1. Creision yd - p’un yw’r gorau?
Crunchy nut corn flakes- Ond rhaid gadael iddo fwydo mewn llaeth am 10 munud so bod o'n sogi i gyd. Iym!
2. Dewiswch: ysgytlaeth neu smwddi?
Ysgytlaeth banana plis!
3. Hyd âg 'ych chi'n gwybod, beth yw cynhwysion diod cola?
Wel, mae o' deud 'vegetable extract', sy'n feddwl bod o'n rili iachus a da ac yn cyfri fel un o dy 5-a-day
4. Oes gyda chi unrhyw chwaethau anghyffredin (sticiwch at y bwyd, eh)?
Bechdan gaws ac afal; caws a marmite; ac fel y Twyllwr Rhinweddol, mi 'dwi'n cael bread sauce yn aml (ar frechdan efo stwffin-iam!). O ia, a 'dwi hefyd yn byta stwffin ar ei ben ei hun.
5. A’r hen ffefryn… Beth oedd y peth diwetha’ fwytaoch chi?
Mini fudge o'r tun celebrations anferth sy' dal yma ar ol 'dolig. A ges i pepper chilli bangers a sdwnsh i swpar