1. Ydych chi wedi gorffen gwaith/coleg/ysgol eto?
Naddo, so dwmbo pam ffwc bo fi mor awyddus i atab pump am y penwsos.
2. Fyddwch chi'n mynd 'gartre' ar gyfer 'Dolig?
Mi ydw i adra.
3. Ydych chi'n debygol o fwynhau?
Gobeithio de. Dwi wrth fy modd efo diwrnod dolig. Dydan ni ddim yn segur ar unrhyw adeg drwy'r dydd a da ni byth yn sbio ar unrhyw deledu. Gwisgo fyny yn wirion fyddwn ni, yfad shampen drwy'r dydd, brecwast hwyr (2pm), mynd am dro i Ddinas Dinlla, cinio hwyrach fyth (tua 7pm - yn gocls fel arfer) ac wedyn agor yr anrhegion o dan y goedan. Wrth fy modd.
4. Fyddwch chi'n helpu gyda'r cinio, glanhau etc ar ddiwrnod Dolig neu fyddwch chi'n slob?
Byddaf. Dwi'n licio paratoi'r sgewyll ac mi fyddwn ni'n paratoi'r llysia noswyl nadolig fel arfer, cyn mynd am ddrinc i Ty'n Llan. A leni mi fydda i a Mihangel yn paratoi'r brecwast, sef eog mwg a Sloe Motion (shampen a jin eirin tagu).
5. Beth yw'r un peth fyddai'n gwneud eich Dolig chi'n ddelfrydol?
Fod pawb yn cael amser wrth eu bodda (a mod i ddim rhy hungover i fwynhau ar ol bod yn llymeitian yn Ty'n Llan y noson cynt).
Dolig Llawen, y kontiaid hoff. xx