1. Oes gyda’ch teulu stori o’ch plentyndod sy’n codi cywilydd arnoch?
Oh fy nuw, yr un hen blydi stori sy'n dod allan bob tro dwi'n dod a ffrind neu gariad newydd draw i ddeud helo. Heb fod yn
rhy graffig ma'r stori yn cynnwys Sili chydig wythnosau oed, amser newid napi, gormod o rusks yn amlwg, finna'n anelu am y ser, drws cwpwrdd a lot o waith llnau wedyn
Dachi'n cal y syniad mashwr.
Dwi'n mynd i ddifaru postio hwn wedyn...
2. Oes gyda chi stori o’ch plentyndod sy’n codi cywilydd ar eich teulu?
Pan ath fy rhieni am wyliau byr un penwythnos a ngadael efo fy anti a nain a minnau tua chwe neu saith oed. Gesi fynd am dro i'r fferm gwnhingod yn Llanystumdwy lle waris i dipyn o amser yn bwydo'r anifeiliaid. Ath petha o chwith pan nath un o'r Shetland's yno binsho pen fy mys yn ei ddannedd gan beri i mi redeg mewn cylchoedd yn sgrechian crio "My meat! I can see my meat!" Odd raid i ni fynd oddi yno'n syth gan mod i wedi codi gymaint o gywliydd ar f'anti
3. Ydych chi’n cysidro’ch hun yn blentyn, neu’n oedolyn?
Oedolyn (-ish).
4. Pam?
Dwi'n prynu petha mawr dwi methu fforddio heb fenthyg pres, dwi'n grwgnach a chwyno drwy'r adag a dwi'n casau meddylfryd y stiwdant stereotypical.
5. Pe bai’ch teulu chi mewn opera sebon, ar ba stryd, neu ym mha gwm dychmygol y bydden nhw’n byw?
Cwmderi, am y ffaith syml mod i wedi gaddo gornest bwyta cimychiaid i Dai Sgaffalde Haf dwytha rhwng fonta, Gwahanglwyf a Ramirez