Pump am y Penwythnos 15/12/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos 15/12/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 15 Rhag 2006 1:03 pm

1. Beth yw’r rhan orau i chi actio yn nrama’r geni? (neu unrhyw ddrama ysgol arall…)
2. Ydych chi’n cofio eich llinellau?
3. Ydych chi erioed wedi cael embaras ar lwyfan?
4. Sawl anrheg ‘Dolig sydd ar ôl gyda chi i’w prynu ‘lenni?
5. Sawl parti ‘Dolig sydd ar ôl gyda chi i’w mynychu ‘lenni?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos 15/12/06

Postiogan Dwi'n gaeth i gaws » Gwe 15 Rhag 2006 1:32 pm

1. Beth yw’r rhan orau i chi actio yn nrama’r geni? (neu unrhyw ddrama ysgol arall…) Fel arfer Angel o'n i'n capal ond gesi fod yn Postman Pat yn blwyddyn 2 ysgol gynradd yn mynd a llythyra i Gwlad y Rwla - Selador odd Dewin Dwl... wedi gweld fidio o hwn yn ddiweddar - heb frolio ew, o'n i'n dda! :winc:

2. Ydych chi’n cofio eich llinellau?
Wbath fel na Jess paid a byta Robin Goch mae o am ein helpu i ffeindio'r ffordd ayyb

3. Ydych chi erioed wedi cael embaras ar lwyfan? Sawl gwaith gan amla pan dwi'n mynd yn blanc

4. Sawl anrheg ‘Dolig sydd ar ôl gyda chi i’w prynu ‘lenni? Ymmmm, dau ne dri. Dwi di neud reit dda leni!

5. Sawl parti ‘Dolig sydd ar ôl gyda chi i’w mynychu ‘lenni?Un ne ddau - ne dri ne bedwar ne bump yn cyfri "partis" teuluol!
blew
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n gaeth i gaws
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 782
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 6:38 pm
Lleoliad: yn y dwr

Re: Pump am y Penwythnos 15/12/06

Postiogan Manon » Gwe 15 Rhag 2006 2:00 pm

1. Beth yw’r rhan orau i chi actio yn nrama’r geni?
O'n wastad yn storiwr, oedd basically yn meddwl bod rhaid i mi adrodd pytiau bach i symud y stori yn ei flaen, fatha "mae mair a joseff yn oer iawn yn y stabal". o'n i'n desbret i gael rhan oedd yn gofyn am ddangos tam bach o emosiwn, ond 'na!

2. Ydych chi’n cofio eich llinellau?
Na, ond ar ol gadal ysgol fues i'n gweithio i gwmni theatr mewn addysg a 'dwi'n siwr mod i'n cofio pob lein o bob un sioe wnes i!

3. Ydych chi erioed wedi cael embaras ar lwyfan?
Do, pan o'n i'n gwneud sioe theatr mewn addysg ac mi wnath y boi oedd yn actio efo fi ddechra chwerthin yn afreolus. Mi ddwedodd y gyfarwyddwraig wedyn 'mod i wedi datblygu nervous twitch pan ddigwyddodd hyn!

4. Sawl anrheg ‘Dolig sydd ar ôl gyda chi i’w prynu ‘lenni?
Un, i fy nghyfeilles drws nesa'.

5. Sawl parti ‘Dolig sydd ar ôl gyda chi i’w mynychu ‘lenni?
Dim un! Ma' 'na noson goffi yn y neuadd bentre' heno... 'Di hynna'n cyfri?
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos 15/12/06

Postiogan joni » Gwe 15 Rhag 2006 2:02 pm

1. Beth yw’r rhan orau i chi actio yn nrama’r geni? (neu unrhyw ddrama ysgol arall…)
O'n i'n robin goch un blwyddun. Un da hefyd.
2. Ydych chi’n cofio eich llinellau?
Dim o gwbl.
3. Ydych chi erioed wedi cael embaras ar lwyfan?
Bron bob tro dwi di bod ar lwyfan. Coc-yps massive pan yn coleg.
4. Sawl anrheg ‘Dolig sydd ar ôl gyda chi i’w prynu ‘lenni?
4 neu bump dal i brynu.
5. Sawl parti ‘Dolig sydd ar ôl gyda chi i’w mynychu ‘lenni?
Dim ar ol nawr. Fi di bod i 4 yn barod.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Cymro13 » Gwe 15 Rhag 2006 2:08 pm

1. Beth yw’r rhan orau i chi actio yn nrama’r geni? (neu unrhyw ddrama ysgol arall…)

Joseff 8)

2. Ydych chi’n cofio eich llinellau?

Na

3. Ydych chi erioed wedi cael embaras ar lwyfan?

Gormod - Ond nath chwaer fi syrthio off stol mewn un drama Nadolig


4. Sawl anrheg ‘Dolig sydd ar ôl gyda chi i’w prynu ‘lenni?

4 so ffar

5. Sawl parti ‘Dolig sydd ar ôl gyda chi i’w mynychu ‘lenni?

di bod i 2 a 2 ar ol
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Jeni Wine » Gwe 15 Rhag 2006 2:59 pm

1. Beth yw’r rhan orau i chi actio yn nrama’r geni? (neu unrhyw ddrama ysgol arall…)

Gabriel. Bob blwyddyn. Ond unwaith, nathon ni neud drama nadolig amgen efo hogan fach heb rieni a Sion Corn yn dod i roid anrhegion iddi hi. Fi oedd yr hogan fach ac o'n i'n goro smalio cysgu drwy hanner y ddrama. Ac wedyn codi a chanu'r gan Dafydd Iwan 'na.... ym.... Heno Mae Popeth yn Cysgu'n Drwm oedd ei henw hi dwa?

2. Ydych chi’n cofio eich llinellau?

Nadw siwr. O, dal am funud. "Peidiwch ag ofni" wrth Tegid, Edgar ac Arwyn y bugeiliaid

3. Ydych chi erioed wedi cael embaras ar lwyfan?

Dwi'n cael hunllefa yn eitha amal fy mod i'n gorfod mynd ar lwyfan a minna rioed di derbyn y sgript ar gyfer y ddrama, nac yn gwybod unrhyw linell. Erchyll. Hollol hollol erchyll. Dyna sy'n digwydd pan ma pawb arall yn dy deulu di yn actorion.
Dwi ddim yn meddwl mod i erioed wedi cael embaras ar lwyfan - oni bai am FOD ar lwyfan, sydd, i mi, yn ddigon o embaras yn ei hun.

Oia, newydd gofio. Anghofio ngeiria yn Steddfod Gylch Dyffryn Nantlle yn canu unwad pan o'n i tua 7. Dyna lle ma'r holl gomplecs di cychwyn ma raid. Ac anghofio ngeiria ar y llwyfan efo Sleifar a'r Teulu yn Clwb rhyw dro. A bod yn sozld yn fy mhriodas a disgyn i gysgu ar y llwyfan. O, ia, a thorri ar draws Celt yn Clwb Ifor gan ddwyn y meicroffon a deud fod Cae o Yd yn shite o gan a gofyn i'w gynulleidfa pwy oedd yn dod o Landwrog. un neu ddau o bobol yn gweiddi "yayyy!" a finna'n gweiddi "weeey" ayyb ayyb nes i Archie Celt gymryd y meic oddi arna fi a deutha fi am sobri. Cofio dim o hyn yn amlwg.

Hmmm.


4. Sawl anrheg ‘Dolig sydd ar ôl gyda chi i’w prynu ‘lenni?

7

5. Sawl parti ‘Dolig sydd ar ôl gyda chi i’w mynychu ‘lenni?

Parti gwaith heno ma
Gig dolig Slacyr yn Port ar y 23ain
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Re: Pump am y Penwythnos 15/12/06

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 15 Rhag 2006 3:13 pm

1. Beth yw’r rhan orau i chi actio yn nrama’r geni? (neu unrhyw ddrama ysgol arall…)
O'n i'n joio bod yn ddoethyn efo lliain am y mhen a belt 'S' rownd y fo i'w ddal o.
2. Ydych chi’n cofio eich llinellau?
Joseff: "Iasu goc! Pwy di rheina wrth y drws eto."
3. Ydych chi erioed wedi cael embaras ar lwyfan?
O'n i'n arfar joio bod ar y llwyfan yn ofnadwy :wps:
4. Sawl anrheg ‘Dolig sydd ar ôl gyda chi i’w prynu ‘lenni?
Pob un ('eblaw am y bobol anffodus na sy'n cael hôm mêd chytni gen i leni)
5. Sawl parti ‘Dolig sydd ar ôl gyda chi i’w mynychu ‘lenni?
Ym, parti gwaith heno, parti Osh fory...na fo rili.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan CORRACH » Gwe 15 Rhag 2006 3:15 pm

1. Beth yw’r rhan orau i chi actio yn nrama’r geni? (neu unrhyw ddrama ysgol arall…)

Coeliwch neu beidio, o'n i'n un o gorachod sion corn - het, siwmper wlanog a teits, ac yn canu unawd. oedd hynna pan o'n i tua 6 oed, ac mae na lun embarasing o'r peth.

2. Ydych chi’n cofio eich llinellau?

Yr unig gof sgen i 'di teimlo mod i ella wedi gwlychu fy hun ar y llwyfan.

3. Ydych chi erioed wedi cael embaras ar lwyfan?


A wele 1 a 2

4. Sawl anrheg ‘Dolig sydd ar ôl gyda chi i’w prynu ‘lenni?

Newydd ofyn i Sion Corn, a'r ateb yw daugan pedwar deg a phum mil trichant ac un anhreg. da ni'n gweithio rownd y cloc yn ymateb i'r demand. ddylwn i ddim bod ar maes-e deud gwir, dyw'r rheolwr llinell ddim yn cin adeg yma'r flwyddyn.

5. Sawl parti ‘Dolig sydd ar ôl gyda chi i’w mynychu ‘lenni?

dim ond 2 (gobeithio!)
Rhithffurf defnyddiwr
CORRACH
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 894
Ymunwyd: Sul 14 Maw 2004 6:53 pm
Lleoliad: Llyn Cwm Llwch

Re: Pump am y Penwythnos 15/12/06

Postiogan Dwlwen » Gwe 15 Rhag 2006 3:46 pm

1. Beth yw’r rhan orau i chi actio yn nrama’r geni?
O'n i wastad yn angel :( Yn ysgol: am fod y'ngwallt i'n oleuach na phawb arall, ac yn Eglwys: am mai 'nhad i odd y ficer, a dodd e ddim mo'yn ffafrio finne a 'ngwar! Gyda pob math arall o ddrama, o'n i'n guaranteed 'storiwr'...

2. Ydych chi’n cofio eich llinellau?
(pwyntio i'r pellter) "Y mae'n gorwedd mewn preseb mewn stabl." Ges i lith o linell yn nrama "Chwedlau" ysgol gynradd though, tra fod Lleu Llaw Gyffes a Blodeuwedd yn newid mewn i wisg eryr a gwisg tylluan...

3. Ydych chi erioed wedi cael embaras ar lwyfan?
Llwyth o weithie. Cyn noson gynta "Chwedlau" 'nath Catrin Jenkins hwdu wrth 'yn ochr i (odd hi wastad yn storiwr 'fyd) a ninnau ar y llwyfan yn barod, jyst yn sefyll yn dawel tu ol sioe yr ysgol dderbyn...
'Nath grwp cyfan o'n ni anghofio geirie rhyw ddarn llefaru odd yn mynd 'cotiau bagiau hetiau rwbeth-arall-au' mewn rhyw Steddfod Shir yn rhywle, wedyn dechrau chwerthin... Orfes i belly-danso yn yr Eidal... Llwyth o bethe ffor'na.

4. Sawl anrheg ‘Dolig sydd ar ôl gyda chi i’w prynu ‘lenni?
Dim byd mawr - y 'biggies' i gyd off y rhestr.

5. Sawl parti ‘Dolig sydd ar ôl gyda chi i’w mynychu ‘lenni?
O leia 4 - hwreee! (er, gyda pen-blwydd Dolig a phobl yn symud ty dy'n nhw ddim i gyd yn strictli partis 'Dolig'.)
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos 15/12/06

Postiogan nicdafis » Gwe 15 Rhag 2006 3:55 pm

1. Beth yw’r rhan orau i chi actio yn nrama’r geni? (neu unrhyw ddrama ysgol arall…)

Buttons yn <i>Cinderella</i>. Canu <i>If You Were The Only Girl In The World</i> i Lisa Williams, dim llygad sych yn y tŷ.

2. Ydych chi’n cofio eich llinellau?

Dw i'n cofio'r gân, ond dyna i gyd. Mae hyn sbel yn ôl, cofiwch.

3. Ydych chi erioed wedi cael embaras ar lwyfan?

Wneud gig mewn neuadd mewn ysbyty meddyliol (doedd dim rhaid bod yn wallgo i licio'n band, ond oedd e'n helpu) a gweiddi ar y bobl yn y cefn i beidio bod mor ddiflas, dewch ymlaen i ddawnsio.

Wedyn sylwi eu bod nhw i gyd mewn cadeiriau olwyn.

4. Sawl anrheg ‘Dolig sydd ar ôl gyda chi i’w prynu ‘lenni?

Dim un. Falle rhywbeth bach 'to i Philippa, ac i'r <a href="http://flickr.com/photos/nicdafis/241800802/">nai bach</a>.

5. Sawl parti ‘Dolig sydd ar ôl gyda chi i’w mynychu ‘lenni?

Dim un, am wn i. Parti poker wythnos nesa, a gig Cymdeithas yng nglwb y Cwins, ond dim parti go iawn.

Drist, ondyfe?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai