Pump am y Penwythnos, 8.12.2006

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan garynysmon » Gwe 08 Rhag 2006 12:25 pm

1. Beth neu bwy oedd y diwethaf i wneud i chi chwerthin?
Attachment ebost i fy ngwaith rhyw awr yn ol.

2. Beth fyddech chi'n ei sgwennu ar arwyneb y lleuad petai chi'n cael y cyfle i fynd?
GWW

3. Faint o arian sydd yn eich poced ar hyn o bryd? £6

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei wneud gyda'r arian?
Prynu potel o Oasis a teisen o rhyw fath

5. Beth yw'r gân fydd yn chwarae wrth i chi briodi/yn eich angladd? (dewiswch un)
Don't Marry her, Have me gan y Beautiful South yn fy mhriodas :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Pump am y Penwythnos, 8.12.2006

Postiogan Daffyd » Gwe 08 Rhag 2006 12:40 pm

1. Beth neu bwy oedd y diwethaf i wneud i chi chwerthin?Amryw betha. Nathna giw ohona ni aros fyny tan 5 y bora jest yn malu cachu neithiwr, efo lot o chwerthin. Yr un ola' dwi'n cofio ydi boi drws nesa yn deud fod ei geseilia fo yn ogleuo fel curry.

2. Beth fyddech chi'n ei sgwennu ar arwyneb y lleuad petai chi'n cael y cyfle i fynd?
Stop looking at me.

3. Faint o arian sydd yn eich poced ar hyn o bryd?
£14.77.

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei wneud gyda'r arian?
Dwi'n mynd i siopa 'Dolig pnawn ma, so ar bresanta. Diflas de.

5. Beth yw'r gân fydd yn chwarae wrth i chi briodi/yn eich angladd?
Dwi'm yn hoff o feddwl am y dyfodol, so dwi am anwybyddu dy gwestiwn syr.
We don't live in Ameri-can't, Steve. We live in Ameri-can. Oh no wait....
Rhithffurf defnyddiwr
Daffyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1423
Ymunwyd: Llun 05 Gor 2004 10:37 pm
Lleoliad: Caerdydd/Mynytho

Re: Pump am y Penwythnos, 8.12.2006

Postiogan joni » Gwe 08 Rhag 2006 12:45 pm

1. Beth neu bwy oedd y diwethaf i wneud i chi chwerthin?
Nes i wherthin dipyn yn y pyb nithwr, ond sai'n cael dweud pam...

2. Beth fyddech chi'n ei sgwennu ar arwyneb y lleuad petai chi'n cael y cyfle i fynd?
Shwdi Ffycyr!

3. Faint o arian sydd yn eich poced ar hyn o bryd?
£1.96. Ond ma na £15 a US$1 yn y waled sydd ar y ddesg wrth fy ymyl. (In your face Gwahanglwyf!)

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei wneud gyda'r arian?
Eith y rhan fwyaf ar booze tybiwn i.

5. Beth yw'r gân fydd yn chwarae wrth i chi briodi/yn eich angladd? (dewiswch un)
"The Other Man's Grass is Always Greener" gan Petula Clark yn fy angladd plis.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos, 8.12.2006

Postiogan Manon » Gwe 08 Rhag 2006 12:48 pm

1. Beth neu bwy oedd y diwethaf i wneud i chi chwerthin?
Wyneb fy mab wrth wneud clamp o gachiad yn ei glwt (tebyg iawn i hyn: :wps: )

2. Beth fyddech chi'n ei sgwennu ar arwyneb y lleuad petai chi'n cael y cyfle i fynd?
Diolch.

3. Faint o arian sydd yn eich poced ar hyn o bryd?
£3.75

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei wneud gyda'r arian?
Tile cutter yn B & Q. Boring, boring, boring.

5. Beth yw'r gân fydd yn chwarae wrth i chi briodi/yn eich angladd?
Yn 'y mhriodas roedd 'Y Gwanwyn Disglair' gan Steve Eaves, a pan fyddai'n cicio'r bwcad, o bosib "We'll Meet Again", fersiwn Johnny Cash, neu 'Now My Heart is Full' gan y Smiths.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Gwe 08 Rhag 2006 12:49 pm

1. Beth neu bwy oedd y diwethaf i wneud i chi chwerthin?
Galwad ffôn yn adrodd hynt a helynt rhywun adwaenwn gynt.

2. Beth fyddech chi'n ei sgwennu ar arwyneb y lleuad petai chi'n cael y cyfle i fynd?
Rhywbeth Cymraeg i’r perwyl:
Oh world invisible, we view thee,
Oh world intangible, we touch thee,
Oh world unknowable, we know thee,
Inapprehensible, we clutch thee!


Ond bosib fod hynny yn ymhonnus, felly jest fy enw a’r dyddiad.

3. Faint o arian sydd yn eich poced ar hyn o bryd?
Sgen i’m poced, ond mae gen i £14 efo fi heddiw.

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei wneud gyda'r arian?
Prynu cinio gydag ychydig ohono a bydd y gweddill yn mynd ar fawr o’m byd naill ai heno neu yfory.

5. Beth yw'r gân fydd yn chwarae wrth i chi briodi/yn eich angladd?
‘Byddaf fi gyda thi’ o Y Dyn Nath Ddwyn y Nadolig.
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Re: Pump am y Penwythnos, 8.12.2006

Postiogan Ray Diota » Gwe 08 Rhag 2006 1:08 pm

Dwlwen a ddywedodd:2. Beth fyddech chi'n ei sgwennu ar arwyneb y lleuad petai chi'n cael y cyfle i fynd?
M 4 G mae'n siwr :rolio:


criddle neu ceiro?
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Dili Minllyn » Gwe 08 Rhag 2006 2:25 pm

1. Beth neu bwy oedd y diwethaf i wneud i chi chwerthin?
Y mab lleiaf yn cuddio o dan y bath.

2. Beth fyddech chi'n ei sgwennu ar arwyneb y lleuad petai chi'n cael y cyfle i fynd?
"Lleuad" mewn llythrennau digon bras i'w gweld o'r Ddaear. (Rhag ofn bod rhai yn y byd sydd ddim yn gyfarwydd efo'r term Cymraeg am y graig dan sylw).

3. Faint o arian sydd yn eich poced ar hyn o bryd?
Gwerth punt o arian mân

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei wneud gyda'r arian?
Prynu samosa.

5. Beth yw'r gân fydd yn chwarae wrth i chi briodi/yn eich angladd?
Mi gawson ni Calon gan Diffiniad yn y briodas. Classy!
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Re: Pump am y Penwythnos, 8.12.2006

Postiogan Ray Diota » Gwe 08 Rhag 2006 2:27 pm

1. Beth neu bwy oedd y diwethaf i wneud i chi chwerthin?

Videos o barti nadolig gwaith nos fercher. Ffacin disgres! :lol:

2. Beth fyddech chi'n ei sgwennu ar arwyneb y lleuad petai chi'n cael y cyfle i fynd?

Ffac, ma hi'n ddiflas 'ma.

3. Faint o arian sydd yn eich poced ar hyn o bryd?

£5.36

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei wneud gyda'r arian?

26c ar baned mewn rhyw ugen munud...

5. Beth yw'r gân fydd yn chwarae wrth i chi briodi/yn eich angladd?

Celine Dion yn f'angladd... os ydwi di marw, ma rhaid i'r ffycyrs er'ill ddiodde rhwsut 'fyd!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pump am y Penwythnos, 8.12.2006

Postiogan Sili » Gwe 08 Rhag 2006 3:35 pm

1. Beth neu bwy oedd y diwethaf i wneud i chi chwerthin?
Ar y bys ar y ffordd i bae Caerdydd bora ma, fues i'n ymuno mewn rownd o ganu "Fory fory hen blant bach" efo hogyn bychan bach du tra fod ei fam yn gwgu.

2. Beth fyddech chi'n ei sgwennu ar arwyneb y lleuad petai chi'n cael y cyfle i fynd?
Hen Ddyn y Lleuad woz 'ere (yn hel priciau efo Wil Cwac Cwac).

3. Faint o arian sydd yn eich poced ar hyn o bryd?
27c.

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei wneud gyda'r arian?
Defnyddio'r 20c i roi yn y tymbl pen cwpwl o oria.

5. Beth yw'r gân fydd yn chwarae wrth i chi briodi/yn eich angladd? Priodi - rhyw fath o jazz quartet gwych anhygoel...
Angladd - tango 'till they're sore - Tom Waits -

"Make sure they play my theme song, I guess daisies will have to do
Just get me to New Orleans and paint shadows on the pews
Turn the spit on that pig and kick the drum and let me down
Put my clarinet beneath your bed 'til I get back in town
Let me fall out of the window with confetti in my hair
Deal out Jacks or Better on a blanket by the stairs
I'll tell you all my secrets, but I lie about my past
So send me off to bed for evermore" 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 08 Rhag 2006 4:19 pm

1. Beth neu bwy oedd y diwethaf i wneud i chi chwerthin?

Rhywbryd amser cinio yr yr ystafell athrawon, neu o bosib yn ystod gwers ola'r dydd. Dydw i ddim yn cofio.

2. Beth fyddech chi'n ei sgwennu ar arwyneb y lleuad petai chi'n cael y cyfle i fynd?

Lleuad

3. Faint o arian sydd yn eich poced ar hyn o bryd?

Dim

4. Beth y'ch chi'n bwriadu ei wneud gyda'r arian?

?

5. Beth yw'r gân fydd yn chwarae wrth i chi briodi/yn eich angladd? (dewiswch un)

'Yma o Hyd' yn fy angladd. Dim ond er mwyn bod yn sarky ac ypsetio pawb arall.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron