Pump am y Penwythnos 12/1/07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Jeni Wine » Llun 15 Ion 2007 9:41 am

1. Creision yd - p’un yw’r gorau?
Golden Grahams efo sinamon, ond Nestle sy'n cynhyrchu nhw, so dim mwy ohonyn nhw i mi :crio:

2. Dewiswch: ysgytlaeth neu smwddi?
Smwythun (yr enw Cymraeg ar smwddi, wyddoch chi)

3. Hyd âg 'ych chi'n gwybod, beth yw cynhwysion diod cola?
vegetable ecstract a lot o giach

4. Oes gyda chi unrhyw chwaethau anghyffredin (sticiwch at y bwyd, eh)?
Tosti caws a jam
Bechdan caws bwthyn a marmait
Eirin mair wedi eu gorchuddio efo menyn cnau

5. A’r hen ffefryn… Beth oedd y peth diwetha’ fwytaoch chi?
cacan gri
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan tafod_bach » Llun 15 Ion 2007 9:46 am

mr nwdls
Salad crîm efo scotch egg - pariad blas epiciwraidd a ddyfeisiwyd gan neb arall ond Iesu ei hun.


1. torrwch dwll, neu 'drapddrws' yn y 'scotch'. os yw e'n un budur o coop (h.y. nid gwrmé), bydd yna wagle i'r wy gael rhowlio ogwmpas tu fewn.

2. dyma ble mae angen sgwyrtio'r salad cream.

3. llenwch y twll efo'r condiment a rhoi'r 'trapddrws porc' 'nôl yn ei le.

3.5 os chi'n teimlo'n anturus, rhowch shigl iddo, fel petaech chi'n cymysgu coctel.

4. mwynhewch, neu (os oes colled arnoch chi) iwsiwch o fel grenade blasus a'i daflu at lysieuydd neu hen berson
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Postiogan sian » Llun 15 Ion 2007 10:06 am

Jeni Wine a ddywedodd:2. Dewiswch: ysgytlaeth neu smwddi?
Smwythun (yr enw Cymraeg ar smwddi, wyddoch chi)


Www! Dw i wedi gweld - a licio - "trwyth ffrwyth" a "llymaid llyfn" ond mae i "smwythun" y fantais ei fod yn swnio'n debyg i'r Saesneg ac yn gwneud synnwyr yn y Gymraeg. Tybed ai "smwythyn" (gydag "y") ddylai e fod?
Dw i'n cymryd mai "smwythod" yw'r lluosog. Ie?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron