Pump am y Penwythnos, 26.1.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos, 26.1.2007

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 26 Ion 2007 10:40 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gyflawni her?

2. Beth yw'r her nesaf yr hoffech chi ei chyflawni?

3. Beth yw'ch prif ragfarn?

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'ch gwallt?

5. Nag yw hi'n bryd ei dorri fe 'to, hippy?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos, 26.1.2007

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 26 Ion 2007 10:46 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gyflawni her?

Mi godais o'r gwely bore ma do

2. Beth yw'r her nesaf yr hoffech chi ei chyflawni?

Angen darllen dwy bennod o lyfr cyn cinio ma wan

3. Beth yw'ch prif ragfarn?

Fuck off y South Walian uffar :winc:

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'ch gwallt?

Ma hi'n reit hir yn ol erbyn hyn, ganol mis Tachwedd dwi'n meddwl

5. Nag yw hi'n bryd ei dorri fe 'to, hippy?

Ydi ma'n siwr. Dwi'n edrych yn fwy moel pan ma'ng ngwallt i'n hir os ydi hynne'n gneud sens. Ond eto ma'n help cal bach o 'extra cover' yn y gaea.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan CORRACH » Gwe 26 Ion 2007 10:57 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gyflawni her?
Wel, ar ol pwyso Snooze ddwywaith bore ma, codi a cherdded i'r gwaith.

2. Beth yw'r her nesaf yr hoffech chi ei chyflawni?

Gwneud fymryn o waith cyn cinio. Er, dwin mynd am brec ar ol gneud hyn!

3. Beth yw'ch prif ragfarn?
Nad ydw i fyth yn rhagfarnllyd.

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'ch gwallt?
Jyst cyn y Nadolig dwi'n meddwl.

5. Nag yw hi'n bryd ei dorri fe 'to, hippy?
hwm . . . falle, ond allith o aros am ryw fis arall ella tra bod hi'n rhewi a'r gwynt yn fferru'r pen ar y ffordd i'r gwaith yn y bore.
Rhithffurf defnyddiwr
CORRACH
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 894
Ymunwyd: Sul 14 Maw 2004 6:53 pm
Lleoliad: Llyn Cwm Llwch

Re: Pump am y Penwythnos, 26.1.2007

Postiogan docito » Gwe 26 Ion 2007 11:01 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gyflawni her?

cal fy swydd newydd

2. Beth yw'r her nesaf yr hoffech chi ei chyflawni?

cadw'r swydd newydd

3. Beth yw'ch prif ragfarn?

pobl sy'n berchen BMWs (easy da'r puns nawr Mr Diota)

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'ch gwallt?

2 fis

5. Nag yw hi'n bryd ei dorri fe 'to, hippy?

fory.
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Re: Pump am y Penwythnos, 26.1.2007

Postiogan Dwlwen » Gwe 26 Ion 2007 11:31 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gyflawni her?
Fues i i yoga neithiwr sbo.

2. Beth yw'r her nesaf yr hoffech chi ei chyflawni?
Ym, dal un coes allan o 'mlaen i'n syth, uchder fy ngwast, codi llaw uwch fy mhen, edrych syth 'mlaen, a peidio wobblo.

3. Beth yw'ch prif ragfarn?
Mae mor anodd dewis un :rolio:

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'ch gwallt?
Tachwedd, wy'n meddwl.

5. Nag yw hi'n bryd ei dorri fe 'to, hippy?
Nadi, pwrs. Ti 'di gweld y prisau ma nhw'n codi?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos, 26.1.2007

Postiogan Chwadan » Gwe 26 Ion 2007 11:35 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gyflawni her?
Bore 'ma - llusgo fy hun ar draws Cathays er mwyn gallu dechra ryw waith ddylswn i di neud ddyddia yn ol. Och.

2. Beth yw'r her nesaf yr hoffech chi ei chyflawni?
Llwyddo i orffen y project 'ma erbyn ganol pnawn i mi gal mynd i gwely am ddwyawr. Dwi'n cyrnacyrd.

3. Beth yw'ch prif ragfarn?
Dwi'n snob uffernol. Dwi'n well na chavs.

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'ch gwallt?
Dydd Iau cyn Dolig.

5. Nag yw hi'n bryd ei dorri fe 'to, hippy?
Ma'r ffrinj angen trim 'de. Mi neith y gweddill.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am y Penwythnos, 26.1.2007

Postiogan Wilfred » Gwe 26 Ion 2007 11:39 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gyflawni her?
Ma bob diwrnod yn her i mi di mynd.

2. Beth yw'r her nesaf yr hoffech chi ei chyflawni?
Mynd i gym heno a peidio dechrau temlio'n sal ar y diwedd.

3. Beth yw'ch prif ragfarn?
Fyswn i ddim yn hoffi dewis prif ragfarn gan nad ydw i eisiau bod yn ragfarnllyd yn erbyn fy rhagfarnau eraill.

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'ch gwallt?
Ionawr y 12fed 2007 am 5.15 y prynhawn.

5. Nag yw hi'n bryd ei dorri fe 'to, hippy?
Blydi hell nachdi. Nai aros rhyw fis arall o leiaf dwi'n meddwl er mwyn i fy ngwalt cyrliog fod yn ei holl ogoniant.
A'r noson honno aeth Wil i'w wely heb damaid o gacen prygenwair ei fam. "Cwaaac"
Rhithffurf defnyddiwr
Wilfred
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 872
Ymunwyd: Llun 19 Ion 2004 6:49 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Re: Pump am y Penwythnos, 26.1.2007

Postiogan joni » Gwe 26 Ion 2007 11:41 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gyflawni her?
Fel Gasyth a'r Corach, dwi'n credu taw'r ffaith nes i godi bore ma yw' her dwetha i mi gyflawni.

2. Beth yw'r her nesaf yr hoffech chi ei chyflawni?
Stopio fy hun rhag mynd mas heno

3. Beth yw'ch prif ragfarn?
2 beth dwi'n casau:-
1) Pobl rhagfarnllyd
2) gogs

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'ch gwallt?
Mis Awst

5. Nag yw hi'n bryd ei dorri fe 'to, hippy?
Siwr o fod, ond allai'm fod yn bothered.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos, 26.1.2007

Postiogan Manon » Gwe 26 Ion 2007 11:41 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gyflawni her?
Clwt diweddara'r babi, tua pum munud yn ol. :o

2. Beth yw'r her nesaf yr hoffech chi ei chyflawni?
Tro nesa' 'dwi efo PMT, 'dwi ddim am gael haircut (geiriau Dad neithiwr, "O, Manon! ti 'di cael Michael Jackson haircut!") :drwg:

3. Beth yw'ch prif ragfarn?
'dwi'n dal dig at bobol oedd yn anheg efo fi pan o'n i yn 'rysgol.

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'ch gwallt?
Dydd Mawrth.
when the whole world wants to answer right now just to tell you once again: who's bad?


5. Nag yw hi'n bryd ei dorri fe 'to, hippy?
Ma' isho 'neud wbath wir Dduw. Wig, extentions, neu torri fo'n fyrrach byth. O blydi hel :crio:
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos, 26.1.2007

Postiogan dave drych » Gwe 26 Ion 2007 12:07 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gyflawni her?

Ddoe. Ymarfer pel-droed cyntaf ers cyn y Nadolig. It wasn't pretty! Mae hyd yn oed fy nwylo i'n brifo heddiw :ofn:

2. Beth yw'r her nesaf yr hoffech chi ei chyflawni?

Wel, dwi'n derbyn dissertation fi'n nol bore 'ma ar ol iddo gael ei marcio. Mae gennai 3 wythnos rwan imi allu ei gwblhau. Dwi ddim yn edrych ymlaen at neud o.

3. Beth yw'ch prif ragfarn?

Dwi'm yn hoffi pobl dre. Na 'chwaith pobl ifanc sy'n dod o teuluoedd cyfoethog.

4. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'ch gwallt?

Mis Rhagfyr.

5. Nag yw hi'n bryd ei dorri fe 'to, hippy?

Wel, mae gwallt fi'n tyfu yn aruthrol o gyflym so dwi di give-up ar ei gadw yn fyr blynyddoedd yn nôl. Dwi'n due torriad mewn ychydig o wythnosau - dwi'n mynd adre mewn pythefnos, so ga'i un adeg yne. Am ddim.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron