Pump am y Penwythnos, 2.2.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Beti » Gwe 02 Chw 2007 5:55 pm

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Sori am amharu ar yr edefyn, ond wyddoch chi pan dachi'n cael breuddwyd hynnod o fyw, ac wedyn yn gweld y bobl yn y cnawd - ac yn cael 'bach o banic yn meddwl tybed ydyn nhw'n "gwbod", wel mae hynna newydd ddigwydd i fi!

Mr Gasyth, mi roeddat ti yn fy mreuddwyd neithiwr! Cofio dim amdani, mond dy fod ti yno!....ac mai merch oeddat ti... :lol:

Od.

Parhaed y penwythnos!


Omeigoad - dwi'n cal hein. A breuddwydio am bobl random oedd yn yr ysgol efo ti a ti heb weld nhw sdalwm a wedyn ti'n gweld nhw! Bw!

Ie - joiwch y penwsnos!
I futa fo!
Beti
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 706
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 12:47 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 02 Chw 2007 5:59 pm

Ond dwi 'rioed wedi'i weld o/hi!
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos, 2.2.2007

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 02 Chw 2007 6:34 pm

1. Pwy yw'r un person ddylech chi wir gael nôl mewn cysylltiad â nhw?
Neb. O gwbl.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi siarad â'r person yma?
...

3. O gael dewis unrhyw le yn y byd, ble fyddech chi'n mynd â'r person?
Dw i'm am allu llenwi gweddill hwn nadw?

4. Beth fyddech chi'n gwneud yn y lle 'ma?
Nadw

5. Cawod neu fath, y diawl drewllyd?
Bath ond cawod fel arfer.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos, 2.2.2007

Postiogan anffodus » Gwe 02 Chw 2007 6:42 pm

1. Pwy yw'r un person ddylech chi wir gael nôl mewn cysylltiad â nhw?
chydig o bobl o'n i'n coleg y bala efo nhw dipyn yn ol.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi siarad â'r person yma?
mis awst a mis medi

3. O gael dewis unrhyw le yn y byd, ble fyddech chi'n mynd â'r person?
bala!

4. Beth fyddech chi'n gwneud yn y lle 'ma?
cal kebab yn y kebabws cyn mynd rownd y dre am sgwrs

5. Cawod neu fath, y diawl drewllyd?
erbyn hyn dwi heb gal bath ers dwy flynadd a hannar! ond mi ges i amball gawod er hynny
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Re: Pump am y Penwythnos, 2.2.2007

Postiogan eusebio » Gwe 02 Chw 2007 7:44 pm

1. Pwy yw'r un person ddylech chi wir gael nôl mewn cysylltiad â nhw?
'Dwi wedi colli cysylltiad ag un ffrind coleg da iawn, ac wedi syrffio'r we, friendsreunited ac wedi googlo llwyth i geisio dod o hyd iddo ...

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi siarad â'r person yma?
Blwyddyn wedi i mi adael coleg, felly 'da ni'n sôn am 15 mlynedd

3. O gael dewis unrhyw le yn y byd, ble fyddech chi'n mynd â'r person?
Gêm ffwt

4. Beth fyddech chi'n gwneud yn y lle 'ma?
Janglo a gwylio'r ffwt

5. Cawod neu fath, y diawl drewllyd?
Cawod pob dydd ond bath o leiaf unwaith yr wythnos - mae'n well i'r hen Nobby Stiles ...
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Pump am y Penwythnos, 2.2.2007

Postiogan krustysnaks » Gwe 02 Chw 2007 7:46 pm

1. Pwy yw'r un person ddylech chi wir gael nôl mewn cysylltiad â nhw?
Llwyth o bobl nes i gwrdd â nhw yn America trwy'r haf, yn enwedig Sean o Tuscon, AZ a Devin o Oberlin, OH.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi siarad â'r person yma?
Sean - tua pythefnos yn ôl ond sgwrs fer oedd hi i drefnu pryd mae'n dod draw i ymweld. Devin - cyn Nadolig!

3. O gael dewis unrhyw le yn y byd, ble fyddech chi'n mynd â'r person?
Mae Sean yn dod draw i Gaer-grawnt ac mae hynny'n le da dwi'n meddwl. Devin - fysen i'n hoffi mynd i'w weld yn y Coleg yn Oberlin, i ddweud y gwir.

4. Beth fyddech chi'n gwneud yn y lle 'ma?
Sean - mynd i'r dafarn a chael sgwrs hir iawn. Devin - sgwrs hir iawn yng nghanol gweithgareddau "all-gyrsiol".

5. Cawod neu fath, y diawl drewllyd?
Dwi heb gael cawod ers tridie! Dyma'r hiraf fyddai'n mynd byth heb gawod. Ond cawod bob tro. Roeddwn i'n arfer bo yn foi bath ond maen nhw'n cymryd gormod o amser (er i bob cawod gymryd o leia hanner awr).
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos, 2.2.2007

Postiogan Wierdo » Gwe 02 Chw 2007 10:50 pm

1. Pwy yw'r un person ddylech chi wir gael nôl mewn cysylltiad â nhw?
Sili. Dwin hoples yn cadw mewn cysylltiad

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi siarad â'r person yma?
Go iawn? Cyn dolig. Dros fy mlog...neithiwr (yn feddw)

3. O gael dewis unrhyw le yn y byd, ble fyddech chi'n mynd â'r person?
Yyyyym Ar ol iddi fod a fi i weld Dr who, (diolch am huna gyda llaw) dwin meddwl sanin mynd am beint mewn pyb hen fashwn (efo David Tennant Hefyd wrth sgwrs :winc: a wedyn i gig rwyn fatha....Leonard Cohen neu Tom Waits. Dwisho deud Leonard Cohen, chos swnin gwbo mwy o'r caneuon. Ond diom rili ots

4. Beth fyddech chi'n gwneud yn y lle 'ma?
Meddwi canu a rhoi'r byd yn ei le (a joio mbach fo Tennant :winc:)

5. Cawod neu fath, y diawl drewllyd?
Yn ddiweddar, Bath. Efo lot o bybls.
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Re: Pump am y Penwythnos, 2.2.2007

Postiogan nicdafis » Sad 03 Chw 2007 12:15 pm

1. Pwy yw'r un person ddylech chi wir gael nôl mewn cysylltiad â nhw?

Sawl ffrind o'r Waun, dyddiau ysgol, ac ambell un o'r coleg, ond yn bennaf fy ffrind o hipi (gynt) Sebastian Holmes, sy erbyn hyn yn <i>marine biologist</i> ac felly yn teitio o gwmpas yn aml. Dylwn i sgwennu at ei fam, siwr o fod.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi siarad â'r person yma?

Rhyw 3 neu 4 blynedd yn ôl, yn y Cross Keys, Selatyn.

3. O gael dewis unrhyw le yn y byd, ble fyddech chi'n mynd â'r person?

Hoffwn i fynd yn ôl i dafarn yn Lyme Regis, Dorset, a finnau gyda digon o arian i brynu peint iddo fe y tro 'ma.

4. Beth fyddech chi'n gwneud yn y lle 'ma?

Gw. uchod.

5. Cawod neu fath, y diawl drewllyd?

Dim ond un bath dw i wedi cael yn y lle 'ma - gormod o hasl. Cawod (bron) bob dydd.

Oce, bob yn ail ddydd.

Bron.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai