Tudalen 4 o 4

Re: Pump am y Penwythnos 1.12.2006

PostioPostiwyd: Sad 02 Rhag 2006 4:37 pm
gan Selador
1. Ydych chi'n cofio beth gawsoch chi'n anrheg Dolig dwetha?

Ymm, bass guitar, fe'i ddwynwyd ac yna ei falwyd gan Ram'izass sydd am gael cic yn ei fols am ei drafferth.

2. Beth yw'r prif beth ydych chi'n edrych 'mlaen ato mis 'ma?

Goro gweithio noswyl Nadolig. Ma'r peth yn fy nhiclo.

3. Pwy fyddai eich tri gwestai delfrydol i'w cael draw i ginio Dolig?

Iesu Grist, Hitler a Dewi Pws.

4. Beth sydd bwysicaf adeg Dolig - yr elfen grefyddol neu bawb yn dod ynghyd?

bwbwbwbwbwbbwaaaa.

5. Beth fyddai'r anrheg gorau posib, dim ots am realiti?

Self-hyptonizing kit. Ma'r posibiliadau yn ddi ben draw.

Re: Pump am y Penwythnos 1.12.2006

PostioPostiwyd: Sad 02 Rhag 2006 6:02 pm
gan Cawslyd
1. Ydych chi'n cofio beth gawsoch chi'n anrheg Dolig dwetha?

Digeridoo. Ffycin cwl.

2. Beth yw'r prif beth ydych chi'n edrych 'mlaen ato mis 'ma?

Parti flwyddyn newydd, ella... dwni'm chwaith. Neu cael serennu fel 'Milkman 2' yn sioe gerdd coleg!

3. Pwy fyddai eich tri gwestai delfrydol i'w cael draw i ginio Dolig?

Iesu, Serge Gainsbourg a Fidel Castro.

4. Beth sydd bwysicaf adeg Dolig - yr elfen grefyddol neu bawb yn dod ynghyd?

Ma crefydd isio i bobl ddod ynghyd a ballu, dydi, so ma'n blendio fo'i gilydd.

5. Beth fyddai'r anrheg gorau posib, dim ots am realiti?

Crwban sydd yn gallu hedfan. Ffycin nyts.