1. Ydych chi wedi gorffen gwaith/coleg/ysgol eto?
Ylwch, 'di gwaith gwraig ty BYTH yn gorffan
2. Fyddwch chi'n mynd 'gartre' ar gyfer 'Dolig?
Aros fa'ma, felly bydda, ac yn cael llond llaw o deulu rownd i sglaffio cinio a chwara Hummbug.
3. Ydych chi'n debygol o fwynhau?
Wrth gwrs! 'Dwi 'rioed wedi peidio mwynhau 'Dolig, 'dwi WRTH FY MODD efo'r holl beth. Ac mi fydd blwyddyn yma'n brill achos ma' Efan yn 18 mis oed ac yn dallt be' 'di Sion Corn!
4. Fyddwch chi'n helpu gyda'r cinio, glanhau etc ar ddiwrnod Dolig neu fyddwch chi'n slob?
Myfi sydd yn gwneud popeth ers blynyddoedd maith, ac yn mwynhau. Alla na'i ga'l y gwr i sgrwbio'r bog cyn i'r ymwelwyr gyrraeff 'leni ddo
5. Beth yw'r un peth fyddai'n gwneud eich Dolig chi'n ddelfrydol?
Mab, gwr, teulu, bwyd neis- Ma' rheina gin i yn barod, so mi fydd o'n cwl o 'Ddolig!