1. Beth yw’r rhan orau i chi actio yn nrama’r geni? (neu unrhyw ddrama ysgol arall…)
Bugail o'n i yn yr Eglwys (bob blwyddyn bron), fues i'n Mair unwaith, ac yn storiwr sawl gwaith. Dwi'n cofio bod yn Ditw Tomos Las yn yr ysgol gynradd...
2. Ydych chi’n cofio eich llinellau?
"Doedd dim lle yn y llety, i Joseff nac i Mair" (pam nac, dwnim)
3. Ydych chi erioed wedi cael embaras ar lwyfan?
Dim mod i'n cofio...
4. Sawl anrheg ‘Dolig sydd ar ôl gyda chi i’w prynu ‘lenni?
Dim llawer, jysd rhyw fân bethau, i fân bobol
5. Sawl parti ‘Dolig sydd ar ôl gyda chi i’w mynychu ‘lenni?
Un nos fory, ac un yn y flwyddyn newydd. A dyrnaid o rai answyddogol yn y cyfamser.