Pump am y Penwythnos, 8.12.2006

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos, 8.12.2006

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 08 Rhag 2006 10:55 am

Bah. Dim ysbrydoliaeth heddi. felly bydd y cwestiynau 'ma'n rehash o Bumps blaenorol...

1. Beth neu bwy oedd y diwethaf i wneud i chi chwerthin?

2. Beth fyddech chi'n ei sgwennu ar arwyneb y lleuad petai chi'n cael y cyfle i fynd?

3. Faint o arian sydd yn eich poced ar hyn o bryd?

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei wneud gyda'r arian?

5. Beth yw'r gân fydd yn chwarae wrth i chi briodi/yn eich angladd? (dewiswch un)
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Cymro13 » Gwe 08 Rhag 2006 11:07 am

1. Beth neu bwy oedd y diwethaf i wneud i chi chwerthin?

Boris Johnson ar Youtube - odd clip ohono fe'n chware pel droed

2. Beth fyddech chi'n ei sgwennu ar arwyneb y lleuad petai chi'n cael y cyfle i fynd?

CAWS

3. Faint o arian sydd yn eich poced ar hyn o bryd?

Dim - jyst un cerdyn

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei wneud gyda'r arian?

ymmmmm ......


5. Beth yw'r gân fydd yn chwarae wrth i chi briodi/yn eich angladd? (dewiswch un)

Staying Alive yn fy angladd - A byddai'n neud yn siwr fod pawb yn neud y moves ar yr un pryd 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Pump am y Penwythnos, 8.12.2006

Postiogan Dwlwen » Gwe 08 Rhag 2006 11:13 am

1. Beth neu bwy oedd y diwethaf i wneud i chi chwerthin?
Sda fi hangover. Sdim llawenydd i gael.

2. Beth fyddech chi'n ei sgwennu ar arwyneb y lleuad petai chi'n cael y cyfle i fynd?
Dim byd o bwys. Helo Mam, neu M 4 G mae'n siwr :rolio:

3. Faint o arian sydd yn eich poced ar hyn o bryd?
Dim.

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei wneud gyda'r arian?
Pe bai gen i arian, fydden i'n prynu painkillers. A botel o orangina.

5. Beth yw'r gân fydd yn chwarae wrth i chi briodi/yn eich angladd?
Face Like Summer gan Gorkies. Am y ddau.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos, 8.12.2006

Postiogan Wierdo » Gwe 08 Rhag 2006 11:15 am

1. Beth neu bwy oedd y diwethaf i wneud i chi chwerthin?
Dwnim, rwyn o bobl erill y ty wrth wylio ffilm neithiwr dwin ama. Mi oedden ni'n gwylio titanic felly odd digon o laffs.

2. Beth fyddech chi'n ei sgwennu ar arwyneb y lleuad petai chi'n cael y cyfle i fynd?
"Mari woz ere"? Naci....ym rhywbeh hollol ddiflas fel "Hwyl a sbrii" mashwr

3. Faint o arian sydd yn eich poced ar hyn o bryd?
Dwi yn fy mhyjamas, felly dim

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei wneud gyda'r arian?
Go on, rub it in

5. Beth yw'r gân fydd yn chwarae wrth i chi briodi?
"you took the words right out of my mouth" gin meatloaf. Fel fy nawns cynta. Nid dawns ara i mi plis.
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Re: Pump am y Penwythnos, 8.12.2006

Postiogan Ramirez » Gwe 08 Rhag 2006 11:21 am

1. Beth neu bwy oedd y diwethaf i wneud i chi chwerthin?
Mam: Stopia chwara fo heina
Brawd (yn chwara efo'i fols): Fi bia nw, mam

2. Beth fyddech chi'n ei sgwennu ar arwyneb y lleuad petai chi'n cael y cyfle i fynd?
Dim fi nath

3. Faint o arian sydd yn eich poced ar hyn o bryd?
£1.20

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei wneud gyda'r arian?
Prynu cocos

5. Beth yw'r gân fydd yn chwarae yn eich angladd?
Europe - The Final Countdown
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Pump am y Penwythnos, 8.12.2006

Postiogan sian » Gwe 08 Rhag 2006 11:25 am

1. Beth neu bwy oedd y diwethaf i wneud i chi chwerthin?
Eitem ar y newyddion neithiwr yn dweud eu bod yn chwilio am enw byr, bachog ar gyfer y caffi ar ben yr Wyddfa a'r mab canol yn cynnig "You've seen the view, now go home"

2. Beth fyddech chi'n ei sgwennu ar arwyneb y lleuad petai chi'n cael y cyfle i fynd?
Dim

3. Faint o arian sydd yn eich poced ar hyn o bryd?
67 ceiniog

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei wneud gyda'r arian?
Prynu torth oddi ar y fan fara - un o fanteision byw yng nghefn gwlad

5. Beth yw'r gân fydd yn chwarae yn eich angladd?

Y gynulleidfa'n canu:

O fryniau Caersalem, ceir gweled
holl daith yr anialwch i gyd,
pryd hyn y daw troeon yr yrfa
yn felys i lanw ein bryd;
cawn edrych ar stormydd ac ofnau
ac angau dychrynllyd a'r beth
a ninnau'n ddihangol o'u cyrraedd
yn nofio mewn cariad a hedd.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Pump am y Penwythnos, 8.12.2006

Postiogan Chwadan » Gwe 08 Rhag 2006 11:26 am

1. Beth neu bwy oedd y diwethaf i wneud i chi chwerthin?
Fy ffrind yn sgwennu negeseuon offensif ar wal facebook ffrind arall.

2. Beth fyddech chi'n ei sgwennu ar arwyneb y lleuad petai chi'n cael y cyfle i fynd?
Take that, hen wr y lleuad.

3. Faint o arian sydd yn eich poced ar hyn o bryd?
Dim - dwi yn fy mhyjamas :wps:

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei wneud gyda'r arian?
Ymm, dim, ond fydd rhaid i mi wisgo ryw ben mashwr.

5. Beth yw'r gân fydd yn chwarae wrth i chi briodi/yn eich angladd?
Casau'r cwestiwn yma. Casau meddwl am ganeuon.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am y Penwythnos, 8.12.2006

Postiogan Ramirez » Gwe 08 Rhag 2006 11:35 am

sian a ddywedodd:1. Beth neu bwy oedd y diwethaf i wneud i chi chwerthin?
Eitem ar y newyddion neithiwr yn dweud eu bod yn chwilio am enw byr, bachog ar gyfer y caffi ar ben yr Wyddfa a'r mab canol yn cynnig "You've seen the view, now go home"


Rybish oedd y cynigion glywishi ar y Radio.

Wyddfar Dost ydi nghynnig i (to bach ar yr 'o').
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Pump am y Penwythnos, 8.12.2006

Postiogan Jeni Wine » Gwe 08 Rhag 2006 12:11 pm

1. Beth neu bwy oedd y diwethaf i wneud i chi chwerthin?
Y ddau fos, yn trafod straeon.

2. Beth fyddech chi'n ei sgwennu ar arwyneb y lleuad petai chi'n cael y cyfle i fynd?
Statws Swyddogol i'r Iaith Gymraeg

3. Faint o arian sydd yn eich poced ar hyn o bryd?
Pishyn punt.

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei wneud gyda'r arian?
Ei ddefnyddio i dalu am locyr yn y gym.

5. Beth yw'r gân fydd yn chwarae wrth i chi briodi/yn eich angladd?
Priodi - O, am Gariad gan Cate le Bon
Angladd - Rho im yr Hedd (ar y don Rhys).
Rho im yr hedd na wyr y byd amdano,
hedd, nefol hedd, ddaeth drwy anfeidrol loes;
pan fyddo’r don ar f’enaid gwan yn curo
mae’n dawel gyda’r Iesu wrth y groes.

a "It's Alright" gan y Travelling Wilburys
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Re: Pump am y Penwythnos, 8.12.2006

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 08 Rhag 2006 12:25 pm

1. Beth neu bwy oedd y diwethaf i wneud i chi chwerthin?
Llun ddangosodd cydweithiwr sy'n hoff o'i fetal trwm ar gefn CD band o'r enw Celtic Frost. Roedd y boi'n trio edrych yn dywyll a bygythiol, ond roedd e'n edrych fel ei fod e'n pisd off achos bod rhywun wedi dwyn y custard slice ola'.

2. Beth fyddech chi'n ei sgwennu ar arwyneb y lleuad petai chi'n cael y cyfle i fynd?
Coc y gath.

3. Faint o arian sydd yn eich poced ar hyn o bryd?
£15 ar ei ben. Fi yw eich meistr, dlodion.

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei wneud gyda'r arian?
Prynu baguette o Trumps neu Gorge with George. Falle ga' i custard slice hefyd.

5. Beth yw'r gân fydd yn chwarae wrth i chi briodi?
Ever Fallen in Love (With Someone You Shouldn't Have) gan The Buzzcocks.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai