1. Pa mor hir allwch chi ddal eich anadl?
Tro diwetha i mi drial, rhyw 45 eiliad. Sy ddim yn dda iawn, am wn i.
2. Ydych chi'n gallu cyffwrdd eich trwyn gyda'ch tafod?
Ydw, ac mae hyn yn f'atgoffa o'r jôc am y dyn hyll yn y dafarn sydd yn llwyddiannus iawn gyda'r merched. Mae rhywun yn gofyn i'r barman beth yw cyfrinach y dyn hyll, ac mae'n dweud
Barman a ddywedodd:Beats me, mate. He comes in here every night and just sits there in the corner, licking his eyebrows.
Un o fy hoff jociau ers talwm, hyd yn oed pan do'n i ddim yn ei ddeall.
3. Ydych chi'n gallu dal ceiniog oddi ar eich penelin?
Ydw. Oedd hyn yn ffad gyda ni yn yr ysgol - rhywbeth i neud â Roy Castle siwr o fod. Rhyw 40 oedd fy record personol.
4. Oes unrhyw un wedi edrych arnoch chi'n rhyfedd wrth i chi wneud y pethau uchod?
Dw i ddim yn eu neud yn gyhoeddus.
5. Sawl awr tan y peint cyntaf heddi, a beth fydd y peint?
Fydd dim un heddi. Aros mewn heno, a dim cwrw yn y ty. Tamaid o Penderyn, efallai, neu win gyda swper.
<a href="http://www.ratebeer.com/beer/evan-evans-cwrw/40862/">Cwrw Evan Evans</a>, nos Fercher, siwr o fod.