Pump am y Penwythnos 22.12.2006

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos 22.12.2006

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 22 Rhag 2006 10:11 am

1. Ydych chi wedi gorffen gwaith/coleg/ysgol eto?

2. Fyddwch chi'n mynd 'gartre' ar gyfer 'Dolig?

3. Ydych chi'n debygol o fwynhau?

4. Fyddwch chi'n helpu gyda'r cinio, glanhau etc ar ddiwrnod Dolig neu fyddwch chi'n slob?

5. Beth yw'r un peth fyddai'n gwneud eich Dolig chi'n ddelfrydol?

Nadolig Llawen, y ffycyrs.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos 22.12.2006

Postiogan krustysnaks » Gwe 22 Rhag 2006 10:21 am

1. Ydych chi wedi gorffen gwaith/coleg/ysgol eto?
Dwi di gorffen fy nhymor coleg ers tair wythnos ac fe orffenais i ychydig o waith golygu ddoe - popeth wedi gorffen.

2. Fyddwch chi'n mynd 'gartre' ar gyfer 'Dolig?
Dwi dal yn byw adre ac yma bydda i.

3. Ydych chi'n debygol o fwynhau?
Ydw. Dwi wir yr yn hoffi'r Nadolig. Mae eleni yn arwydd tuag at y dyfodol gan bod y chwaer wedi symud allan ac yn gyfle prin i gael y teulu bach gyda'i gilydd.

4. Fyddwch chi'n helpu gyda'r cinio, glanhau etc ar ddiwrnod Dolig neu fyddwch chi'n slob?
Fe fyddai'n helpu gyda'r pethau dwi'n gallu eu gwneud fel gosod y bwrdd a nôl y diodydd ond mae Mam a Dad (a tafod_bach) yn gwybod beth i'w wneud gyda'r bwyd, felly nai aros o'r ffordd. Falle nai helpu gyda chasglu'r papur lapio, os dwi'n teimlo fel bod yn neis.

5. Beth yw'r un peth fyddai'n gwneud eich Dolig chi'n ddelfrydol?
Bod y trydan yn aros arno drwy'r dydd.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos 22.12.2006

Postiogan Llefenni » Gwe 22 Rhag 2006 10:25 am

1. Ydych chi wedi gorffen gwaith/coleg/ysgol eto?

Nope - dwrnod ola heddiw. Dwi dal di meddwi. Dim ond dau ona ni fewn mewn swyddfa o 50+. Dwi dal di meddwi :D


2. Fyddwch chi'n mynd 'gartre' ar gyfer 'Dolig?
Aye - my hometown awaits


3. Ydych chi'n debygol o fwynhau?
Yndw yndw yndw! Dwi wastad yn joio mynd adre - mae'n bril. Diolch.


4. Fyddwch chi'n helpu gyda'r cinio, glanhau etc ar ddiwrnod Dolig neu fyddwch chi'n slob?
Helpu allan llwythi, peth gwaetha ydi ciwio am 3 awr rownd y bloc o bwtshar Wil Lloyd am dwrci -

5. Beth yw'r un peth fyddai'n gwneud eich Dolig chi'n ddelfrydol?
Cael bod yn blentyn eto, oedd Dolig yn FFAB adeg yna.

Nadolig Llawen, y ffycyrs.


Diolch GDG. Dwi dal di meddwi cofia.
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: Pump am y Penwythnos 22.12.2006

Postiogan Cawslyd » Gwe 22 Rhag 2006 10:29 am

1. Ydych chi wedi gorffen gwaith/coleg/ysgol eto?
Do, nath y coleg orffan efo'r cynhyrchiad o sioe gerdd neithiwr.

2. Fyddwch chi'n mynd 'gartre' ar gyfer 'Dolig?
Dwi'n byw adra.

3. Ydych chi'n debygol o fwynhau?
Yndw, cyfla i'r teulu ddod at ei gilydd, cael anghenfil o ginio, ag agor presanta. O, mae hwyl i'w gael.

4. Fyddwch chi'n helpu gyda'r cinio, glanhau etc ar ddiwrnod Dolig neu fyddwch chi'n slob?
Slob cyn bwyd. Wedyn dwi goro golchi'r llestri.

5. Beth yw'r un peth fyddai'n gwneud eich Dolig chi'n ddelfrydol?
Eira!
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

!

Postiogan Jeni Wine » Gwe 22 Rhag 2006 10:33 am

1. Ydych chi wedi gorffen gwaith/coleg/ysgol eto?
Naddo, so dwmbo pam ffwc bo fi mor awyddus i atab pump am y penwsos. :rolio:

2. Fyddwch chi'n mynd 'gartre' ar gyfer 'Dolig?
Mi ydw i adra.

3. Ydych chi'n debygol o fwynhau?
Gobeithio de. Dwi wrth fy modd efo diwrnod dolig. Dydan ni ddim yn segur ar unrhyw adeg drwy'r dydd a da ni byth yn sbio ar unrhyw deledu. Gwisgo fyny yn wirion fyddwn ni, yfad shampen drwy'r dydd, brecwast hwyr (2pm), mynd am dro i Ddinas Dinlla, cinio hwyrach fyth (tua 7pm - yn gocls fel arfer) ac wedyn agor yr anrhegion o dan y goedan. Wrth fy modd.

4. Fyddwch chi'n helpu gyda'r cinio, glanhau etc ar ddiwrnod Dolig neu fyddwch chi'n slob?
Byddaf. Dwi'n licio paratoi'r sgewyll ac mi fyddwn ni'n paratoi'r llysia noswyl nadolig fel arfer, cyn mynd am ddrinc i Ty'n Llan. A leni mi fydda i a Mihangel yn paratoi'r brecwast, sef eog mwg a Sloe Motion (shampen a jin eirin tagu). :P

5. Beth yw'r un peth fyddai'n gwneud eich Dolig chi'n ddelfrydol?
Fod pawb yn cael amser wrth eu bodda (a mod i ddim rhy hungover i fwynhau ar ol bod yn llymeitian yn Ty'n Llan y noson cynt).

Dolig Llawen, y kontiaid hoff. xx
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Re: Pump am y Penwythnos 22.12.2006

Postiogan Griff-Waunfach » Gwe 22 Rhag 2006 10:41 am

1. Ydych chi wedi gorffen gwaith/coleg/ysgol eto?
Dim eto...

2. Fyddwch chi'n mynd 'gartre' ar gyfer 'Dolig?
Na, blwyddyn newydd

3. Ydych chi'n debygol o fwynhau?
Diawl ie!

4. Fyddwch chi'n helpu gyda'r cinio, glanhau etc ar ddiwrnod Dolig neu fyddwch chi'n slob?
Na'i cynnig....

5. Beth yw'r un peth fyddai'n gwneud eich Dolig chi'n ddelfrydol?
Cwrw

Nadolig Llawen, y wewiaid.
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos 22.12.2006

Postiogan Macsen » Gwe 22 Rhag 2006 11:15 am

1. Ydych chi wedi gorffen gwaith/coleg/ysgol eto?
Dal yn y swyddfa! Tan 5pm pnawn 'ma be' bynnag.

2. Fyddwch chi'n mynd 'gartre' ar gyfer 'Dolig?
Dwi'n teithio ar Air Fog One i'r Alpau.

3. Ydych chi'n debygol o fwynhau?
Ydw, rydw i'n mwynhau mynd i'r Alpau yn fawr iawn, heblaw fy mod i'n llwyddo i dorri fy nghoes neu rywbeth.

4. Fyddwch chi'n helpu gyda'r cinio, glanhau etc ar ddiwrnod Dolig neu fyddwch chi'n slob?
Cheese Burger mewn caffi ar y piste fydd hi, dim llawer i glirio fyny ond rhoi wrapper yn y bin. Te Dolig yn debygol o fod bach mwy.

5. Beth yw'r un peth fyddai'n gwneud eich Dolig chi'n ddelfrydol?
Petai fy awyren ddim yn cael ei ganslo fory a petai yna ddigon o eira yn yr alpau i eirfyrddio arno.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Pump am y Penwythnos 22.12.2006

Postiogan Daffyd » Gwe 22 Rhag 2006 11:17 am

1. Ydych chi wedi gorffen gwaith/coleg/ysgol eto?
Neshi orffan tymor Dolig Prifysgol ar yr 13eg, ac ddoishi adra ar y 15fed, so dwi adra wan am fis.

2. Fyddwch chi'n mynd 'gartre' ar gyfer 'Dolig?
Dwi adra ar y funud, er fy mod i wedi galw Caerdydd yna dra dwywaith heb sylwi. Mynytho di adra, dim dowt.

3. Ydych chi'n debygol o fwynhau?
Dwi di mwynhau yn uffernol so far, so allai ond gweld y gwylia ma yn gwella fy hyn.

4. Fyddwch chi'n helpu gyda'r cinio, glanhau etc ar ddiwrnod Dolig neu fyddwch chi'n slob?
Shhhhhlob. Mi fysw ni yn trio, ond y run atab gai bob tro "Dwi'n iawn diolch, wan dos o dan draed."

5. Beth yw'r un peth fyddai'n gwneud eich Dolig chi'n ddelfrydol?
Mynd lawr grisia ar ddwrnod Dolig a gweld Santa Clos di cal hartan ar llawr. Swni'n millionare wedyn.
We don't live in Ameri-can't, Steve. We live in Ameri-can. Oh no wait....
Rhithffurf defnyddiwr
Daffyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1423
Ymunwyd: Llun 05 Gor 2004 10:37 pm
Lleoliad: Caerdydd/Mynytho

Re: Pump am y Penwythnos 22.12.2006

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 22 Rhag 2006 11:31 am

1. Ydych chi wedi gorffen gwaith/coleg/ysgol eto?
Fydda' i ddim yn demob happy tan ddau o'r gloch prynhawn 'ma. Gobeithio mynd am beint wedi 'ny.

2. Fyddwch chi'n mynd 'gartre' ar gyfer 'Dolig?
Caerdydd yw gartre erbyn hyn, ond bydd rhaid pigo draw i B'fraith am ryw ddiwrnod, cyn dychwelyd i'r Mwg Mawr. Pam ffyc nes i wirfoddoli i weithio rhwng Dolig a Flwyddyn Newydd? :rolio:

3. Ydych chi'n debygol o fwynhau?
Mae deg potel o win, potel o Port a photel o Laphroaig yn byrhau'r odds.

4. Fyddwch chi'n helpu gyda'r cinio, glanhau etc ar ddiwrnod Dolig neu fyddwch chi'n slob?
Fydda' i'n trio helpu, ond mae Papa yn mynd braidd yn precious am ei ginio Dolig. Na i aros yn fy mhants o flaen teli.

5. Beth yw'r un peth fyddai'n gwneud eich Dolig chi'n ddelfrydol?
Cael treulio fe gyda M.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos 22.12.2006

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 22 Rhag 2006 11:40 am

1. Ydych chi wedi gorffen gwaith/coleg/ysgol eto?
Nope :x Ond mae són fod cinio wedi'i drefnu ar gyfer deuddeg, a chyn belled ag 'y mod i'n mynd nol at y gwaith am un, mae són y ca'i fynd adra'n gynnar! 8)

2. Fyddwch chi'n mynd 'gartre' ar gyfer 'Dolig?
BYDDA! Er, dwi ddim yn edrych ymlaen at ddau gan milltir o ffyrdd Cymru fach yn y niwl yma chwaith... Heno gobeithio, fel arall bore fory.

3. Ydych chi'n debygol o fwynhau?
Mi fyswn i'n meddwl/gobeithio... Mae peidio gorfod gweithio am chwe niwrnod ar y trot yn ddigon o reswm i fwynhau...

4. Fyddwch chi'n helpu gyda'r cinio, glanhau etc ar ddiwrnod Dolig neu fyddwch chi'n slob?
Mi helpa i i blicio'r llysia, ond mae fy Mhapa fi hefyd yn reit protectuf o'i lysia. Dyma unig ddiwrnod o'r flwyddyn pryd bydd o'n cymryd unrhyw ddiddordeb mewn paratoi bwyd.

5. Beth yw'r un peth fyddai'n gwneud eich Dolig chi'n ddelfrydol?
Cael penwythnos nesaf i ffwrdd hefyd!
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron