Pump am y Penwythnos 22.12.2006

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos 22.12.2006

Postiogan Manon » Gwe 22 Rhag 2006 12:24 pm

1. Ydych chi wedi gorffen gwaith/coleg/ysgol eto?
Ylwch, 'di gwaith gwraig ty BYTH yn gorffan :winc:

2. Fyddwch chi'n mynd 'gartre' ar gyfer 'Dolig?
Aros fa'ma, felly bydda, ac yn cael llond llaw o deulu rownd i sglaffio cinio a chwara Hummbug.

3. Ydych chi'n debygol o fwynhau?
Wrth gwrs! 'Dwi 'rioed wedi peidio mwynhau 'Dolig, 'dwi WRTH FY MODD efo'r holl beth. Ac mi fydd blwyddyn yma'n brill achos ma' Efan yn 18 mis oed ac yn dallt be' 'di Sion Corn!

4. Fyddwch chi'n helpu gyda'r cinio, glanhau etc ar ddiwrnod Dolig neu fyddwch chi'n slob?
Myfi sydd yn gwneud popeth ers blynyddoedd maith, ac yn mwynhau. Alla na'i ga'l y gwr i sgrwbio'r bog cyn i'r ymwelwyr gyrraeff 'leni ddo :crechwen:

5. Beth yw'r un peth fyddai'n gwneud eich Dolig chi'n ddelfrydol?
Mab, gwr, teulu, bwyd neis- Ma' rheina gin i yn barod, so mi fydd o'n cwl o 'Ddolig!
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos 22.12.2006

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 22 Rhag 2006 12:36 pm

1. Ydych chi wedi gorffen gwaith/coleg/ysgol eto?

Dw i jyst wedi gorffan. Yn llwyr.


2. Fyddwch chi'n mynd 'gartre' ar gyfer 'Dolig?

Yma'n barod!


3. Ydych chi'n debygol o fwynhau?

Na. Dim cyfle.

4. Fyddwch chi'n helpu gyda'r cinio, glanhau etc ar ddiwrnod Dolig neu fyddwch chi'n slob?

Na.

5. Beth yw'r un peth fyddai'n gwneud eich Dolig chi'n ddelfrydol?

Petawn yn cael cysgu drwyddi ac anghofio'r ffycin lol i gyd. Iych. Dw i DDIM yn berson Nadolig.

Nadolig Llawen, y ffycyrs.


Diolch GDG. Dwi dal di meddwi cofia.[/quote]
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos 22.12.2006

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Gwe 22 Rhag 2006 12:47 pm

1. Ydych chi wedi gorffen gwaith/coleg/ysgol eto?
Do, gwples i gwaith am 11.45 heddi, joiiio mas draw. :)

2. Fyddwch chi'n mynd 'gartre' ar gyfer 'Dolig?
Fi sha thre trwy'r amser ar hyn o bryd.

3. Ydych chi'n debygol o joio?
Ie, wel Wii'n gobeitho joio be bynnag. Hefyd, ma gen i'r teimlad euraidd pryd ti di cwpla dy siopa a jesd gallu bwwzo a dim becso.

4. Fyddwch chi'n helpu gyda'r cinio, glanhau etc ar ddiwrnod Dolig neu fyddwch chi'n slob?
Gal glassed o gwin a hongian rownd y gecin yn esgus wneud pethe fydde'n i.

5. Beth yw'r un peth fyddai'n gwneud eich Dolig chi'n ddelfrydol?
Gal Nintendo Wii. Wel duw duw, ma un 'da fi - teidi darts 8)

GDG a ddywedodd:Nadolig Llawen, y ffycyrs.

Chiars clart, r'un peth i phawb!
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Re: Pump am y Penwythnos 22.12.2006

Postiogan Chwadan » Gwe 22 Rhag 2006 12:56 pm

1. Ydych chi wedi gorffen gwaith/coleg/ysgol eto?
Do, ers wsnos. Ond pnawn ma dwi'n sgwennu traethawd (gwae :crio:), felly naddo.

2. Fyddwch chi'n mynd 'gartre' ar gyfer 'Dolig?
Byddaf. Allai'm dychmygu bod nunlle ond fanma. Os bydd gennai deulu fy hun byth, fyddai'n gadael nhw ar ddiwrnod Dolig i gal dod adre at mam i yfed sheri.

3. Ydych chi'n debygol o fwynhau?
Ydw. Heblaw am yr amser rhwng 5 ac 8 diwrnod Dolig pan fydd dad yn grympi ac yn gwrthod chwara Balderdash.

4. Fyddwch chi'n helpu gyda'r cinio, glanhau etc ar ddiwrnod Dolig neu fyddwch chi'n slob?
Fyddai'n helpu, achos di Sion Corn ddim yn dod bellach a does gen i ddim teganau i chwara efo nhw dan y pnawn. Bww. Plys ma na fwy o sheri yn y gegin.

5. Beth yw'r un peth fyddai'n gwneud eich Dolig chi'n ddelfrydol?
Ei fod o 'nunion run fath ac arfer.

GDG a ddywedodd:Nadolig Llawen, y ffycyrs.

Thenciw, ac i chithau. Ac i bawb :D
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am y Penwythnos 22.12.2006

Postiogan Sili » Gwe 22 Rhag 2006 2:01 pm

1. Ydych chi wedi gorffen gwaith/coleg/ysgol eto?
Ma genai arholiad anatomy ar fy niwrnod cyntaf yn ol yn Gaerdydd, felly dio'm yn wylia Dolig i ymlacio ma genai ofn.

2. Fyddwch chi'n mynd 'gartre' ar gyfer 'Dolig?
Dwi adra ers wythnos bellach, wiii!

3. Ydych chi'n debygol o fwynhau?
Cyn belled a hyn, ma'n wylia a hanner llawn ymborthi a diota (a fawr o sdydio...).

4. Fyddwch chi'n helpu gyda'r cinio, glanhau etc ar ddiwrnod Dolig neu fyddwch chi'n slob?
Slob yn bora tra fod y rhieni yn paratoi y twrci a ballu, ond dwi wastad yn helpu efo gosod y bwrdd a ballu, a wedyn clirio ar ddiwadd y noson (gan gymryd yn ganiataol mod i'n medru sefyll yn fy niod erbyn hynny, hynny yw).

5. Beth yw'r un peth fyddai'n gwneud eich Dolig chi'n ddelfrydol?
Pawb efo'i gilydd yn cael amser i'r brenin :D
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Cymro13 » Gwe 22 Rhag 2006 9:13 pm

1. Ydych chi wedi gorffen gwaith/coleg/ysgol eto?

ddoe(iau) am 12 ac wedyn all dayer

2. Fyddwch chi'n mynd 'gartre' ar gyfer 'Dolig?

Byddaf

3. Ydych chi'n debygol o fwynhau?

Mwy na thebyg

4. Fyddwch chi'n helpu gyda'r cinio, glanhau etc ar ddiwrnod Dolig neu fyddwch chi'n slob?

SLOBS RULE

5. Beth yw'r un peth fyddai'n gwneud eich Dolig chi'n ddelfrydol?

YFED MEDDWI a gwylio Sound of Music - Dyw Dolig byth run peth heb hynny
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Pump am y Penwythnos 22.12.2006

Postiogan tafod_bach » Gwe 22 Rhag 2006 11:44 pm

1. Ydych chi wedi gorffen gwaith/coleg/ysgol eto?
do. roedd y lock in yn iard yr adeiladwyr yn sbri to the max, namyn y ffartio di-derfyn

2. Fyddwch chi'n mynd 'gartre' ar gyfer 'Dolig?
dyma fi, yn y lownj. ooo mae'n neis bod ar we go iawn.

3. Ydych chi'n debygol o fwynhau?
dim ond os yw'r niwl yn diflannu. fi'n clywed ei fod yn llawn morladron

4. Fyddwch chi'n helpu gyda'r cinio, glanhau etc ar ddiwrnod Dolig neu fyddwch chi'n slob?
fi'n mynd i gwcio lot o lysiau, tra'n yfed.

5. Beth yw'r un peth fyddai'n gwneud eich Dolig chi'n ddelfrydol?
rhyw fath o oxygen tent efo dwr cynnes (falle jacusi-style) a goleuadau llachar nadoligaidd ynddo fe, allwn i eistedd ynddo i feddwl am enedigaeth ein prynwr, a sortio mas fy dastardly plans am flwyddyn nesa. neu lot o bresantau, falle cot ffwr, a back catalogue rob schneider ar vhs. take your pick.
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Re: Pump am y Penwythnos 22.12.2006

Postiogan Mwddrwg » Sad 23 Rhag 2006 1:43 pm

1. Ydych chi wedi gorffen gwaith/coleg/ysgol eto?
na :drwg:

2. Fyddwch chi'n mynd 'gartre' ar gyfer 'Dolig?
byddaf

3. Ydych chi'n debygol o fwynhau?
amwni

4. Fyddwch chi'n helpu gyda'r cinio, glanhau etc ar ddiwrnod Dolig neu fyddwch chi'n slob?
'na i helpu efo'r cinio, wedyn bod yn slob diog wedi gor-fwyta am weddill y dydd

5. Beth yw'r un peth fyddai'n gwneud eich Dolig chi'n ddelfrydol?
cael bod yn 6 oed eto.
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Re: Pump am y Penwythnos 22.12.2006

Postiogan Lowri Fflur » Llun 25 Rhag 2006 8:52 pm

1. Ydych chi wedi gorffen gwaith/coleg/ysgol eto?
Di gorffan gwaith dydd Gwener. Iei 10 diwrnod i ffwrdd.

2. Fyddwch chi'n mynd 'gartre' ar gyfer 'Dolig? Dod adref ddoe dod adref ar fferi o Iwerddon. Dad yn cwrdd a fi. Neis bod yn ol yng Nghymru.

3. Ydych chi'n debygol o fwynhau? Mwynhau ar y funud. Di bwyta gormod. Fel hyn dwi'n dychmygu ame bod yn ofnadwy ofnadwy o dew yn teimlo.

4. Fyddwch chi'n helpu gyda'r cinio, glanhau etc ar ddiwrnod Dolig neu fyddwch chi'n slob?
Di bod yn dipynm o slob a dweud y gwir. Nes i symud pewil o bapurau newydd oddi ar y bwrdd bwyd gyna i neud lle i'r bwyd. Fel ddeudodd Dewi sant gnweuwch y pethau bychain.
5. Beth yw'r un peth fyddai'n gwneud eich Dolig chi'n ddelfrydol?
Sesh bach neis heno
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron