Tudalen 3 o 5

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 1:29 pm
gan Twyllwr Rhinweddol
1. Creision ŷd - p’un yw’r gorau?
Bron byth yn eu bwyta nhw, ond mi ddyweda'i coco-pops gan ei fod o'n gwneud y llefrith yn neis

2. Dewiswch: ysgytlaeth neu smwddi?
Ysgytlaeth siocled Marks.

3. Hyd âg 'ych chi'n gwybod, beth yw cynhwysion diod cola?
Dwr, siwgr, lliw, carbon a caffin (weithiau blas ceirios, lemwn, laim)

4. Oes gyda chi unrhyw chwaethau anghyffredin (sticiwch at y bwyd, eh)?
Powlenaid o saws bara efo pupur du fydd te weithiau.

5. A’r hen ffefryn… Beth oedd y peth diwetha’ fwytaoch chi?
Heb gael dim byd heddiw hyd yma - mynd am ginio rwan. Neithiwr ges i salad drud o M&S (godamia - dyna'r adduned i atal rhag gwario'n wirion ar fwyd bob dydd wedi ei thorri).

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 1:39 pm
gan tafod_bach
1. Creision ŷd - p’un yw’r gorau?
bran flakes sogi. sugar puffs. MWZLI.

2. Dewiswch: ysgytlaeth neu smwddi?
thickshake bob tro.

3. Hyd âg 'ych chi'n gwybod, beth yw cynhwysion diod cola?
caffeine, siwgr, hud a lledrith, bybls.

4. Oes gyda chi unrhyw chwaethau anghyffredin (sticiwch at y bwyd, eh)?
knickerbocker morgrug

5. A’r hen ffefryn… Beth oedd y peth diwetha’ fwytaoch chi?
nwdls efo gweddill y butternut squash/moron/pupur poeth na gethon ni neithiwr, musus 'cliriais fy mhlât' :winc:

Re: Pump am y Penwythnos 12/1/07

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 1:41 pm
gan Siffrwd Helyg
1. Creision ŷd - p’un yw’r gorau?
Coco Pops pan fi'n bod yn afiach, shredded wheat pan fi'n sort-of dda. Gyda banana, wrth gwrs.

2. Dewiswch: ysgytlaeth neu smwddi?
Smwddi banana ac afal. Ond ges i un yng Nghaerdydd cwpwl o fisoedd nol ac odd en hollol afiach, odd llaeth yno fe ac odd e di mynd off ne rhwbeth, sai di gallu cyffwrdd y stwff ers 'ny.

3. Hyd âg 'ych chi'n gwybod, beth yw cynhwysion diod cola?
Well da fi beido gwbod, fi ond yn yfed y stwff ar adege prin iawn... (Er, weithe, sdim byd gwell na pheint o coke mewn gwydr llawn ia, mmm)

4. Oes gyda chi unrhyw chwaethau anghyffredin (sticiwch at y bwyd, eh)?
Urm, cyri a pasta? Sain gweld hwnna'n anghyffredin, ond ma'n ffrindie i yn. Dwi'n byta iogwrt plaen da bron popeth (iogwrt a pupur coch ma pobl yn ffindo'n rhyfedd). Dwi'n ffrio ciwcymbyr... A dwi'n eu bwyta nhw'n gyfan. Pasta, baked beans, marmite, tiwna a chaws yw un o'n hoff brydie -mmm. Sain siwr os yw e'n anghyffredin ne beidio, ma ymateb pobl wrth iddyn nhw weld fi'n bwyta fe yn neud fi gredu bod e tho!

5. A’r hen ffefryn… Beth oedd y peth diwetha’ fwytaoch chi?
Dwi hanner ffordd trwy fwyta'n nghinio... newydd gael brechdan marmite, caws a creision plaen (mmm, iachus...!) - a dwi just yn dechre fy afal nawr...

Re: Pump am y Penwythnos 12/1/07

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 1:44 pm
gan Wierdo
Siffrwd Helyg a ddywedodd:4. Oes gyda chi unrhyw chwaethau anghyffredin (sticiwch at y bwyd, eh)?
Urm, cyri a pasta? Sain gweld hwnna'n anghyffredin, ond ma'n ffrindie i yn. Dwi'n byta iogwrt plaen da bron popeth (iogwrt a pupur coch ma pobl yn ffindo'n rhyfedd). Dwi'n ffrio ciwcymbyr... A dwi'n eu bwyta nhw'n gyfan. Pasta, baked beans, marmite, tiwna a chaws yw un o'n hoff brydie -mmm. Sain siwr os yw e'n anghyffredin ne beidio, ma ymateb pobl wrth iddyn nhw weld fi'n bwyta fe yn neud fi gredu bod e tho!


Ma cyri a pasta yn iawn.

Ma'r pasta fo bob dim yn iawn fyd, ond ddim marmite. Mashwr sa fon iawn os swnin licio marmite, dwnim. Allaim dychmygu hoffi fashwn beth!

Re: Pump am y Penwythnos 12/1/07

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 2:55 pm
gan krustysnaks
1. Creision ?d - p’un yw’r gorau?
Dwi'n ffan eitha mawr o Coco Pops ond Weetabix sy'n ennill ar hyn o bryd.

2. Dewiswch: ysgytlaeth neu smwddi?
Smwddi. Dwi ddim yn hoffi llefrith a dwi'n hoff iawn o ffrwythau felly smwddi bob tro.

3. Hyd âg 'ych chi'n gwybod, beth yw cynhwysion diod cola?
Dim syniad. Siwgr, caffîn, y cynhwysyn "arbennig". Blasu'n neis, ddo.

4. Oes gyda chi unrhyw chwaethau anghyffredin (sticiwch at y bwyd, eh)?
Ddim wir, na. Fy hoff fwyd ar hyn o bryd ydy fry up. Dwi'n ddyn syml.

5. A’r hen ffefryn… Beth oedd y peth diwetha’ fwytaoch chi?
Dwi newydd fwyta darn o daffi triog. Iym iym.

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 3:35 pm
gan Socsan
1. Creision ?d - p’un yw’r gorau?
Crunchy Nut Cornflakes di'r neisia, ond dwi'n syrffedu arnyn nhw ar ol ryw wythnos. Cheerios hefyd yn neis, ond Corn Flakes ydi'r hen ffefryn!

2. Dewiswch: ysgytlaeth neu smwddi?
O smwddi bob tro...hyfrydbeth

3. Hyd âg 'ych chi'n gwybod, beth yw cynhwysion diod cola?
Dwi'n yfed diet coke rwan, felly fyswn in medru twyllo a sbio...ond sgin im mynadd. Dwi wastad wedi ama fod na rwbath fel 'Cilit Bang' ynddo fo, chos ma'r ddau yn llnau pres yn dda tydyn :?:

4. Oes gyda chi unrhyw chwaethau anghyffredin (sticiwch at y bwyd, eh)?
Dwi'n lecio salad cream hefo lot o betha. Nai fyta brechdan caws, salad cream, a salt and vinegar crisps heb feddwl dim ohono - ond ma fy housemates i isho chwydu.

5. A’r hen ffefryn… Beth oedd y peth diwetha’ fwytaoch chi?

Jaffa Cec!! :D Lyrfli!

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 3:57 pm
gan Rhodri Nwdls
Socsan a ddywedodd:Dwi'n lecio salad cream hefo lot o betha. Nai fyta brechdan caws, salad cream, a salt and vinegar crisps heb feddwl dim ohono - ond ma fy housemates i isho chwydu.

Salad crîm efo scotch egg - pariad blas epiciwraidd a ddyfeisiwyd gan neb arall ond Iesu ei hun.

Edrych fel fod y crunchy nuts yn gneud yn reit dda - rheina oedd fy ail ddewis.

A be am uwd?!! Brecwast pencampwyr shot put Albanaidd mewn sgertia!

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 4:09 pm
gan Mr Gasyth
Rhodri Nwdls a ddywedodd:A be am uwd?!! Brecwast pencampwyr shot put Albanaidd mewn sgertia!


Brywes ydi'r boi. Ella mai dyna sut wnai fy ffortiwn - brywes mewn bocs i holl bobl y byd. Just add water :D

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 5:05 pm
gan anffodus
1. Creision yd - p’un yw’r gorau?
Coco Pops: dim ond am wsos yn steddfod odd mam yn gadal i fi gal o pan o'n i'n fach a bob tro dwi'n gal o wan ma hi'n teimlo fel bo fi ar y maes carafanna'

2. Dewiswch: ysgytlaeth neu smwddi?
Casau'r ddau

3. Hyd âg 'ych chi'n gwybod, beth yw cynhwysion diod cola?
rhwd hen feic peniffardding fy nhaid

4. Oes gyda chi unrhyw chwaethau anghyffredin (sticiwch at y bwyd, eh)?
Y rhestr fer: sos coch ar bob dim; bechdan fêl, caws, ham; bechdan bacwn a mêl; bechdan fêl, bacwn a crisps


5. A’r hen ffefryn… Beth oedd y peth diwetha’ fwytaoch chi?

Twix

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 8:25 pm
gan Fflamingo gwyrdd
1. Creision yd - p’un yw’r gorau?
Special K Red Berries

2. Dewiswch: ysgytlaeth neu smwddi?
Smwddi bob tro

3. Hyd âg 'ych chi'n gwybod, beth yw cynhwysion diod cola?
Cemegolion budur

4. Oes gyda chi unrhyw chwaethau anghyffredin (sticiwch at y bwyd, eh)?
Dim anghyffredin - mi ddoi nol os gofia i :)

5. A’r hen ffefryn… Beth oedd y peth diwetha’ fwytaoch chi?
Hufen ia After Eights 8)