Pump am y Penwythnos 9.2.07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos 9.2.07

Postiogan Dwlwen » Gwe 09 Chw 2007 10:49 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi adeiladu dyn/dynes eira? (Digrifiwch e/ hi)
2. Cynigwch ‘top tip’ er mwyn cadw’n gynnes…
3. Beth yw peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed am aelod o’ch teulu?
4. …y peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed amdano’ chi’ch hun?
5. …y peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed ffŵl stop?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos 9.2.07

Postiogan Ray Diota » Gwe 09 Chw 2007 10:59 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi adeiladu dyn/dynes eira? (Digrifiwch e/ hi)
sai'n cofio'r tro dwetha... ond ma llun wiced o'r brawd pan odd e'n fach fach yn cachu pans 'da'r ecseitment o'i ddyn eira cynta... :)

2. Cynigwch ‘top tip’ er mwyn cadw’n gynnes…
Dwi'n gwisgo pashmina heddi. Dim jocan!! :o :?

3. Beth yw peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed am aelod o’ch teulu?
wedodd Iesu Nicky Grist wrthai mewn neges breifat ddechre'r wthnos bod nhad yn edrych fel derek brockway...

4. …y peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed amdano’ chi’ch hun?
rhywun NEWYDD weud wrthai bo fi'n edrych fel cymeriad rhys ifans off notting hill. "fuck off" medde fi.

5. …y peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed ffŵl stop?

oddech chi'n gwbod bo jeremy paxman yn riddled efo arthritis - h.y. bod e braidd yn gallu symud?

pwy yw'r hard man nawr te, paxo?
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pump am y Penwythnos 9.2.07

Postiogan Sili » Gwe 09 Chw 2007 11:26 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi adeiladu dyn/dynes eira? (Digrifiwch e/ hi)
Efo'n chwaer chydig flynyddoedd n'ol. Nath un o gwsmeriaid dad refersio drosta fo dan wenu, felly tra fod o'n gweld fy nhad, dyma'r ddwy ohonom ni'n llenwi cefn ei gar efo eira drwy ffenest agored :crechwen:

2. Cynigwch ‘top tip’ er mwyn cadw’n gynnes…
Os fyddwn i'n gwbod yr atab, beryg na fyddwn i ddim mor sal rwan hyn.

3. Beth yw peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed am aelod o’ch teulu?
Fy hen hen anti ar ochr dad odd mistress Auldus Huxley. Www a mi briododd hen anti arall rhyw Albanwr o statws uchel cyn i'r ddau gymryd 'overdose' anferth o gyffuriau a rhoi eu plas (a nhwtha) ar dan :D Odd fy hen daid yn filiwnydd 'fyd.

4. …y peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed amdano’ chi’ch hun?
Mi ddudodd mam wrthai echddoe mod i wedi curo teulu'n anti i gyd mewn gem o trivial pirsuit pan oni'n dipyn iau. Dwi'n ama na fyddwn i'n medru rwan...

5. …y peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed ffŵl stop?
Mi glywis yn ddiweddar fod gitarydd Fleetwood Mac yn byw yn Harlech a fod dad di trwsho'i washing mashin 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos 9.2.07

Postiogan Manon » Gwe 09 Chw 2007 12:27 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi adeiladu dyn/dynes eira? (Digrifiwch e/ hi)
Tua tair mlynadd yn ol pan odda ni'n byw yn y Felinheli. Jenkin oedd enw fo ac roedd o'n gampwaith.

2. Cynigwch ‘top tip’ er mwyn cadw’n gynnes…
Gwres canolog.

3. Beth yw peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed am aelod o’ch teulu?
Yn ol Nain, 'da ni'n "direct decendants of Llywelyn Fawr, you know. Which means you are a princess, manon". 8)
Mae fy mab bach hefyd yn ddiddorol iawn ar hyn o bryd... Mae o'n dysgu cyfri ond 'mond wedi cyrraedd dau, ac wedi anghofio un, felly mae o'n cerdded o gwmpas yn dweud "dau, dau, dau", sy'n swnio i'r Saeson yn baby gym fatha "die, die, die" :crechwen:

4. …y peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed amdano’ chi’ch hun?
Nesh i gael fy regresho i fywyd o blaen wsos dwytha... o'dd hwnna'n reit ddiddorol. (Ond 'dwi 'myn coelio fo)

5. …y peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed ffŵl stop?
Albym Suzzy Roche. Mae o'n tyfu ana fi fatha fungus.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos 9.2.07

Postiogan Dwlwen » Gwe 09 Chw 2007 12:51 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi adeiladu dyn/dynes eira? (Digrifiwch e/ hi)
Tua 7 mlynedd yn ôl... Odd 'da ge lyged glo.

2. Cynigwch ‘top tip’ er mwyn cadw’n gynnes…
Siocled poeth. A rhoi'ch dwylo dan 'ych cesiliau a'ch traed mewn i'ch pengliniau :)

3. Beth yw peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed am aelod o’ch teulu?
'Nath rhywun ofyn i Dad 'neud exorcism unwaith :lol:

4. …y peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed amdano’ chi’ch hun?
Aparyntli, 'nes i wrthod dysgu/ siarad Saesneg tan o'n i tua 6 am bod e'n 'iaith sili'. Es i at therapist a phob dim - ond sai'n cofio (wel, wy'n cofio mynd 'na, ond o'n i dan yr argraff taw problem clywed odd 'da fi ar y pryd... :? )

5. …y peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed ffŵl stop?
'Nath 'im byd neidio i'r meddwl, ond ar ôl cael pip fan hyn, 'nath hwn i fi wenu:
Plastic lawn flamingos outnumber real flamingos in the U.S.A.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos 9.2.07

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 09 Chw 2007 12:54 pm

Dwlwen a ddywedodd:2. Cynigwch ‘top tip’ er mwyn cadw’n gynnes…
Siocled poeth. A rhoi'ch dwylo dan 'ych cesiliau a'ch traed mewn i'ch pengliniau :)

Un droed mewn i'r benglin arall, dwi'n cymryd! Mi 'sdteddish i am sbel yn trio rhoi fy nhroed dde yn fy mhenglin dde... :lol:

Dwlwen a ddywedodd:4. …y peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed amdano’ chi’ch hun?
Aparyntli, 'nes i wrthod dysgu/ siarad Saesneg tan o'n i tua 6 am bod e'n 'iaith sili'. Es i at therapist a phob dim - ond sai'n cofio (wel, wy'n cofio mynd 'na, ond o'n i dan yr argraff taw problem clywed odd 'da fi ar y pryd... :? )

Ciwt. O'n i ddim yn gallu siarad Saesneg nes tua 7 oed chwaith...

Dwlwen a ddywedodd:5. …y peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed ffŵl stop?
'Nath 'im byd neidio i'r meddwl, ond ar ôl cael pip fan hyn, 'nath hwn i fi wenu:
Plastic lawn flamingos outnumber real flamingos in the U.S.A.

Rhai gwyrdd?? 8)
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Cymro13 » Gwe 09 Chw 2007 12:59 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi adeiladu dyn/dynes eira? (Digrifiwch e/ hi)

Dydd Nadolig 2004 ym Maesteg - Erbyn i ni roi ein hetiau a sgarffiau arni hi on ni yn oer ond doedd dim moron ar ol fe trwyn achos bo ni di bwyta nhw i gyd am ginio Nadolig - so eitha rhyfedd

2. Cynigwch ‘top tip’ er mwyn cadw’n gynnes…

sgarff a menyg

3. Beth yw peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed am aelod o’ch teulu?

Nath Dad fi a'i ffrindiau ddwyn steamroller pan oedd yn coleg yn bangor yn dod adre ar ol bod mas ar y piss a'i gyrru hi nol i Fangor Uchaf a gan taw yn y 70au nathen nhw flocio rhyw ffordd ac am tua wythnos odd pobl yn gorfod mynd i Ynys Mon jest i droi rownd :lol:

4. …y peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed amdano’ chi’ch hun?

Fi jest yn rhyfedd a diddorol ffŵl stop :winc:

5. …y peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed ffŵl stop?

Y Toriaid yn cefnogi Deddf Iaith
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan garynysmon » Gwe 09 Chw 2007 1:13 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi adeiladu dyn/dynes eira? (Digrifiwch e/ hi)
Wchi be? Sgen i 'rioed gof o wneud un :(

2. Cynigwch ‘top tip’ er mwyn cadw’n gynnes…
Peidio syrthio i'r trap 'hereditary hair loss'. Mae un golwg ar fy nhad yn gwneud i mi bryderu :?

3. Beth yw peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed am aelod o’ch teulu?
Fod Dad wedi 'streakio' mewn gem Rygbi pan yn ifanc :ofn:

4. …y peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed amdano’ chi’ch hun?
Aparyntli, roeddwn yn darllen llyfrau Ffwtbol bob nos yn yr Ysgol i ddangos fy hun y diwrnod wedyn :lol:

5. …y peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed ffŵl stop?
Enoch Powell yn siarad Cymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Pump am y Penwythnos 9.2.07

Postiogan krustysnaks » Gwe 09 Chw 2007 5:58 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi adeiladu dyn/dynes eira? (Digrifiwch e/ hi)
Alla i ddim cofio. Rhywbryd yn ystod ysgol uwchradd mwy na thebyg. Nes i golli allan ar chwarae gyda'r eira bore ddoe - sgwennu traethawd :(

2. Cynigwch ‘top tip’ er mwyn cadw’n gynnes…
Gwisgo menyg - mae'n gwneud byd o wahaniaeth.

3. Beth yw peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed am aelod o’ch teulu?
Pan nes i ffeindio allan bod y chwaer yn smocio ges i dipyn o sioc, ond doedd hynny ddim yn ddiddorol iawn. Ymm, dim syniad.

4. …y peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed amdano’ chi’ch hun?
Nath rhywun on i rioed wedi siarad gyda nhw ddweud wrthai ei fod wedi clywed fy mod i wedi "cael perthnasau" gyda un o fy ffrindiau - anwiredd llwyr!

5. …y peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed ff?l stop?
Dim ond tri côd post sydd heb Desco ym Mhrydain - Orkney's, Shetland's a Harrogate.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos 9.2.07

Postiogan Dwi'n gaeth i gaws » Sul 11 Chw 2007 9:06 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi adeiladu dyn/dynes eira? (Digrifiwch e/ hi)dwi ddim yn cofio - blwyddyn ne ddwy nol falla. jysd yr afrij dyn eira ma siwr - sgarff a moronen fel trwyn. dwi wasdad yn sal adag eira am rhyw reswm anoying

2. Cynigwch ‘top tip’ er mwyn cadw’n gynnes…
layers - o ddillad a blancedi.....

3. Beth yw peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed am aelod o’ch teulu?mrawd - huw psych - yn gwisgo fel braveheart a cal i hun mewn ffeit ar noson allan...a cal 5 pwyth

4. …y peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed amdano’ chi’ch hun?ma lot o ffrindia adra yn meddwl bo fi'n caerdydd yn coleg... a dwi mond yn bangor... di huna'm yn ddiddorol iawn... allaim meddwl am ddim byd arall... fi di un o bobl mwya anghofus criw ni!

5. …y peth mwyaf diddorol/ rhyfedd i chi glywed ff?l stop?ymmmm, dwi'n clwad lot o betha diddorol ond yn anghofio nhw'n syth... ma na un math o bryfid yn byw am funud yn unig....
blew
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n gaeth i gaws
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 782
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 6:38 pm
Lleoliad: yn y dwr

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron