi eu creu gan fy ngyn-housemates yn Sbaen :D

2. Beth yw'r prif beth ydych chi'n edrych 'mlaen ato mis 'ma?
Cael oral exams fi drosodd, a gorffen coleg ar y 15ed.

3. Pwy fyddai eich tri gwestai delfrydol i'w cael draw i ginio Dolig?

Hm, wnim. Nai fod yn hollol hunanol a deud Jose Mourinho, y boi na sy'n chwara Robin Hood ar y BBC, ac...ymmmmmm... wel, ar ol gweld y llun na o Ray Diota fyswn in wirion i *beidio* deud fo rili baswn ;)

4. Beth sydd bwysicaf adeg Dolig - yr elfen grefyddol neu bawb yn dod ynghyd?
Er mod in parchu yr elfen grefyddol, yn bersonnol y syniad o bawb yn dod at eu gilydd ac yn bod yn glen ydi'r pwysicaf i mi.

5. Beth fyddai'r anrheg gorau posib, dim ots am realiti?

Dwi ddim isho mynd yn 'beauty pageantaidd' a deud "heddwch a hapusrwydd i blant bach y byd" (er mod i yn dymuno hynny!), so nai ddeud ipod.
Sbrangeg
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron