Pump am y Penwythnos - 2.3.07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Gwe 02 Maw 2007 3:29 pm

(
Gwen a ddywedodd:Ond diolch am fy atgoffa o Urddwyn (nid Urdd-dwyn, dwi'm yn meddwl). Hogyn rhyfadd iawn...


Ia ti'n iawn - Urddwyn. Dwi erioed wedi gweld neb mor obsesd efo'r Urdd o'r blaen (fel mae'r enghraifft o'r gem oeddan ni yn ei chwarae yn ei ddangos). Roedd o bob amser yn gwisgo coch, gwyn a gwyrdd ac roedd ei got o'n fathodynnau'r Urdd drosto. Dwi'n cofio fo'n dweud mai Urddwyn Urdd oedd ei enw fo, ond dwi'm yn meddwl fod hynny'n wir - Urddwyn ap rhywbeth oedd o mae'n debyg. Mi rebeliodd yn ei arddegau a mynd i gasáu'r Urdd a phopeth y mae yn ei gynrychioli! Aeth i'r coleg yn Leeds neu Lancaster neu rywle, ac yna mae o byth yn briod efo dau o blant sy ddim yn siarad Cymraeg.)
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Re: Pump am y Penwythnos - 2.3.07

Postiogan Sili » Gwe 02 Maw 2007 5:08 pm

Beth ‘ych chi’n edrych ‘mlaen ato bob dydd Gwener?
Medru aros fyny'n hwyr gyda'r nos heb orfod poeni am godi'n fuan bora wedyn.

P’un sydd orau, dydd Gwener, dydd Sadwrn, yntau dydd Sul?
Dydd Sadwrn. Dwi'n dueddol o fod yn gweithio 9-5 dydd Gwener a wastio dydd Sul yn fy ngwely. Er dwi'n meddwl fod dydd Sadwrn reit rybish i gymharu a dydd Mawrth.

P’un oedd penwythnos gorau eich bywyd?
Erm... dwi'n cofio defnyddio'r geiria "this has been my best weekend EVER" yn reit aml yn fy mhlentyndod ond dwnim. Yn ddiweddar mashwr mai y penwythnos gesi fel ran o wylia'r cariad a minna ar ynys Enlli. Bygar bach o gwestiwn braidd Dwlwen :winc:

Oes 'na rywbeth fyddwch chi’n sicr o wneud bob penwythnos?
Gwrando ar gerddoriaeth byw. Dwi'm yn cofio'r penwythnos dwytha i mi beidio gweld band yn chwarae.

Disgrifiwch eich nos Sadwrn perffaith.
Ar hyn o bryd mi fyddai cael bod ym Mhen Llyn i fynd am beint (neu ugain) i'r Ty Newydd (ydw, dwi'n cyfaddef mod i'n methu'r lle bellach, pach!) yn wych. Cerddoriaeth byw, diod rhad a ffrindia lu cyn cerdded adref ar noson braf gan gymryd arnaf mod i'n gwbod enw pob seren efo nghariad. Rol on mis Mawrth! :D
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos - 2.3.07

Postiogan Madrwyddygryf » Sad 03 Maw 2007 12:20 am

Beth ‘ych chi’n edrych ‘mlaen ato bob dydd Gwener?
Lawrlwytho mp3 Mark Kermode a'i wrando cyn mynd allan i'r dafarn.
P’un sydd orau, dydd Gwener, dydd Sadwrn, yntau dydd Sul?
Sul di'r amser gorau i mi i ddeud y gwir. Dwi di dechrau mwynhau coginio yn ddiweddar, a mae pnawn sul yn arbenning o dda am drio rysait newydd.
P’un oedd penwythnos gorau eich bywyd?
'Ew dwnim. Ond dwi'n cofio'r penwythnos yn Helsinki '02 yn werth chweil. Y rhai gorau wrth gwrs yw rhai dechi ddim yn disgwyl. Dwi di cael ambell i neges ar y ffon am tua 8:30pm ar nos sadwrn/nos wener yn gofyn os dwisio mynd am peint. Wedyn mae'n mynd yn pete tong ar ol hynny.....

Oes 'na rywbeth fyddwch chi’n sicr o wneud bob penwythnos?
Bore sul, paned o goffi yn darllen observer ar times ar y we. Lyfli.
Disgrifiwch eich nos Sadwrn perffaith.[/quote]
codi'n hwyr, cael cinio yn saffrons, wedyn mynd am sbin yn y car i rywle wedyn mynd allan yn y nos.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos - 2.3.07

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Sad 03 Maw 2007 1:13 am

Beth ‘ych chi’n edrych ‘mlaen ato bob dydd Gwener?
Ateb haws, nag yw e, dim gwaith yfori.
Ond am yr adegau wy'n gorfod mynd mewn ar dydd sadwrn w'th gwrs. :?

P’un sydd orau, dydd Gwener, dydd Sadwrn, yntau dydd Sul?
Se chi di trefnu mynd mas o flân llaw, nos wener bob tro - ma diwrnod cyfan 'da chi ar ôl ni i gal gwared y hangover a mynd mas 'to, se chi' moyn.
Fel wedodd GDG, gymaint o posibiliade, sy bron byth yn gael eu gyflawni. Ond o leia ma 'na gobeth :winc:.

P’un oedd penwythnos gorau eich bywyd?
O'n ni' arfer joio y penwythnose cynnar y flwyddyn yn brifysgol yn fawr iawn - pan o'dd neb di dechre gwitho yn iawn 'to, a oedd pawb 'da dala lan i'w neud. R'un 2005 yn 'itha da fel fi'n cofio.

Wastod yn joio Gwyl Reading pob blwyddyn 'ed.

Oes 'na rywbeth fyddwch chi’n sicr o wneud bob penwythnos?
Ay - whare Champ yn orie hwyr nos wener. So fe'n newid os dw i di aros mewn, bod mâs lawr dre ne mâs lleol am gwpl o beints - fi methu stopo'n hunan rhag troi'r laptop ar, a whare Fwtbal Manager.
Uffach ti'n gallu neud seinings twp pryd ti'n rhacs jibederes. :?

Disgrifiwch eich nos Sadwrn perffaith.
Gal cwpl o ddrincs yn y ty, watchan peth rygbi ne Big Jeff Stelling Show ar y teledu, mâs lawr ty fy mhet am ddrinced, cwrdd a'r weddill a fynd am dre. Soffistigedig iawn 'dife.

Ond w'th gwrs pryd o fwyd a ffilum 'da'r wejen siwto' fi'n iawn fyd. :)
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Re: Pump am y Penwythnos - 2.3.07

Postiogan Mwddrwg » Sad 03 Maw 2007 8:54 pm

Beth ‘ych chi’n edrych ‘mlaen ato bob dydd Gwener?
yfed yn ormodol safe in the knowledge fy mod am gael cysgu'n hwyr a gwylio re-runs o 'the new adventures of superman' fore sadwrn

P’un sydd orau, dydd Gwener, dydd Sadwrn, yntau dydd Sul?
nos wener (os na fydda i'n gweithio dros y penwythnos)

P’un oedd penwythnos gorau eich bywyd?
penwythnos hir ym Marcelona efo 'nghariad neis yn bwyta tapas a pintxos ac yfed rioja rhad blasus... ar ol taro mewn i dim Barcelona yn y Nou Camp... :P

Oes 'na rywbeth fyddwch chi’n sicr o wneud bob penwythnos?
bwyta, tramampolinio. a chael cweir gan fy nghariad am beidio golchi llestri tan nos Sul

Disgrifiwch eich nos Sadwrn perffaith.
thai green curry a riesling tim adams; caws green thunder snowdonia a mreng soffa i ddilyn
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron