1. Ydych chi'n cofio beth gawsoch chi'n anrheg Dolig dwetha?
gwersi dreifio - blwyddyn 'di mynd a dal heb basio'r theori hyd'noed!
2. Beth yw'r prif beth ydych chi'n edrych 'mlaen ato mis 'ma?
fy mhemblwydd yn ddeunaw wythnos i heno!!!!!a ma gwyl san seffan yn Fic Llithfaen yn argoeli'n dda fyd.
3. Pwy fyddai eich tri gwestai delfrydol i'w cael draw i ginio Dolig?
ffrwyth melys, blod1 bach a defi frwnt.
4. Beth sydd bwysicaf adeg Dolig - yr elfen grefyddol neu bawb yn dod ynghyd?
'rioed di gweld yr elfen grefyddol yn bwysig i fod yn onest- felly yn bendant pawb yn dod ynghyd
5. Beth fyddai'r anrheg gorau posib, dim ots am realiti?
unai camper VW split screen automatic oren a pinc na fydd yn rhydu, gyda ffrij(llawn bwyd, wrth gwrs), popty, gwely ddwbl, adlen fysa'n popio fyny wrth wasgu botwm a sound system hollol anhygoel a fysa'n rhedag yn gret am byth heb dorri lawr
neeeeeuuuu....
hapusrwydd i bawb yn y byd!
geith sion corn ddewis.