1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gyflawni her?
Fe wnes i cerdyn Dydd Santes Dwynwen i'r wej, odd e di cymrid
ache i fi torri'r card i'r maint iawn, gal y pethe i brinto'n reit a popeth. Gymrodd e bron a wythnos, ond o'n ni'n bles yn y diwedd.
2. Beth yw'r her nesaf yr hoffech chi ei chyflawni?
Gwitho mas be ddiawl fi moyn neud da'n fywyd. S'dim hast!
3. Beth yw'ch prif ragfarn?
Saeson, a pobol o Aberhonddu. Sy bron a bod r'un peth. A fel pawb lawr 'ma, Gogs y jiawl.
4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'ch gwallt?
Cyn 'Dolig wy'n cretu...erm, ail wythnos mis Rhagfyr?
5. Nag yw hi'n bryd ei dorri fe 'to, hippy?
Ydy. Ma gwallt Ice Hockey 'da fi yn tyfu ar y funed.
Ma fe mor hir, rhaid fi mynd i rwle posh yn Abertwe.