Pump am y Penwythnos 19/1/07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos 19/1/07

Postiogan Dwlwen » Gwe 19 Ion 2007 11:22 am

1. Oes gyda’ch teulu stori o’ch plentyndod sy’n codi cywilydd arnoch?
2. Oes gyda chi stori o’ch plentyndod sy’n codi cywilydd ar eich teulu?
3. Ydych chi’n cysidro’ch hun yn blentyn, neu’n oedolyn?
4. Pam?
5. Pe bai’ch teulu chi mewn opera sebon, ar ba stryd, neu ym mha gwm :winc: dychmygol y bydden nhw’n byw?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Cymro13 » Gwe 19 Ion 2007 11:58 am

1. Oes gyda’ch teulu stori o’ch plentyndod sy’n codi cywilydd arnoch?

Oes - Dim Manylion :wps:

2. Oes gyda chi stori o’ch plentyndod sy’n codi cywilydd ar eich teulu?

Oes - Fy Chwaer bach yn mynd i weld seremoni Coroni yn Steddfao Casnewydd 1988 (dim ond tua 4 oedd hi) ac yn gweiddi dros y lle wrth i'r Orsedd ddod i mewn - 'Lots o Mair a Joseffs' :wps:

3. Ydych chi’n cysidro’ch hun yn blentyn, neu’n oedolyn?

Oedolyn

4. Pam?

Achos fi wastad yn skint


5. Pe bai’ch teulu chi mewn opera sebon, ar ba stryd, neu ym mha gwm dychmygol y bydden nhw’n byw?

bendant yn rhan o Eastenders
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Manon » Gwe 19 Ion 2007 12:21 pm

1. Oes gyda’ch teulu stori o’ch plentyndod sy’n codi cywilydd arnoch?
Cannoedd. Twyllwr Rhinweddol sy'n f'atgoffa i ohonyn nhw amlaf. Mynd i B & Q wedi gwisgo fel Wali Tomos; pipi ar goes Elin yn Rhyd Ddu.

2. Oes gyda chi stori o’ch plentyndod sy’n codi cywilydd ar eich teulu?
Nath Dad ddeud wrth fy ngwr bod o yn 'rysgol efo dwy hogan o'r enw Beyonce Jones a Beyonce Evans- nath y gwr goelio. I dalu'r pwyth yn ol, nath fy ngwr ddeud wrth Dad bod gan Dudley fab o'r enw Shibwns- Nath Dad goelio :D

3. Ydych chi’n cysidro’ch hun yn blentyn, neu’n oedolyn?
Oedolyn.

4. Pam?
Achos 'dwi'n hannar 48 heddiw :ofn:

5. Pe bai’ch teulu chi mewn opera sebon, ar ba stryd, neu ym mha gwm dychmygol y bydden nhw’n byw?
Cwmderi. Er, 'swn i 'di rhoi'r ty ar y farchnad erbyn hn, efo'r holl metalists 'na sy' o gwmpas. Nenwedig yr hen Rhodri doji 'na. O'n i'n gwybod pan oedd o'n Mega bod 'na ryw ddrwg yn y caws...
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos 19/1/07

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Gwe 19 Ion 2007 1:25 pm

1. Oes gyda’ch teulu stori o’ch plentyndod sy’n codi cywilydd arnoch?
Llawer. Un sy'n sefyll allan yw mynd am dro efo Manon a gweld ceffyl efo codiad. Mynd at gymydog i ni mewn panic llwyr (yn meddwl mai rhoi genedigaeth oedd y ceffyl ac mai coes ebol oedd y peth hir a welwn yn dod allan ohono). O'n i tua 12 neu 13 oed!

2. Oes gyda chi stori o’ch plentyndod sy’n codi cywilydd ar eich teulu?
Sefyll rhwng coesau rhyw hen ddyn mewn noson goffi yn y pentra pan o'n i tua 2 a gafael yn ei grotsh er mwyn cadw fy malans - drwy lwc roedd hwnnw yn hongian yn bell islaw unrhyw organnau, ac wnaeth y dyn ddim hyd yn oed sylwi mod i yno. Rhai o'r tadau eraill yn tynnu sylw fy nhad at hyn, ac yntau'n trio fy nghael i o'no heb fynd rhwng coesau'r dyn ei hun!

3. Ydych chi’n cysidro’ch hun yn blentyn, neu’n oedolyn?
Oedolyn.

4. Pam?
Codi'n ddeddfol bob bore ar gyfer diwrnod gonest o waith, talu trethi. Dim rhyddid. O ia, hefyd mae gen i briefcase!! ( :ofn: Be ddigwyddodd i fi?!)

5. Pe bai’ch teulu chi mewn opera sebon, ar ba stryd, neu ym mha gwm :winc: dychmygol y bydden nhw’n byw?
Rownd a Rownd ma'n debyg - heb lawer o storis mawr dramatig. Mae 'na gyfres ddrama am y math o fywyd sydd gen i yn dechrau yn y gwanwyn - bydd hwnnw'n ddifyr i'w weld dwi'n siwr, er efo ychydig mwy o glamour na'r gwirionedd.
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Re: Pump am y Penwythnos 19/1/07

Postiogan Iesu Nicky Grist » Gwe 19 Ion 2007 2:00 pm

1. Oes gyda’ch teulu stori o’ch plentyndod sy’n codi cywilydd arnoch?Oes. Ges i godiad tra'n gwylio Minafon. Mean, cont.
2. Oes gyda chi stori o’ch plentyndod sy’n codi cywilydd ar eich teulu?Oes. Ges i godiad tra'n gwylio Minafon.
3. Ydych chi’n cysidro’ch hun yn blentyn, neu’n oedolyn?Bach o'r ddou
4. Pam?Fi'n edrych fel plentyn ac yn casau 'fucking students'.
5. Pe bai’ch teulu chi mewn opera sebon, ar ba stryd, neu ym mha gwm :winc: dychmygol y bydden nhw’n byw? Coronation Street, achos ma'n fwy o gomedi. Gyda dweud 'nny, ma bach gormod o blacs yn Coronation Street (joc amserol :rolio: ), felly weda'i Pobol y Cwm (joc parhaol). "OW! BRANDON-OW!"
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Re: Pump am y Penwythnos 19/1/07

Postiogan krustysnaks » Gwe 19 Ion 2007 4:00 pm

1. Oes gyda’ch teulu stori o’ch plentyndod sy’n codi cywilydd arnoch?
Mae Nain yn eitha hoff o'r glasur "dweud wrth y gweinidog ein bod wedi yn yr atig." Doedden ni ddim i fod i fynd i'r atig.

2. Oes gyda chi stori o’ch plentyndod sy’n codi cywilydd ar eich teulu?
Ymm, help tafod_bach?

3. Ydych chi’n cysidro’ch hun yn blentyn, neu’n oedolyn?
Hmm cwestiwn da. Fasen i'n hoffi ateb y cwestiwn yma gyda geiriau'r anfarwol North and South - "I'm a man, not a boy. I'm a man, not a boy. I'm a man, not a buuooy" - ond dwi dal chydig yn ifanc. Dwi mewn limbo bach eitha cyfforddus. Fyddai'n oedolyn pan gai job.

4. Pam?
^

5. Pe bai’ch teulu chi mewn opera sebon, ar ba stryd, neu ym mha gwm :winc: dychmygol y bydden nhw’n byw?
Eldorado.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan krustysnaks » Gwe 19 Ion 2007 4:01 pm

Manon a ddywedodd: I dalu'r pwyth yn ol, nath fy ngwr ddeud wrth Dad bod gan Dudley fab o'r enw Shibwns- Nath Dad goelio :D

:lol:
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos 19/1/07

Postiogan Wierdo » Gwe 19 Ion 2007 4:12 pm

1. Oes gyda’ch teulu stori o’ch plentyndod sy’n codi cywilydd arnoch?
Oes. Degau. Ym...pan neshi gysgu yn fy mwyd (mana lun), mana lun o fi yn mynd i mewn i gar, ar unig beth dechin gweld di'm mhen ol i (hwna reit imbarasing)....ym...mana fwy ond dwin meddwl mod i di blocio nw allan!

2. Oes gyda chi stori o’ch plentyndod sy’n codi cywilydd ar eich teulu?
Ar fy mrawd oes. Pan oedd fy yncl a fy anti yn priodi, mi oedd fy mrawd bach yn 2 oed. Mi oedd o'n gwisgo crys bach melyn del a jumper-vest i fatcho. Odd pawb yn cerdded lawr y stryd o'r "syrfis" (dwin meddwl, dwim yn cofio'n dda, 4 oni) ac mi odd trwsus fy mrawd yn disgyn i lawr trw'r amser, a fynta yn cerdded lawr y stryd efo fo rownd ei draed. Ma pawb yn cofio huna mwy na'r briodas dwin meddwl...

3. Ydych chi’n cysidro’ch hun yn blentyn, neu’n oedolyn?
Rwla yn y canol...gosach at oedolyn mashwr

4. Pam?
Fyddai ddim yn oedolyn tan oleia yn 21, ond ma 19 yn rhu hen i gal fy nghyfri yn blentyn. Dechra ffindio fy nhraed ydwi..."D"oedolyn bosib...

5. Pe bai’ch teulu chi mewn opera sebon, ar ba stryd, neu ym mha gwm :winc: dychmygol y bydden nhw’n byw?
wwww...ym Pobl y cwm neu rownd a rownd dwin meddwl. Ma Pobl y cwm yn HILERIYS ar y foment, ond ma rownd a rownd fwy...calm rwsut. Llai o beryg i mi gal fy lladd bosib!
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Re: Pump am y Penwythnos 19/1/07

Postiogan Sili » Gwe 19 Ion 2007 4:18 pm

1. Oes gyda’ch teulu stori o’ch plentyndod sy’n codi cywilydd arnoch?
Oh fy nuw, yr un hen blydi stori sy'n dod allan bob tro dwi'n dod a ffrind neu gariad newydd draw i ddeud helo. Heb fod yn rhy graffig ma'r stori yn cynnwys Sili chydig wythnosau oed, amser newid napi, gormod o rusks yn amlwg, finna'n anelu am y ser, drws cwpwrdd a lot o waith llnau wedyn :wps: Dachi'n cal y syniad mashwr. Dwi'n mynd i ddifaru postio hwn wedyn...

2. Oes gyda chi stori o’ch plentyndod sy’n codi cywilydd ar eich teulu?
Pan ath fy rhieni am wyliau byr un penwythnos a ngadael efo fy anti a nain a minnau tua chwe neu saith oed. Gesi fynd am dro i'r fferm gwnhingod yn Llanystumdwy lle waris i dipyn o amser yn bwydo'r anifeiliaid. Ath petha o chwith pan nath un o'r Shetland's yno binsho pen fy mys yn ei ddannedd gan beri i mi redeg mewn cylchoedd yn sgrechian crio "My meat! I can see my meat!" Odd raid i ni fynd oddi yno'n syth gan mod i wedi codi gymaint o gywliydd ar f'anti :wps:

3. Ydych chi’n cysidro’ch hun yn blentyn, neu’n oedolyn?
Oedolyn (-ish).

4. Pam?
Dwi'n prynu petha mawr dwi methu fforddio heb fenthyg pres, dwi'n grwgnach a chwyno drwy'r adag a dwi'n casau meddylfryd y stiwdant stereotypical.

5. Pe bai’ch teulu chi mewn opera sebon, ar ba stryd, neu ym mha gwm :winc: dychmygol y bydden nhw’n byw?
Cwmderi, am y ffaith syml mod i wedi gaddo gornest bwyta cimychiaid i Dai Sgaffalde Haf dwytha rhwng fonta, Gwahanglwyf a Ramirez :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos 19/1/07

Postiogan anffodus » Gwe 19 Ion 2007 4:54 pm

1. Oes gyda’ch teulu stori o’ch plentyndod sy’n codi cywilydd arnoch?
Pan o'n i'n fform won nes i lewygu mewn i nghinio yn rysgol. chips, bins a caws :(

2. Oes gyda chi stori o’ch plentyndod sy’n codi cywilydd ar eich teulu?
nath fy chwaer i ofyn i mam os odd pan odd hi'n cal gwbod bod hi'n disgwl wbath i neud efo hamster :?

3. Ydych chi’n cysidro’ch hun yn blentyn, neu’n oedolyn?
chydig bach o'r ddau

4. Pam?
dwi dal yn eitha ifanc ond ma pobol yn deud mod i'n actio'n hyn nag ydw i

5. Pe bai’ch teulu chi mewn opera sebon, ar ba stryd, neu ym mha gwm :winc: dychmygol y bydden nhw’n byw?
pobol y cwm.
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron