Pump am y Penwythnos - 2.3.07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos - 2.3.07

Postiogan Dwlwen » Gwe 02 Maw 2007 11:44 am

Beth ‘ych chi’n edrych ‘mlaen ato bob dydd Gwener?
P’un sydd orau, dydd Gwener, dydd Sadwrn, yntau dydd Sul?
P’un oedd penwythnos gorau eich bywyd?
Oes 'na rywbeth fyddwch chi’n sicr o wneud bob penwythnos?
Disgrifiwch eich nos Sadwrn perffaith.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 2.3.07

Postiogan Griff-Waunfach » Gwe 02 Maw 2007 11:49 am

Beth ‘ych chi’n edrych ‘mlaen ato bob dydd Gwener?
Mynd adre!
P’un sydd orau, dydd Gwener, dydd Sadwrn, yntau dydd Sul?
Dydd Sadwrn
P’un oedd penwythnos gorau eich bywyd?
ummm....
Oes 'na rywbeth fyddwch chi’n sicr o wneud bob penwythnos?
Yfed shite load o coffi!
Disgrifiwch eich nos Sadwrn perffaith.
tafarn, cerddoriaeth byw, cwmni da!
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos - 2.3.07

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 02 Maw 2007 11:51 am

O'n i ar fin postio rhai fy hun...

Beth ‘ych chi’n edrych ‘mlaen ato bob dydd Gwener?
The Perry Bible Fellowship yn y Grauniad.

P’un sydd orau, dydd Gwener, dydd Sadwrn, yntau dydd Sul?
Dydd Gwener. Mae 'na gymaint o botensial, sydd, erbyn dydd SUl, heb ei wireddu.

P’un oedd penwythnos gorau eich bywyd?
Dyfala. Gwon, dyfala.

Oes 'na rywbeth fyddwch chi’n sicr o wneud bob penwythnos?
Yfed.

Disgrifiwch eich nos Sadwrn berffaith.
Ffilm gynnar (tua pump), mynd am damaid i fwyta, wedyn cwpwl o ddiodydd mewn rhywle neis fel Chapter, cyn mynd down 'n' dirty yn rhywle fel Dempseys. Gyda cherddoriaeth dda, wrth gwrs.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos - 2.3.07

Postiogan Wierdo » Gwe 02 Maw 2007 12:00 pm

Beth ‘ych chi’n edrych ‘mlaen ato bob dydd Gwener?
Day off. Haha, diolch mathemateg!

P’un sydd orau, dydd Gwener, dydd Sadwrn, yntau dydd Sul?
Dydd Gwener. Dosa ddim comic newydd (ar y we) na neibys ar ddydd Sadwrn na dydd Sul!

P’un oedd penwythnos gorau eich bywyd?
Ewadd. Dim syniad (faint o bobl sydd actiwli yn allu ateb hwn?!)

Oes 'na rywbeth fyddwch chi’n sicr o wneud bob penwythnos?
Cysgu. Lot. Eistedd o flaen y teledu. Lot (dwin gwneud hynny bethbynnag). Pump am y penwythnos

Disgrifiwch eich nos Sadwrn perffaith.
Fel dwi'n teimlo rwan, noson ar y soffa efo ffilm da, panad, siocled neis a 'nghariad. Och sa huna'n neis!
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Re: Pump am y Penwythnos - 2.3.07

Postiogan joni » Gwe 02 Maw 2007 12:02 pm

Beth ‘ych chi’n edrych ‘mlaen ato bob dydd Gwener?
Diwedd yr wthnos a cael mynd adre. Heblaw am pan i fi'n gweithio ar ddydd sadwrn, wedyn ma dydd gwener yn over-rated.
P’un sydd orau, dydd Gwener, dydd Sadwrn, yntau dydd Sul?
Dydd Sadwrn. Digon o chwaraeon i gael i gadw dyn yn entertained.
P’un oedd penwythnos gorau eich bywyd?
Dim syniad. O'dd un wthnos dwetha yn itha da.
Oes 'na rywbeth fyddwch chi’n sicr o wneud bob penwythnos?
Cael diod meddwol.
Disgrifiwch eich nos Sadwrn perffaith.
Cwpl o ddrincs gyda ffrindie a malu cachu mewn tafarn bywiog.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos - 2.3.07

Postiogan Dwlwen » Gwe 02 Maw 2007 12:07 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:P’un oedd penwythnos gorau eich bywyd?
Dyfala. Gwon, dyfala.

Wwww, joio! Gig Ashokan yn Journeys slawer dydd. Gwrddest ti flonden meddw 'nath rhoi llond ceg i ti (which was returned, diolch), yna dwyn dy got, yna dwyn bathodynau benni hyll :winc:

Guess go iawn: Maesymorfa '05.

'yf fi'n iawn??
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 2.3.07

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 02 Maw 2007 12:13 pm

Dwlwen a ddywedodd:Wwww, joio! Gig Ashokan yn Journeys slawer dydd. Gwrddest ti flonden meddw 'nath rhoi llond ceg i ti (which was returned, diolch), yna dwyn dy got, yna dwyn bathodynau benni hyll :winc:


Hmmmm, agos...

Delwedd
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos - 2.3.07

Postiogan Daffyd » Gwe 02 Maw 2007 12:20 pm

Beth ‘ych chi’n edrych ‘mlaen ato bob dydd Gwener?
Ma'r teimlad o ryddhad ac y ffaith fod hi'n ddydd Sadwrn y dwrnod wedyn yn gret. Ma'r TV yn gwella fyd.

P’un sydd orau, dydd Gwener, dydd Sadwrn, yntau dydd Sul?
Dydd Sadwrn dim dowt. Ffwti ar y TV, pawb yn rhydd o ddarlithoedd ac ma ganol y ddinas yn brysur. Ac hefyd Match of the Day.

P’un oedd penwythnos gorau eich bywyd?
Un o'r goreuon oedd mynd lawr i Abertawe mewn fan glas efo Eryr a BOB efo Hefin yn dreifio. Chwara gig yn feddw gaib Abertawe, cal hotel yn Abertawe, ffilmio fideo i Bandit y dwrnod wedyn, mynd ar y piss i gig yn y Riverside, wedyn aros fyny trw nos yn yfad efo Dei Morlo cyn mynd ymlaen i Eryr cael ffilmio i Bandit, and then home james. Uffar o laff.

Oes 'na rywbeth fyddwch chi’n sicr o wneud bob penwythnos?
Sbio ar rhyw fath o bel-droed, os dwi'n gallu.

Disgrifiwch eich nos Sadwrn perffaith.
Mynd allan rownd Pwllheli efo'r 'ogia', wedyn fod Match of the Day ymlaen tua 3 y bora so fysw ni ddim yn ei fethu fo. W, ac fod y missus draw fyd. O a mynd am fwyd Chinese cyn hyn i gyd.
We don't live in Ameri-can't, Steve. We live in Ameri-can. Oh no wait....
Rhithffurf defnyddiwr
Daffyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1423
Ymunwyd: Llun 05 Gor 2004 10:37 pm
Lleoliad: Caerdydd/Mynytho

Re: Pump am y Penwythnos - 2.3.07

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 02 Maw 2007 12:24 pm

Beth ‘ych chi’n edrych ‘mlaen ato bob dydd Gwener?
Y gloch. A'r beint cynta.
P’un sydd orau, dydd Gwener, dydd Sadwrn, yntau dydd Sul?
Dydd Sadwrn - diogi, stwna, byta, yfed, joio. Dwi'm yn hoffi ticking clock dydd Sul.
P’un oedd penwythnos gorau eich bywyd?
Oh, man ma'n amhosib bron...Phoenix 96? Mynd mashd yp mewn gwyl am y tro cynta a chlywed Bjork, Prodigy, Chemical Bros, Super Furries, Pharcyde, a JTQ mewn un penwythnos. Oedd Glasto 03 yn agos fyd, ond doedd dim yr un teimlad o ryddid a diniweidrwydd.
Oes 'na rywbeth fyddwch chi’n sicr o wneud bob penwythnos?
Yfed. Coffi a chwrw. Sdim byd arall yn garantîd.
Disgrifiwch eich nos Sadwrn perffaith.
Gwersylla yng nghanol rhywle anghysbell gyda llwyth o ffrindiau, cwrw, smôcs, a thanllwyth o dân i'w brocio. Perffaith.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Pump am y Penwythnos - 2.3.07

Postiogan Chwadan » Gwe 02 Maw 2007 12:24 pm

Beth ‘ych chi’n edrych ‘mlaen ato bob dydd Gwener?
Pump am y Penwythnos :wps: On i'n meddwl basa na rywun wedi deud hyn erbyn rwan...

P’un sydd orau, dydd Gwener, dydd Sadwrn, yntau dydd Sul?
Dydd Gwener.

P’un oedd penwythnos gorau eich bywyd?
Trip Caeredin 2007 ella - oedd hwnna'n homar o wicend :D

Oes 'na rywbeth fyddwch chi’n sicr o wneud bob penwythnos?
Llymeitian.

Disgrifiwch eich nos Sadwrn perffaith.
O wawi. Sa fo'n dechra efo bwyd, siocled a lot fawr o win pinc efo'r genod, wedyn gig a dawnsio fel ffwl, o bosib mewn gwisg ffansi hollol an-secsi. Falle ffeindio'r dyn ifanc i neud paned i mi tua tri o'r gloch y bore wedyn. O arhoswch - penwsnos nesa fydd fy mhenwsnos perffaith! Iei!
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron