1. Pwy yw'r un person ddylech chi wir gael nôl mewn cysylltiad â nhw?
ymmm, ma na ddigon o bobl dwi'n wael iawn am gadw mewn cysylltiad a nhw ond dwi'n meddwl ar y funud ma'r ddwy chwaer Lowri a Lois
2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi siarad â'r person yma?
ymmm, wthnos dwytha ond dwi heb gal sgwrs iawn fo nhw ers dalwm iawn iawn iawn iawn iawn
3. O gael dewis unrhyw le yn y byd, ble fyddech chi'n mynd â'r person?
steddfod ond fel bod na'm lle i ddianc!
4. Beth fyddech chi'n gwneud yn y lle 'ma?
deffro tua 2 yn pnawn cal peint ar y maes, gwylio bandia ar y maes, bwyd yn gorlan, newid, mynd i gig, isda rownd y tan, deffro fo hangofyr ac ailadrodd hyn i gyd eto!
5. Cawod neu fath, y diawl drewllyd?
os ti'n sdeddfod cawod ofiysli (ych) fel arall unrhyw un!!!