Beth ‘ych chi’n edrych ‘mlaen ato bob dydd Gwener?Gadael yn gynnar.
P’un sydd orau, dydd Gwener, dydd Sadwrn, yntau dydd Sul?Dydd Gwener, am y rheswm uchod, ynghyd â'r ffaith fod y penwythnos yn ymestyn o mlaen i yn llawn posibliadau. Nos Wener yn lot gwell noson na nos Sadwrn i fynd allan hefyd gan fod pawb yn fwy lêd bac a ddim yn sdresio gymaint am 'dynnu'.
P’un oedd penwythnos gorau eich bywyd?Wel, Noson y Ffiasgo oedd y nos Sadwrn ora, ond roedd y dydd Sul wedyn yn artaith. Fiw i mi ymhelaethu mae arna i ofn. Wel, ella y gna i am y dydd Sul hefyd. Cyfunwch gydwybod euog a chyw iâr wedi ei adael yn hir mewn dw^r. Teimlo'n reit nôsiys wrth feddwl am y peth, deu gwir. Gobeithio na ddaw'r fath beth byth i'ch rhan.
Oes 'na rywbeth fyddwch chi’n sicr o wneud bob penwythnos?Cysgu'n hwyr.
Disgrifiwch eich nos Sadwrn perffaith.Erbyn hyn, noson i mewn achos dwi'n rhy hen i nosweithiau Sadwrn allan. Y nos Sadwrn berffaith i mi fyddai nos Sadwrn o ha yn yfad poteli o gwrw tan yr oria mân ar batio fy rhieni adra. Iard gefn ty ni yn o lew am hyn, ond ddim cystal â Rhiwlas. Gesh i a'r Twyllwr benwythnos hir o neud dim ond hyn (heb fawr ddim cwsg) rha dwytha tra oedd fy rhieni ar eu gwylia. Y cwbwl oedd disgwyl i ni neud oedd dyfrio'r bloda, ac mi naethon hynny ar y bore Llun cyn cychwyn yn ôl. Jysd biti fod paranoia ynglyn â phrowlar dychmygol y dyn drws nesa wedi tarfu braidd arnan ni...
( Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:Yn fy ugeiniau mae penwythnosau yr Adran Gymraeg ac Eraill reit ddoniol i sbio'n ol arnyn nhw, y Groucho Clyb, a Chyflafan Fawr Caerfyrddin, pan aeth yn frwydr rhwng y dosbarthiadau!
Be am Noson y Ffiasgo i chditha hefyd? Roedd na elfen atgas iawn yn nosweithia'r Adran Gymraeg ac Eraill cofia... Seicoleg gêm o bw^l, er enghraifft.
Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:Gardd gwrw, sgwrsio a chwerthin iach!
Ti'n siwr? Ges di un atgas iawn o'r rhein ryw dro hefyd...
Ond diolch am fy atgoffa o Urddwyn (nid Urdd-dwyn, dwi'm yn meddwl). Hogyn rhyfadd
iawn...
)