Pump am y Penwythnos, 23.2.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos, 23.2.2007

Postiogan Sili » Sad 24 Chw 2007 4:19 pm

1. Pa mor hir allwch chi ddal eich anadl?
Yr amser rhwng dreifio o gychwyn twnal i'w ddiwedd.

2. Ydych chi'n gallu cyffwrdd eich trwyn gyda'ch tafod?
Nagydw.

3. Ydych chi'n gallu dal ceiniog oddi ar eich penelin?
Odw odw. Weithia... -ish...

4. Oes unrhyw un wedi edrych arnoch chi'n rhyfedd wrth i chi wneud y pethau uchod?
Dwi'n dueddol o beidio trio mewn mannau cyhoeddus.

5. Sawl awr tan y peint cyntaf heddi, a beth fydd y peint?
Un ne ddwy mwy na thebyg. Dal yn dod at fy hun ers y peintiau neithiwr ar y funud...
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos, 23.2.2007

Postiogan krustysnaks » Sad 24 Chw 2007 5:01 pm

1. Pa mor hir allwch chi ddal eich anadl?
Ddim yn hir iawn, sydd braidd yn anffodus pan dwi'n canu.

2. Ydych chi'n gallu cyffwrdd eich trwyn gyda'ch tafod?
Nac ydw.

3. Ydych chi'n gallu dal ceiniog oddi ar eich penelin?
Ydw.

4. Oes unrhyw un wedi edrych arnoch chi'n rhyfedd wrth i chi wneud y pethau uchod?
Na, dwi ar fy mhen fy hun. Sgrin y cyfrifiadur, falle.

5. Sawl awr tan y peint cyntaf heddi, a beth fydd y peint?
Fues i'n DJ-io neithiwr a'r tâl oedd diodydd am ddim drwy'r nos felly dwi wedi bod yn dioddef braidd heddiw. Falle nai gael un bach cheeky cyn last orders heno. Guinness bob tro.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai